2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru ar 2 Mai 2018.
5. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion y gyfraith Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban ar ôl cyfeirio'r Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) at y Goruchaf Lys? OAQ52086
Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau newidiadau i Fil ymadael â'r UE Llywodraeth y DU. Fel rhan o'r cytundeb, bydd Llywodraeth y DU yn gofyn i swyddogion y gyfraith wneud cais i'r Goruchaf Lys i ddiddymu'r cyfeiriad a wnaed i'r llys mewn perthynas â Bil parhad Cymru.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol. Yn amlwg, ers imi gyflwyno'r cwestiwn, mae pethau wedi symud ymlaen ychydig, ac o ganlyniad rydych wedi nodi'r camau a gymerwyd. Fodd bynnag, mae'n bosibl fod cynsail wedi'i sefydlu yma; y bwriad yn amlwg oedd mynd â'r Bil hwn i'r Goruchaf Lys pe na bai'r gwelliannau hynny wedi'u cytuno. O ganlyniad, yn y pen draw, gallem, ac rydym mewn sefyllfa lle roeddem yn y Goruchaf Lys ar gyfer ein Bil, tra bod Bil UE Llywodraeth y DU yn mynd drwodd. Beth fyddai'r sefyllfa gyfreithiol mewn perthynas â chael ein dal o fewn y Goruchaf Lys tra bo Biliau'r DU yn cael eu pasio, ac felly'n cael Cydsyniad Brenhinol, ond ein bod yn dal i aros am ganlyniad penderfyniad y Goruchaf Lys cyn inni allu cael Cydsyniad Brenhinol?
Wel, bydd yr Aelod yn ymwybodol fod hwn yn fater sydd ar feddwl y Llywodraeth mewn sawl ffordd, nid yn lleiaf y ffaith bod maint y ddeddfwriaeth a'r is-ddeddfwriaeth gysylltiedig â Brexit sydd angen mynd ar ei thrywydd a'i gweithredu wedi ei gwneud yn ofynnol i holl Lywodraethau'r DU, a'r holl ddeddfwrfeydd, ddechrau'r gwaith cyn gynted â phosibl. Felly, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, gwnaed cais i'r Goruchaf Lys i gyflymu'r gwrandawiad ar y mater. Mae'r cais hwnnw i gyflymu yn parhau i fod ar waith, ac yn amlwg ni fyddwn yn ei dynnu'n ôl hyd nes y tynnir y cyfeiriad ei hun yn ôl, ac nid oes penderfyniad wedi'i wneud eto gan y Goruchaf Lys ynghylch cynnal y gwrandawiad yn gynt. Yr hyn y byddem yn ei ddisgwyl a'r hyn sydd ei angen yw i'r Twrnai Cyffredinol dynnu'r cyfeiriad yn ôl os caiff y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ei gymeradwyo gan y Cynulliad maes o law. Mae hwnnw'n amlwg yn fater i'r Cynulliad ei ystyried. Ac ar yr adeg honno, bydd y Bil parhad ar gael i'w gyflwyno ar gyfer Cydsyniad Brenhinol. Efallai fod hynny'n ymddangos yn gam rhyfedd i'w gymryd o dan yr amgylchiadau, ond fel y bydd yr Aelod ac eraill yn gwybod, ni fydd yn bosibl dirymu'r Bil parhad heb iddo gael ei gyflwyno yn y ffordd honno am Gydsyniad Brenhinol.