Part of the debate – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 2 Mai 2018.
Hoffwn ofyn i'r Aelodau ystyried un cwestiwn syml iawn: sut y gall Aelod o'r Cynulliad hwn y barnwyd ei bod yn hiliol gynrychioli pobl groendywyll yn ei rhanbarth hi yn ddiogel? A'r ateb yw na all wneud hynny, ac rwy'n credu bod hynny'n broblem. Nawr, mae arweinydd UKIP a'r Aelod UKIP ar y panel wedi derbyn bod eu Haelod yn hiliol, ac ni fydd unrhyw nifer o lythyrau'n dyfynnu geiriau pobl eraill a allai fod yn hiliol oresgyn hynny. Hiliaeth yw hiliaeth. Mae'n annerbyniol. Nid oes iddo unrhyw le yn y sefydliad hwn nac, yn wir, yn y wlad hon.