Part of the debate – Senedd Cymru am 5:50 pm ar 8 Mai 2018.
A gaf i ddweud fy mod i'n croesawu'r adroddiad hwn ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i strategaeth blastigau ehangach? Rydym ni wedi bod yn galw am hyn ers peth amser. Rwy'n credu mai mynd ati ar lefel y DU i ymdrin â llawer o'r ysgogiadau polisi i reoli gwastraff plastig a chynyddu ailgylchu yw'r ffordd orau ymlaen yn sicr, er bod mentrau y gallwn ni eu rhoi ar waith hefyd, fel y nodwyd yn yr hyn a ddywedodd y Gweinidog am uchelgais newydd y Llywodraeth. Ac mae tuedd i fanwerthwyr a chynhyrchwyr ffafrio dulliau ar lefel y DU am, yn fy marn i, resymau y gallwn ni eu deall.
Os caf i droi at y cynllun dychwelyd blaendal yn gyntaf, ac mae'n ddiddorol bod hyn yn cael ei ffafrio'n eang erbyn hyn, rwy'n credu. Mae'r cyhoedd o'n blaenau ni, fel sy'n wir am lawer o'r materion hyn, ac mae'r adroddiad yn dangos y gellid cyflawni cyfradd ailgylchu o fwy na 90 y cant yn y maes hwn. Hefyd—roedd hyn yn bwysig iawn yn yr adroddiad—byddai ffurfioldeb cynllun o'r fath yn arwain at ddata o safon ar gyfraddau ailgylchu. Ond fy nghwestiwn uniongyrchol i ynghylch hyn yw: a fyddech chi'n ystyried cynllun lle byddai diwydiant wrth y llyw, er y cai ei fonitro, fel y system yn Norwy, lle mae cyfraddau ailgylchu a gofnodwyd wedi bod mor uchel â 97 y cant? Rwyf yn credu ei bod yn bwysig ein bod yn tywys diwydiant gyda ni a'i fod yn rhan o'r ateb. Rwy'n credu bod y term 'cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr' yn briodol, ond, wyddoch chi, maen nhw'n bartneriaid hefyd, ac rwy'n credu y gallan nhw fod yn rhan o'r ateb, yn yr un modd ag y gall manwerthwyr hefyd.
A gaf i ddweud rhywfaint am y fenter dŵr yfed a'r fenter Ail-lenwi? Rwyf yn credu bod dychymyg i hyn. Mae'n rhyfeddol yn ein diwylliant nad ydyn ni wedi cael—. Os ewch chi i'r Unol Daleithiau, rwy'n cofio pan oeddwn i'n fyfyriwr yna gyntaf yn rhyfeddu ar y ffynhonnau dŵr ym mhob man—ym mhob man—ac rwy'n credu bod gennym ni un ffynnon ddŵr yn adeilad y Cynulliad, Llywydd. Mae'n ddrwg gen i, nid wyf yma i'ch cwestiynu chi. [Chwerthin.] O, mae yna ddau; mae'n ddrwg gen i. Ond mae'r math hwn o gynllun, neu annog pobl i ddefnyddio poteli y gellir eu hailddefnyddio a chael mannau y gallan nhw fynd iddyn nhw o amgylch y dref i'w hail-lenwi, rwy'n credu bod hynny'n ardderchog a bod hynny'n sicr yn rhan o'r ateb.
Rwyf yn credu bod angen ymyriadau ehangach ar wastraff plastig, ac fel y nodir yn yr adroddiad, dim ond chwarter o 1 y cant—mae hyn yn anhygoel o isel—o gwpanau plastig untro a gaiff eu hailgylchu, ac maen nhw'n ffynhonnell sylweddol o sbwriel. A byddwn i'n dweud yma mai cyfrifoldeb defnyddwyr yw llawer ohono—ni fyddai'r holl sbwriel hynny o ganlyniad i ddefnyddwyr, ond byddai llawer ohono. Felly, rwy'n credu bod angen i ni gofio hynny.
Defnyddir saith deg dau miliwn o godenni gweini sengl yng Nghymru bob blwyddyn a, Gweinidog, rwyf i mor hen fyddwch chi ddim yn cofio'r dyddiau hyn, ond pan gefais i fy magu yr oedd yn gwbl arferol i sawsiau ddod mewn poteli a photiau, ac yna yn sydyn dechreuodd yr arfer hon o godenni plastig nad oes modd eu hagor yn aml iawn lle mae'r hyn sydd tu mewn iddyn nhw yn saethu allan yn sydyn i le nad oeddech chi o reidrwydd eisiau iddo fynd. [Chwerthin.] Mae'n fyd hurt lle cawn ni ein diraddio i'r math hwnnw o amharch, felly dewch yn ôl â'r poteli sôs coch a photiau halen a phupur ac ati, dyna ddywedaf i. [Torri ar draws.] Clywais fod Dai Lloyd yn awyddus i fy nghefnogi i â'r newid hwn i'r gorffennol, fel petai.
Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau helaeth drwy reoliadau a chanllawiau, fel y dywed yr adroddiad, i reoli a lleihau deunydd pacio mewn bwytai a siopau bwyd parod yng Nghymru, ac rwyf yn credu y gallai hynny fod yn faes fyddai'n werth ei ystyried. Unwaith eto, rwy'n credu y byddai llawer o gefnogaeth gan y cyhoedd, ond eto byddai eisiau i ni weithio gyda'r siopau. Rwyf yn gobeithio y bydd gennych rywbeth i'w ddweud ynghylch hynny yn weddol fuan.
Roeddwn i'n falch o glywed yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud am Lywodraeth Cymru yn troi ei geiriau yn weithredoedd, wrth gwrs, o ran ei defnydd o blastigau. Mae mis Gorffennaf di-blastig, wrth gwrs, bron ar ein gwarthaf. Rwy'n falch o ddweud bod 19 o bobl wedi llofnodi fy natganiad o farn i roi cydnabyddiaeth helaeth i hynny, ac rwyf yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny hefyd.
A gaf i gloi trwy ddweud bod yr adroddiad yn gwneud pwyntiau diddorol ynglŷn ag ansawdd data ac rwy'n credu bod angen gweithredu ar y rhain? Sylwaf yn arbennig mai cyfradd ailgylchu gwastraff solet trefol diwygiedig Cymru yw 52.2 y cant, neu 11.6 y cant yn is na'r ffigur a gyhoeddwyd. Gwn fod hyn oherwydd ffurf y cyfrifo—nid wyf i mewn unrhyw ffordd yn awgrymu unrhyw beth dan din yma—ond rwy'n credu, wrth i ni weithio tuag at ddyfodol diwastraff, bod angen data arnom ni sy'n gwbl gadarn, yn dryloyw ac y gellir ei gymharu â gwledydd eraill. Ond, yn fras, rwyf yn croesawu'r hyn yr ydych chi wedi'i ddweud y prynhawn yma.