– Senedd Cymru am 5:44 pm ar 8 Mai 2018.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd ar gyfrifoldeb cynhyrchydd estynedig, ac rydw i'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad. Hannah Blythyn.
Diolch, Llywydd. Mae Cymru'n arwain y byd o ran ailgylchu. Ni yw'r gorau yn y DU, yr ail yn Ewrop, a'r trydydd yn y byd. Mae hyn o ganlyniad uniongyrchol i bolisïau a wnaed yng Nghymru. Rydym ni wedi buddsoddi'n helaeth mewn seilwaith ailgylchu wrth ymyl y ffordd ac wedi bod â thargedau statudol ar gyfer awdurdodau lleol ers tro, ac wedi rhoi dirwyon os nad chyrhaeddir hynny. Rwy'n falch o'n record a lefel yr ymrwymiad i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu ar hyd a lled y wlad sydd wedi ein harwain at ein llwyddiant heddiw.
Ond, mae llawer mwy i'w wneud o hyd. Rydym ni wedi gweld newid diwylliant o ran pobl yn didoli eu gwastraff ac ailgylchu yn y cartref, ond ni chaiff yr ymddygiad hwn ei adlewyrchu pan fydd pobl yn mynd allan, hyd yn oed pan fo biniau ailgylchu ar gael. Rwyf yn glir bod angen gwella ein lefelau ailgylchu pan fyddwn ni allan. Yn ystod y misoedd diwethaf, rydym ni wedi gweld cynnydd yn ymwybyddiaeth y cyhoedd a gweithredu cymunedol o ran yr angen i fynd i'r afael â gwastraff plastig untro, o ganlyniad i raglen Blue Planet y BBC yn fwy na dim. Ond ymhell cyn hynny, yn ôl ym mis Ionawr 2017, comisiynodd Llywodraeth Cymru adroddiad Eunomia ar gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr—EPR yn fyr.
Gofynnwyd i'r ymchwilwyr werthuso amrywiaeth o ddulliau i gynyddu prosesau atal gwastraff ac ailgylchu a lleihau sbwriel. Cafwyd pwyslais ar chwe math o becynnau bwyd a diod, gan gynnwys poteli a chaniau diodydd a chwpanau coffi untro. Mae'r adroddiad crynhoi, a gyhoeddwyd heddiw, yn rhoi gwybodaeth am amrywiaeth o ddewisiadau, gan gynnwys cynlluniau dychwelyd blaendal, trethi neu gostau am gwpanau untro a newidiadau i'r rheoliadau EPR cyfredol. Ers comisiynu'r adroddiad hwn, bu datblygiadau ar lefel y DU, ac mewn rhai meysydd mae'n gwneud synnwyr i ni gydweithio â DEFRA a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill.
Ar hyn o bryd rwyf yn ystyried cynllun dychwelyd blaendal ledled y DU a byddaf yn cwrdd â fy nghymheiriaid o'r DU a Llywodraeth yr Alban ynglŷn â'r mater hwn yr wythnos nesaf. Wrth gwrs, mae'n rhaid i unrhyw gynllun ystyried risgiau a buddion y ddarpariaeth bresennol a lefelau ailgylchu ac adeiladu ar y gwaith yr ydym ni wedi'i wneud eisoes yma yng Nghymru. Hefyd, rwyf i'n ystyried diwygiadau i reoliadau rhwymedigaethau cyfrifoldeb cynhyrchwyr fel bod cynhyrchwyr a manwerthwyr yn talu cyfran fwy o gostau rheoli gwastraff. Bydd negeseuon o'n gweithdai rhanddeiliaid diweddar yn cyfrannu at hyn. Rydym yn parhau i weithio gyda Thrysorlys EM ar dreth plastig untro i'r DU. Ar yr un pryd, byddwn yn parhau i ystyried treth, ardoll neu godi tâl am gwpanau diod untro i Gymru, fel yr argymhellwyd yn adroddiad Eunomia. Mae defnydd gorfodol o gwpanau amldro a chynllun treialu posibl yn rhywbeth arall rwyf i'n ei ystyried.
