Part of the debate – Senedd Cymru am 4:29 pm ar 8 Mai 2018.
Yr hyn y mae Cymru ei angen, wrth gwrs, yw rheilffordd genedlaethol. Fy ofn i yw—ac mewn gwirionedd mae'n cael ei danlinellu gan y ffaith ein bod ni'n mynd i gael un achos busnes ar gyfer y gogledd ac un ar wahân ar gyfer y de ac yna rhywbeth niwlog yn y canol—bod Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd yn garcharor yr hen fap a'r hen dybiaeth, lle nad oedd ein seilwaith yn ymwneud â symud ein pobl o amgylch ein cymunedau mewn gwirionedd, roedd yn ymwneud yn bennaf â symud nwyddau o'r gorllewin i'r dwyrain, ac yn y maes glo, roedd yn ymwneud â symud glo i'r de i borthladdoedd. Mae'n rhaid inni wrthdroi'r dybiaeth honno. Mae'n rhaid inni gael gweledigaeth genedlaethol, integredig. Ac er bod llawer o bethau ar restr hir Ysgrifennydd y Cabinet o anghenion cyffredinol, sydd yn anodd anghytuno â nhw, yr hepgoriad sy'n amlwg. Rydym ni'n wlad a ddiffinnir gan ein bylchau, pethau nad ydynt yno, yn fwy na'r pethau sydd yno. Yr un peth na wnaethoch chi sôn amdano—ac eithrio cysylltu dinasoedd—yw cysylltu Cymru, gwlad y mae ei map rheilffyrdd fel 'E' wedi'i gwrthdroi. Mae'n dridant sy'n rhedeg ar draws ein gwlad, ac nid oes dim yn y pen gorllewinol, ac eto mae cynigion uchelgeisiol i greu cyswllt gorllewinol cenedlaethol. Yn wir, mae'r Llywodraeth wedi comisiynu astudiaeth ddichonoldeb i ailagor y cysylltiad rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth—nid oes dim am hynny, o gwbl, yn y cynnig hwn, yn y datganiad hwn. Oni ddylai fod, fel rhan o waith Mark Barry, ymrwymiad i edrych ar gysylltiad rheilffordd arfordir gorllewinol, fel y gallwn mewn gwirionedd symud o'r de i ogledd ein gwlad ar drên heb orfod mynd i wlad arall. Mae'n alw eithaf cymedrol, Ysgrifennydd y Cabinet.
Nawr, dywedasoch chi na ddylem ni fod yn sefyll yn yr ymylon yn cwyno, a chytunaf yn llwyr â hynny. Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn ddiweddar y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu cyhoeddi bondiau cyn bo hir er mwyn ariannu prosiectau seilwaith yn y dyfodol. Fel rhan o'r dadansoddiad cyffredinol hwn, a fydd yr Athro Barry yn ystyried y posibilrwydd o ddefnyddio bondiau, fel y gwnaeth Transport for London yn llwyddiannus iawn, fel yr awgrymodd yr Athro Gerry Holtham, o ran canslo'r cysylltiad trydaneiddio? Yn hytrach na dim ond cwyno am y prosiectau hynny y mae San Steffan yn gwrthod eu hariannu, oni ddylem ni fod yn edrych yn greadigol ar ein dulliau ariannol ein hunain o fodloni ein gofynion ein hunain?
Yn olaf, wrth gwrs, syniad mawr Mark Barry oedd i leihau amserau teithio rhwng Caerdydd ac Abertawe, a rannwyd yn rhan o'i weledigaeth ar gyfer metro Bae Abertawe a'r Cymoedd gorllewinol, i dynnu Castell-nedd oddi ar brif reilffordd y Great Western, gan redeg y cysylltiad hwnnw, wedyn, yn hytrach, ar hyd llinell uniongyrchol newydd o Bort Talbot i Abertawe. A gaf i felly eich gwahodd i ddweud yn glir p'un a ydych yn diystyru unrhyw gynnig a fyddai'n dileu Castell-nedd o brif reilffordd y Great Western? Dywedodd eich Cwnsler Cyffredinol na fyddai'n cefnogi unrhyw gynnig fyddai'n cynnwys hwn. Mae ef yn diystyru'r syniad hwn. Allwch chi ddweud p'un a ydych chi'n diystyru hwn ar hyn o bryd, o gofio mai syniad yr Athro Barri ydoedd mewn gwirionedd?