Hygyrchedd Trenau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 8 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:30, 8 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Gwnaf. Erbyn 31 Rhagfyr y flwyddyn nesaf, mae'n rhaid i bob trên gynnwys darpariaethau ar gyfer pobl ag anawsterau symud, yn unol â safonau'r Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a bydd y dogfennau caffael ar gyfer contract gwasanaethau rheilffyrdd Cymru a'r gororau yn gorchymyn cydymffurfiad â safonau pobl ag anawsterau symud.