Gall datblygu dulliau gweithredu ar lefel y DU gyfan fod yn llai cymhleth i ddefnyddwyr ac yn well i fusnesau, sydd wedi dweud wrthym fod yn well ganddyn nhw'r dull hwn, yn arbennig wrth i ni baratoi ar gyfer Brexit. Rydym ni'n dymuno sefydlu dull cynhwysfawr, wedi'i chynllunio, hirdymor sy'n arwain at effaith hirdymor gadarnhaol. Mae astudiaeth Eunomia wedi helpu i greu darlun o'r hyn sydd orau i Gymru. Drwy adeiladu ar y gwaith hwn, caiff astudiaethau dichonoldeb eraill eu comisiynu i asesu sut y gallai cynllun dychwelyd blaendal effeithio ar berfformiad ailgylchu trefol ac i edrych ar gyfansoddiad a ffynonellau sbwriel yng Nghymru.
Mae uwchgynhadledd Ras Hwylio Volvo yn ymweld â Chaerdydd ym mis Mehefin, a bydd yn hoelio sylw'r byd cyfan ar yr hyn yr ydym ni'n ei wneud i fynd i'r afael â phlastig yng Nghymru. Fis diwethaf, cyhoeddais mai Cymru fydd y wlad Ail-lenwi gyntaf yn y byd. Rwy'n gwybod y bu llawer o ddiddordeb yn y maes hwn gan yr Aelodau ac rwyf yn gweithio gydag Ail-lenwi i ddatblygu ap a gweithio gyda busnesau Cymru, elusennau a digwyddiadau mawr i helpu i glirio poteli plastig untro o Gymru, drwy osod mannau a gorsafoedd ail-lenwi ledled y wlad. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda Dŵr Cymru i adeiladu brand Cymreig, a datblygu ymgyrch newid ymddygiad i helpu pobl i weld gwerth ein dŵr, a gwneud dŵr o'r tap yn ddewis cyntaf ar gyfer diod.
Heddiw, gallaf gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru wedi llofnodi cytundeb plastigau y DU WRAP. Cydweithrediad yw hwn rhwng Llywodraethau, busnesau, awdurdodau lleol, sefydliadau anllywodraethol a defnyddwyr sydd wedi ymrwymo i chwarae eu rhan i leihau faint o wastraff plastig a gynhyrchir yn y DU. Mae WRAP Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn llunio map llwybr ailgylchu plastigau i Gymru. Bydd hyn yn argymell camau gweithredu i gynyddu'r defnydd o ddeunydd ailgylchu mewn plastig a weithgynhyrchwyd yng Nghymru. Bydd y gronfa buddsoddi cyfalaf economi gylchol gwerth £6.5 miliwn ar gyfer 2019-20 yn cyfrannu at y nod hwn.
Cyhoeddais hefyd fis diwethaf £15 miliwn ychwanegol o gyllid cyfalaf dros dair blynedd ar gyfer y rhaglen newid cydweithredol. Bydd hyn yn gwella seilwaith a systemau casglu ailgylchu awdurdodau lleol ymhellach, gan gynnwys ar gyfer plastigau. Yn ystod yr wythnosau nesaf, byddaf yn cwrdd â threfnwyr digwyddiadau mawr yng Nghymru i gynyddu prosesau ailgylchu plastig a lleihau'r defnydd o blastig untro.
Ond, rwyf yn glir bod yn rhaid i ni weithredu ar ein geiriau, ac rwyf i wedi ymrwymo i sicrhau nad oes plastig untro i'w weld yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn. Rydym ni eisoes yn cymryd camau sylweddol tuag at hyn. O ganlyniad i'r tâl o 25c ar gyfer defnyddio cwpanau untro, gwerthir rhyw 75 y cant o'r diodydd poeth yn ein ffreuturau mewn cwpanau amldro. Nid ydym yn defnyddio gwellt, trowyr na chyllyll a ffyrc plastig yn ein ffreuturau. Hefyd, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddylanwadu ar y sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru, er enghraifft drwy ddarparu contractau caffael deunyddiau tafladwy yn holl adeiladau Llywodraeth Cymru, drwy weithio gyda Gwerth Cymru.
