Part of the debate – Senedd Cymru am 4:24 pm ar 8 Mai 2018.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau ac am groesawu'r datganiad heddiw? Byddaf yn ymdrin â'r olaf o'r pwyntiau a wnaethoch yn gyntaf, yn benodol y swyddogaeth a fydd gan y comisiwn seilwaith cenedlaethol. Yn amlwg, mae'r gwaith yr wyf wedi'i gyhoeddi heddiw yn y datganiad hwn yn darparu, ar y cam cynharaf, rhesymau cymhellol i gael buddsoddiad gan yr adran drafnidiaeth. Yn y tymor hwy, bydd gan y comisiwn seilwaith cenedlaethol ac arbenigwyr sydd yn eistedd ar y comisiwn hwnnw swyddogaeth mewn dylanwadu ar unrhyw gynigion gan Lywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru, a'u llywio a chraffu arnynt.
O ran Trafnidiaeth Cymru a'r swyddogaeth sydd gan Mark Barry mewn llywio'r gwaith y mae Trafnidiaeth Cymru yn ei wneud, a lle mae'r Adran Drafnidiaeth yn y cwestiwn, mae'r Athro Barry yn dod ag arbenigedd sy'n ategu'r hyn y mae Trafnidiaeth Cymru yn ei gynnig ar hyn o bryd. Fy marn i yw bod yr Athro Barri yn gallu llywio Trafnidiaeth Cymru mewn modd gwrthrychol a llywio penderfyniadau Llywodraeth y DU mewn ffordd wrthrychol drwy gynnig barn arbenigol, dadansoddiadau arbenigol a dull seiliedig ar dystiolaeth i ni o ran y prosiectau a ddylai gael blaenoriaeth yn y camau cynnar. Rwy'n credu ei bod yn deg i ddweud bod cyfatebolrwydd da rhwng yr hyn yr wyf i wedi'i gyhoeddi heddiw a'r cynllun gweithredu economaidd. Yn wir, os edrychwch chi ar y rhaglen ar gyfer llywodraethu, mae gennym ni Gymru unedig a chysylltiedig yn ganolog i'n hawydd i wella ffyniant. Yn yr un modd, mae strategaeth buddsoddi'r Adran Drafnidiaeth yn tynnu sylw at yr angen i adeiladu economi gryfach, fwy cytbwys drwy wella cynhyrchiant ac ymateb i flaenoriaethau twf lleol. Mae cysylltedd gwell wrth wraidd amcanion y strategaeth honno a 'Ffyniant i bawb'.
Rwy'n credu bod yr Aelod yn llygad ei le wrth sôn am yr angen i wella integreiddio gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Er nad yw'r datganiad hwn heddiw yn ymwneud, o reidrwydd, â bysiau, mae'r Aelod yn iawn i ddweud y bydd llwyddiant trenau yn y dyfodol mewn gwasanaethu anghenion teithwyr yn dibynnu ar well integreiddio â gwasanaethau bysiau. Hefyd, mae'n bwysig nodi na ddylid tanbrisio llwyddiant diweddar rhwydwaith TrawsCymru. Mae'n rhwydwaith pellter hir, yn aml yn cysylltu cymunedau na wasanaethir gan wasanaethau rheilffyrdd. Ynghyd â diwygio gwasanaethau bysiau lleol a fydd yn dod drwy ddeddfwriaeth a, gobeithio, drwy Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn gweithio gyda'r sector, bydd yn cyflawni gwell integreiddio, nid yn unig o ran amserlenni, nid yn unig o ran seilwaith ffisegol a chanolfannau, ond hefyd o ran tocynnau. Mae'r gwaith hwnnw yn mynd rhagddo ochr yn ochr â'r gwaith y mae'r Athro Barri yn ei gynnal i nodi prosiectau cynnar sydd angen buddsoddiad.
O ran y canolbarth, mae'n gorwedd o fewn y ddau. Mae'r Canolbarth yn hollbwysig o ran cysylltu Cymru gyfan, mewn sicrhau ein bod yn darparu Cymru wirioneddol unedig a chysylltiedig wrth wraidd 'Ffyniant i bawb'. Felly, bydd yn hanfodol bod rheilffordd y Cambrian yn cael ei hystyried yn yr holl waith a wneir a'n bod yn parhau i weithio gyda phartneriaid ar draws y ffin i ddatblygu cysylltiadau trafnidiaeth trawsffiniol, o ran gwasanaethau rheilffyrdd a bysiau. Rwy'n disgwyl y bydd y gwaith cynnar y bydd yr Athro Barry wedi'i gwblhau yn fy meddiant erbyn mis Gorffennaf. Rwyf eisoes wedi datgan mai fy mwriad yw cael ymgynghoriad yn ystod ail hanner eleni, ac felly byddwn yn gobeithio cael ei ganfyddiadau cynnar ar fy nesg yn y ddau neu dri mis nesaf.
Credaf fod mynediad i feysydd awyr yn gwbl hanfodol. Mae'r Aelod yn iawn. Maes awyr Lerpwl—bydd gwell cysylltedd iddo o ogledd Cymru drwy fuddsoddi yn nhrofa Halton, ond bydd hefyd fuddsoddiad drwy'r fasnachfraint newydd mewn darpariaeth gwasanaeth. Rydym wedi llofnodi memorandwm o gyd-ddealltwriaeth gyda Transport for the North, y nod yw sicrhau bod yr ystyriaeth a roddir i gynigion trafnidiaeth ar ochr Lloegr i'r ffin yn parchu ac yn adlewyrchu anghenion teithwyr ac anghenion unigolion yng Nghymru. Felly, yn y dyfodol, byddwn yn disgwyl i well cysylltedd rhwng y gogledd a maes awyr Manceinion fod yn ystyriaeth allweddol ar gyfer Transport for the North. Yn wir, mae'n deg i ddweud, o gofio swyddogaeth hollbwysig gorsaf Caer fel canolbwynt mawr sy'n gwasanaethu gogledd Cymru, y bydd ei swyddogaeth o ddarparu darpariaeth trafnidiaeth ar gyfer pobl sy'n byw yn y gogledd yn bwysicach fyth. Felly, mae'n gwbl hanfodol, yn fy marn i, bod yr Adran Drafnidiaeth yn buddsoddi mewn darpariaeth gwasanaeth yng ngorsaf Caer. Mae angen gwaith sylweddol arni, a chredaf ei bod yn haeddu'r buddsoddiad y mae Cheshire West a Chaer wedi galw amdano ers blynyddoedd lawer.