Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 8 Mai 2018.
Diolch am hynna. Rydym ni'n gwybod ein bod ni'n mynd i gael gweithredwr trenau newydd yng Nghymru o'r flwyddyn nesaf ymlaen. Y broblem yw ei bod yn bosib na fydd y gweithredwr newydd yn gallu cael cerbydau newydd am bedair blynedd efallai, felly gallem fod â thacteg, er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth honno a nodwyd gennych, bod y gweithredwr trenau newydd yn gorfod, neu'n credu bod yn rhaid iddo, adael toiledau wedi eu cloi ar y trenau, sy'n golygu na all neb eu defnyddio. A ydych chi'n gweld hynny fel problem bosibl i'r sawl sy'n ennill y fasnachfraint newydd?