Yn ddiweddarach eleni, byddaf yn ymgynghori ar reoliadau i weithredu Rhan 4 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, a fydd yn ei gwneud hi'n ofynnol i fusnesau a chyrff y sector cyhoeddus wahanu'r gwahanol fathau o wastraff, yn union fel y mae aelwydydd yng Nghymru yn ei wneud ers blynyddoedd. Bydd hyn yn cyfrannu'n sylweddol at gyfraddau ailgylchu yng Nghymru, ac mae'n briodol bod y cyfrifoldeb ar bob un ohonom i weithredu.
Nid wyf yn ymddiheuro am ein balchder yn ein henw da o ran ailgylchu a mynd i'r afael â gwastraff yng Nghymru. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i fynegi fy niolch yn glir i bartneriaid a'r cyhoedd fel ei gilydd: heb eich gwaith caled, eich ymrwymiad a'ch brwdfrydedd chi, ni fyddem ni lle'r ydym ni heddiw.
Llywydd, rwyf yn awyddus i adeiladu ar y llwyddiant hwn. Ni oedd y cyntaf yn y DU i gyflwyno tâl am fagiau siopa plastig. Gallwn arwain y ffordd unwaith eto a rhoi Cymru ar y blaen yn y byd o ran ailgylchu. Diolch yn fawr.
A gaf i ddweud fy mod i'n croesawu'r adroddiad hwn ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i strategaeth blastigau ehangach? Rydym ni wedi bod yn galw am hyn ers peth amser. Rwy'n credu mai mynd ati ar lefel y DU i ymdrin â llawer o'r ysgogiadau polisi i reoli gwastraff plastig a chynyddu ailgylchu yw'r ffordd orau ymlaen yn sicr, er bod mentrau y gallwn ni eu rhoi ar waith hefyd, fel y nodwyd yn yr hyn a ddywedodd y Gweinidog am uchelgais newydd y Llywodraeth. Ac mae tuedd i fanwerthwyr a chynhyrchwyr ffafrio dulliau ar lefel y DU am, yn fy marn i, resymau y gallwn ni eu deall.
Os caf i droi at y cynllun dychwelyd blaendal yn gyntaf, ac mae'n ddiddorol bod hyn yn cael ei ffafrio'n eang erbyn hyn, rwy'n credu. Mae'r cyhoedd o'n blaenau ni, fel sy'n wir am lawer o'r materion hyn, ac mae'r adroddiad yn dangos y gellid cyflawni cyfradd ailgylchu o fwy na 90 y cant yn y maes hwn. Hefyd—roedd hyn yn bwysig iawn yn yr adroddiad—byddai ffurfioldeb cynllun o'r fath yn arwain at ddata o safon ar gyfraddau ailgylchu. Ond fy nghwestiwn uniongyrchol i ynghylch hyn yw: a fyddech chi'n ystyried cynllun lle byddai diwydiant wrth y llyw, er y cai ei fonitro, fel y system yn Norwy, lle mae cyfraddau ailgylchu a gofnodwyd wedi bod mor uchel â 97 y cant? Rwyf yn credu ei bod yn bwysig ein bod yn tywys diwydiant gyda ni a'i fod yn rhan o'r ateb. Rwy'n credu bod y term 'cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr' yn briodol, ond, wyddoch chi, maen nhw'n bartneriaid hefyd, ac rwy'n credu y gallan nhw fod yn rhan o'r ateb, yn yr un modd ag y gall manwerthwyr hefyd.
