Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 8 Mai 2018.
A gaf innau hefyd ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad manwl y prynhawn yma? Gallaf gytuno â llawer o'r hyn yr amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n ddiddorol ei fod wedi sôn bod amseroedd teithio ym 1977 yn gyflymach mewn gwirionedd rhwng Llundain a Chaerdydd nag y maen nhw heddiw.
O ran eich rhestr o anghenion cyffredinol, roeddwn i'n falch o nodi eich bod wedi gwneud cyfeiriad at fynediad i feysydd awyr. Yn arbennig, rwy'n meddwl am Fanceinion, Birmingham a Lerpwl—i gyd yn feysydd awyr pwysig, wrth gwrs, ar gyfer canolbarth a gogledd Cymru. Nid oes angen imi ddweud wrthych chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am hynny. Ond byddai'n ddiddorol pe gallech, efallai, ymhelaethu ar eich uchelgais yn hynny o beth. O'r hyn a ddeallaf, rydych wedi amlinellu y bydd Mark Barry yn cynnal achos rhaglen amlinellol strategol, a bod dau achos yn cael eu cynnig, ar gyfer y gogledd a'r de. Byddai'n ddefnyddiol cael rhai amserlenni ar hynny ar gyfer pan fydd yr achosion a'r adroddiadau hynny yn cael eu hadrodd i chi, a phryd y byddwch yn gallu adrodd yn ôl i'r Aelodau. A fydd hyn yn digwydd cyn yr ymgynghoriad y nodwyd gennych y bydd yn digwydd yn ddiweddarach eleni? Roeddwn yn falch o weld eich bod wedi cyfeirio at reilffordd y Cambrian a'r Canolbarth ddim yn cael eu hesgeuluso, ond byddai gennyf ddiddordeb mewn gweld os yw hynny'n gorwedd yn eich achos ar gyfer y gogledd neu yn eich achos ar gyfer y de. Mae'n rhaid bod hynny yn rhan o'r naill neu'r llall.
Hoffwn hefyd ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, sut y mae eich cynlluniau yn cydweddu â'r dogfennau polisi presennol hynny y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi eu cyhoeddi. Sut, er enghraifft, yr ydych chi'n bwriadu i'r uchelgais yr ydych chi wedi ei amlinellu heddiw ategu'r cynllun gweithredu economaidd presennol? A hefyd, sut y mae'r cynigion yr ydych chi wedi eu hamlinellu heddiw yn mynd i ategu'n uniongyrchol y bargeinion twf, sydd, wrth gwrs, â photensial enfawr i sbarduno twf economaidd ym mhob rhan o Gymru?
A allwch chi amlinellu hefyd yn benodol sut y bydd eich uchelgais chi o fantais i gymudwyr Cymru sydd wedi eu lleoli mewn cymunedau trefol a gwledig ledled Cymru? Nawr, fy marn i yw, wrth gwrs, ei bod yn hanfodol ein bod yn adeiladu system drafnidiaeth integredig a all gefnogi llu o amcanion polisi economaidd a chymdeithasol ehangach. Nid wyf i'n credu eich bod chi wedi crybwyll cynlluniau o gwbl ar gyfer sut y bydd rheilffyrdd yn cael eu hintegreiddio â gwasanaethau bysiau i sicrhau y bydd gwelliannau yn arwain at fanteision ar gyfer teithwyr ledled Cymru, felly a allwch chi roi rhai sylwadau ar hyn?
Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi amlinellu sut y bydd cyflawni'r cynigion hyn, neu eich uchelgais, yn cael eu cefnogi gan ddau gorff newydd sydd wedi'u creu i helpu i sbarduno creu seilwaith trafnidiaeth newydd yng Nghymru? Nid wyf yn credu eich bod wedi crybwyll y comisiwn seilwaith cenedlaethol i Gymru yn eich datganiad, ac rwy'n synnu at hynny, ac os mai dyna'r sefyllfa, efallai y gallech chi esbonio rhywfaint o'r rhesymeg y tu ôl i hynny. Ac o ran trafnidiaeth ar gyfer Cymru, rwy'n credu ar un pwynt eich bod wedi sôn y bydd Mark Barry yn gweithio gyda'ch adran chi a Thrafnidiaeth Cymru, felly rwy'n awyddus i ddeall y berthynas rhwng Trafnidiaeth Cymru a'ch adran chi a sut y maen nhw'n gweithio gyda'i gilydd. Ac yn olaf, a oes gan y comisiwn seilwaith cenedlaethol ar gyfer Cymru yr adnoddau a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i gyflawni eich uchelgais?