A gaf i ddweud rhywfaint am y fenter dŵr yfed a'r fenter Ail-lenwi? Rwyf yn credu bod dychymyg i hyn. Mae'n rhyfeddol yn ein diwylliant nad ydyn ni wedi cael—. Os ewch chi i'r Unol Daleithiau, rwy'n cofio pan oeddwn i'n fyfyriwr yna gyntaf yn rhyfeddu ar y ffynhonnau dŵr ym mhob man—ym mhob man—ac rwy'n credu bod gennym ni un ffynnon ddŵr yn adeilad y Cynulliad, Llywydd. Mae'n ddrwg gen i, nid wyf yma i'ch cwestiynu chi. [Chwerthin.] O, mae yna ddau; mae'n ddrwg gen i. Ond mae'r math hwn o gynllun, neu annog pobl i ddefnyddio poteli y gellir eu hailddefnyddio a chael mannau y gallan nhw fynd iddyn nhw o amgylch y dref i'w hail-lenwi, rwy'n credu bod hynny'n ardderchog a bod hynny'n sicr yn rhan o'r ateb.
Rwyf yn credu bod angen ymyriadau ehangach ar wastraff plastig, ac fel y nodir yn yr adroddiad, dim ond chwarter o 1 y cant—mae hyn yn anhygoel o isel—o gwpanau plastig untro a gaiff eu hailgylchu, ac maen nhw'n ffynhonnell sylweddol o sbwriel. A byddwn i'n dweud yma mai cyfrifoldeb defnyddwyr yw llawer ohono—ni fyddai'r holl sbwriel hynny o ganlyniad i ddefnyddwyr, ond byddai llawer ohono. Felly, rwy'n credu bod angen i ni gofio hynny.
Defnyddir saith deg dau miliwn o godenni gweini sengl yng Nghymru bob blwyddyn a, Gweinidog, rwyf i mor hen fyddwch chi ddim yn cofio'r dyddiau hyn, ond pan gefais i fy magu yr oedd yn gwbl arferol i sawsiau ddod mewn poteli a photiau, ac yna yn sydyn dechreuodd yr arfer hon o godenni plastig nad oes modd eu hagor yn aml iawn lle mae'r hyn sydd tu mewn iddyn nhw yn saethu allan yn sydyn i le nad oeddech chi o reidrwydd eisiau iddo fynd. [Chwerthin.] Mae'n fyd hurt lle cawn ni ein diraddio i'r math hwnnw o amharch, felly dewch yn ôl â'r poteli sôs coch a photiau halen a phupur ac ati, dyna ddywedaf i. [Torri ar draws.] Clywais fod Dai Lloyd yn awyddus i fy nghefnogi i â'r newid hwn i'r gorffennol, fel petai.
Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau helaeth drwy reoliadau a chanllawiau, fel y dywed yr adroddiad, i reoli a lleihau deunydd pacio mewn bwytai a siopau bwyd parod yng Nghymru, ac rwyf yn credu y gallai hynny fod yn faes fyddai'n werth ei ystyried. Unwaith eto, rwy'n credu y byddai llawer o gefnogaeth gan y cyhoedd, ond eto byddai eisiau i ni weithio gyda'r siopau. Rwyf yn gobeithio y bydd gennych rywbeth i'w ddweud ynghylch hynny yn weddol fuan.
Roeddwn i'n falch o glywed yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud am Lywodraeth Cymru yn troi ei geiriau yn weithredoedd, wrth gwrs, o ran ei defnydd o blastigau. Mae mis Gorffennaf di-blastig, wrth gwrs, bron ar ein gwarthaf. Rwy'n falch o ddweud bod 19 o bobl wedi llofnodi fy natganiad o farn i roi cydnabyddiaeth helaeth i hynny, ac rwyf yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny hefyd.
A gaf i gloi trwy ddweud bod yr adroddiad yn gwneud pwyntiau diddorol ynglŷn ag ansawdd data ac rwy'n credu bod angen gweithredu ar y rhain? Sylwaf yn arbennig mai cyfradd ailgylchu gwastraff solet trefol diwygiedig Cymru yw 52.2 y cant, neu 11.6 y cant yn is na'r ffigur a gyhoeddwyd. Gwn fod hyn oherwydd ffurf y cyfrifo—nid wyf i mewn unrhyw ffordd yn awgrymu unrhyw beth dan din yma—ond rwy'n credu, wrth i ni weithio tuag at ddyfodol diwastraff, bod angen data arnom ni sy'n gwbl gadarn, yn dryloyw ac y gellir ei gymharu â gwledydd eraill. Ond, yn fras, rwyf yn croesawu'r hyn yr ydych chi wedi'i ddweud y prynhawn yma.
Wn i ddim a fedraf i dderbyn cwestiynau ynglŷn ag ystad y Cynulliad ar hyn o bryd. Rwy'n croesawu—
Wel, wedi meddwl am y peth, rwy'n credu bod dau. [Chwerthin.]
Iawn, wel mae hynny 100 y cant yn fwy nag y tybiais yr oedd gennym.
Diolch, Llywydd. Rwy'n croesawu cefnogaeth gyffredinol yr Aelod i ddatganiad heddiw ac argymhellion yr adroddiad. Rydych chi'n crybwyll y mater ehangach o ran sbwriel hefyd. Dyna pam mae edrych ar sut rydym yn mynd i'r afael â gwastraff ar grwydr—. Yn ogystal â mynd i'r afael â sbwriel, rydym ni hefyd mewn gwirionedd yn cynyddu ein cyfradd ailgylchu ac yn mynd i'r afael â defnyddio plastig untro, boed hynny'n boteli neu gynwysyddion diodydd. Yn fy marn i, dyna pam mae'n bwysig iawn ein bod ni'n ystyried y pethau hyn yn eu cyfanrwydd ac nid yn canolbwyntio dim ond ar—er mai plastig untro yw'r un sy'n gyffredin ac sydd yn y penawdau newyddion—un maes a dargyfeirio'r mater drwy amryfusedd i un arall. Rydych chi'n gwneud pwynt diddorol iawn am y cwpanau saws a sut y mae pethau wedi newid, ac rwy'n credu ein bod ni wedi dechrau cyrraedd ychydig o drobwynt erbyn hyn o ran ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r pethau hyn. Wnaf i ddim sôn am enwau unrhyw siopau, ond rwyf i wedi sylwi bod rhai manwerthwyr bwyd cyflym yn dechrau defnyddio—felly fe gewch chi gwpan papur i'w lenwi o botel fawr yn hytrach na chodenni unigol.
Rydych chi'n llygad eich lle yn fy marn i o ran y dull o weithio gyda rhanddeiliaid, gyda byd busnes, oherwydd rwy'n credu bod cyfrifoldeb ar bob un ohonom ni, ac rydym ni wedi gweld, mewn gwirionedd, nid canfyddiad y cyhoedd yn unig yn newid yn hyn o beth, ond rwy'n credu ein bod yn ei weld gan fusnesau hefyd erbyn hyn. Maen nhw'n gwybod ei fod wedi'i yrru gan ddefnyddwyr, ac rwy'n credu eich bod wedi gweld yr amrywiaeth o gyhoeddiadau gan amryw archfarchnadoedd a manwerthwyr yn dweud y byddan nhw'n newid eu hymddygiad a'u harferion. Yn bendant mae gan bob un ohonom ni ran i'w chwarae yn hyn o beth. Gallwn ddeddfu a gweithredu fel Llywodraeth, ond mae mentrau cymunedol sydd mor bwysig o ran hyrwyddo'r agenda hon, a dylai busnesau chwarae eu rhan hefyd, oherwydd holl ddiben cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr yw bod cynhyrchwyr a gweithgynhyrchwyr yn gyfrifol am bethau nid dim ond ar adeg gwerthu eu cynnyrch; maen nhw hefyd yn gyfrifol am beth sy'n digwydd ar ddiwedd oes y cynnyrch, ac ailddefnyddio ar ôl hynny.
O ran system dychwelyd blaendal, o ran cynllun dan arweiniad diwydiant, o ran y manylion, mae hynny'n rhywbeth rwy'n gobeithio dechrau gweithio arno gyda fy nghymheiriaid. Mewn gwirionedd, ar hyn o bryd, mae hynny'n agored, yn dibynnu ar y dystiolaeth—yr alwad am dystiolaeth a'r hyn a gawn o hynny—a byddwn yn gwneud penderfyniad ar hynny ac yn gwneud y penderfyniad gorau o ran cyflawni'r buddion gorau posibl i ni yng Nghymru.
O ran dŵr ail-lenwi, disgrifiodd rhywun y cynllun heddiw yn un 'chwyldroadol', ond mae'n rhywbeth y byddech yn ei weld yn gwbl amlwg, mewn gwirionedd, y gallem ni ac y dylem ni ei wneud. Unwaith eto, rwy'n credu ei bod yn ffenomen gymharol newydd, efallai yn y degawd diwethaf, rydym yn gweld pobl yn cerdded o gwmpas gyda photeli dŵr a chwpanau coffi. Unwaith eto, mae'n ymwneud â gweld sut y gallwn ni fanteisio ar deimladau'r cyhoedd yn awr o ran sut yr ydym ni'n mynd i'r afael â hynny a dechrau mynd i'r afael â defnyddio plastig untro mewn gwirionedd. Felly, mae gwahanol ffyrdd o'i wneud yn ogystal ag edrych ar drethu a chynlluniau dychwelyd blaendal. Mewn gwirionedd, effaith anuniongyrchol, o bosibl, cynllun Ail-lenwi ledled y wlad yw y bydd pobl yn defnyddio llai o blastig untro hefyd. Felly, edrychaf ymlaen at allu rhoi diweddariad i'r Aelodau ynglŷn â hynny maes o law.
A gaf i ddweud wrth David Melding, os daw i'r Ship Inn yn Aberporth, y gymuned di-blastig gyntaf yng Nghymru, bydd ei sawsiau yn cael eu gweini iddo mewn potiau bach hyfryd, nid yn y codenni bach ofnadwy yna—
Byddwn i'n falch o ymuno â chi.
Mae'n dangos bod y cyhoedd o'n blaenau ni mewn sawl ffordd yn hyn o beth ac maen nhw'n dymuno gweld newidiadau sylweddol, a gwn fod y Gweinidog, cyn iddi wneud ei datganiad heddiw, wedi bod i ymweld â'r siop bwyso yng Nghrucywel, sy'n enghraifft ardderchog—Natural Weigh—o sut y mae rhai busnesau hefyd yn ymateb i hyn. Felly, nid yw hyn yn ymwneud â'r Llywodraeth yn dweud wrth bobl beth i'w wneud; mae hyn yn ymwneud â phobl yn mynd ati eu hunain a'r Llywodraeth yn eu cwrso i geisio dal i fyny â'r pethau y gallwn ni eu gwneud yng Nghymru, ac rwy'n cytuno, yn fras, â phopeth y mae'r Gweinidog wedi'i nodi, ond mae gen i rai cwestiynau, fel y byddech yn ei ddisgwyl, ynghylch sut y gallem ni gyflawni hynny, yn arbennig yng nghyd-destun ble y gorwedd pwerau bellach.
Rwy'n credu, yn gyntaf, dim ond i ddweud, fodd bynnag, bod yr adroddiad Eunomia yn eithaf radical yn ei ffordd. Mae'n cynnwys llawer o syniadau newydd, mae'n cynnwys ffeithiau a ffigurau syfrdanol. Felly, cynwysyddion diodydd: mae 40 y cant o'r sbwriel ar lawr gwlad yn gynwysyddion diodydd yn y bôn. Pe gallem ni gynyddu ein cyfradd ailgylchu, sy'n amrywio rhwng 65 a 70 y cant o ran gwahanol gynwysyddion diodydd—er mai'r rheini sy'n cyrraedd y llif ailgylchu yw'r rhain, yn hytrach na phob dim—ac os cawn ni gyfradd ailgylchu o 80 neu 90 y cant o'r cynwysyddion hyn, byddwn yn haneru—ie, haneru—y gofyniad am ddeunyddiau crai. Felly, mae ailgylchu yn ymwneud â mwy na chadw'r cylch nwyddau yn troi, os mynnwch chi, a helpu'r amgylchedd, rydych chi'n sôn am ddefnyddio llai o adnoddau yn y lle cyntaf, llai o ynni i'w cynhyrchu, rydych chi'n sôn am well economi, rydych chi'n sôn am economi ddiwastraff a'r buddion i ni yn ehangach, yr ydym ni i gyd, rwy'n credu, wedi ceisio'u cefnogi yn y Cynulliad. Felly, yn hynny o beth, croesawaf yr adroddiad yn fawr a rhai o'r syniadau ynddo.
Fy anhawster i, fel y nodwyd eisoes, Ysgrifennydd y Cabinet, yw bod rheoliadau gwastraff deunydd pacio a chynnyrch yn wir yn un o'r 24 maes, ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd o 29 Mawrth ymlaen, a gaiff ei gadw, mewn gwirionedd, o dan y model cadw pwerau, nid datganoli, i Lywodraeth y DU. Rydym ni'n aros i weld sut y bydd hyn yn datblygu mewn gwirionedd. Gadewch i ni ddweud dim mwy na hynny am y tro. Ar hyn o bryd, mae gennym ni Lywodraeth y DU ac Ysgrifennydd Gwladol penodol sydd wedi mynegi diddordeb mewn rhai o'r syniadau hyn ar ffurf Michael Gove. Ni wn i ba mor hir y bydd yn para yno; rwy'n credu ei fod yn sicr yn ystyried mynd i rywle arall a gwneud rhywbeth arall yn y flwyddyn nesaf, ond, tra'i fod yno, mae gennym ni gyfle. Rwyf yn cytuno â sylwedd cyffredinol yr adroddiad a'r hyn y dywedodd y Gweinidog, ei bod yn well gwneud rhai o'r pethau hyn ar lefel y DU oherwydd gwaith traws-ffiniol, cydweithio, gweithio gyda'n partneriaid, nid oes gen i broblem â hynny o gwbl. Y cwestiwn yw: a oes gennym ni bwerau i fynd ar drywydd hyn os bydd Gweinidog yr amgylchedd yn newid ar lefel y DU neu os bydd newid agweddau ar lefel y DU?
Felly, mae'n rhaid i'r cwestiwn cyntaf ymwneud â chynllun dychwelyd blaendal, gan weithio gyda Llywodraeth y DU ar y syniadau hyn. A ydych chi'n glir, Gweinidog, os bydd Llywodraeth y DU naill ai'n llusgo'i thraed yn hyn o beth, neu'n cynnal ymgynghoriad hir neu'n cael ei dal mewn materion Brexit neu beth bynnag y gallai fod, y gallwch chi barhau â'r cynllun dychwelyd blaendal yng Nghymru? Mae'r adroddiad yn ei gwneud yn glir y gallech chi wneud hynny, ac mae'n nodi tri dewis ar gyfer hynny: soniwyd am un gwirfoddol, dan arweiniad diwydiant; treth ar bob cynhwysydd diod, eto dan arweiniad diwydiant i raddau helaeth; neu ryw fath o ddeddfwriaeth y gellid ei chyflwyno yma yng Nghymru. Felly, a wnewch chi roi syniad o sut y tybiwch chi y gallai hynny ddatblygu?
Yn ail, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni edrych ar bob math o gynlluniau cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr. Rydym ni'n clywed gan Lywodraeth y DU am y penawdau: gwellt. Rydym ni'n clywed gan Lywodraeth y DU am drowyr a'r math hwn o beth. A oes pecyn yno y gallwn ni weithio ag ef? A oes gennych chi ryw syniad bod pecyn o gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr y gallwch chi weithio ag ef? Nid wyf yn credu bod cynigion Llywodraeth y DU mewn gwirionedd yn ddigon uchelgeisiol, ac rwy'n credu y gallwn ni wneud mwy yma yng Nghymru. Un o'r pethau a awgrymir yn yr adroddiad yw, yn ogystal â thâl o 25c yn Llywodraeth Cymru ar gyfer cwpanau coffi, tâl ar gyfer defnyddwyr yng Nghymru hefyd—i gyflwyno tâl o'r fath. A yw hyn yn rhywbeth y gallwn ei wneud pa un a yw Llywodraeth y DU yn dymuno gwneud hynny ai peidio, oherwydd rwy'n credu ei bod yn rhywbeth y gellid ei wneud mewn modd defnyddiol yng nghyd-destun Cymru a newid ymddygiad pobl, a helpu Llywodraeth y DU, os yw'n dymuno gwneud hynny, i weithredu hynny? Ni fyddwn i'n hoffi gweld rhai o'r syniadau da hyn yn yr adroddiad hwn yn cael eu dal mewn ystyriaethau ehangach o ran camau nesaf Llywodraeth y DU, oherwydd yn fy marn i, mae yna bethau y gallwn ni eu gwneud yma yn awr, neu o leiaf yn y chwe mis nesaf, a symud ymlaen at hynny.
Ac, wrth gwrs, yn hynny o beth, a gaf i sôn am y £0.5 miliwn yng nghytundeb y gyllideb, a oedd yn wreiddiol ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb ar gynlluniau dychwelyd blaendal? Mae syniadau yn yr adroddiad ynghylch sut y gellid defnyddio'r arian hwnnw, ac ni fyddaf yn cychwyn dadl ynghylch sut y gellid ei ddefnyddio yn y lle hwn, ond dweud yr wyf i ein bod yn derbyn, wrth gwrs, bod dyddiau astudiaeth ddichonoldeb wedi mynd; rydym ni erbyn hyn wedi cyrraedd cyfnod ble mae modd gweithredu ac rwy'n croesawu'n fawr y cyfle i drafod â chi a'r Llywodraeth sut y gellid cyflawni hynny. Un o'r pethau rwy'n dal i feddwl bod gennym gyfle gwirioneddol i'w wneud yma hefyd yw cyflwyno treth plastigau, neu ardoll plastigau o ryw fath. Unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth sydd wedi cael sylw gan Lywodraeth y DU, ond, unwaith eto, rwy'n mynegi fy mhryder nad ydym ni'n gweld hynny, mewn rhai ffyrdd, yn cael ei ddadelfennu. Rwy'n credu y gallwch chi ddadelfennu plastigau; maen nhw'n sicr mewn poteli dŵr yr ydym ni'n eu prynu. Ceir olion o blastig ym mhob potel ddŵr erbyn hyn, felly mae'n dangos mor chwerthinllyd yw'r sefyllfa hon. Ond mae'r syniad hwn o dreth plastigau yn rhywbeth y gallwn ni fod yn berchen arni yma. Os na fydd Llywodraeth y DU eto yn awyddus i fynd ar drywydd hynny, gadewch i ni weld hynny'n digwydd.
Ac, yn olaf, rydym ni wedi clywed o'r blaen gennych chi a Llywodraeth Cymru ynghylch sut yr hoffech chi weithio gyda phartneriaid i newid y ffordd yr ydym ni'n defnyddio plastigau. Rydych chi'n sôn am botensial ar gyfer caffael yn y cyswllt hwn. Hefyd, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu llawer iawn o gyrff sy'n ymgymryd â llawer iawn o weithgareddau yng Nghymru. Mae rhywfaint o hynny'n cynnwys llawer iawn o blastig, boed hynny mewn pabell mewn gŵyl gwrw neu rywbeth tebyg, neu ddigwyddiad neu beth bynnag. A wnewch chi ystyried sut yr ydych chi'n defnyddio eich arian wrth fynd ati i newid ymddygiad yn y digwyddiadau hyn ac yn y mathau hyn o sefydliadau hefyd er mwyn i'r cyhoedd eu hunain allu gweld eich bod chi'n arwain y ffordd?
Diolch i'r Aelod am ei gyfraniadau niferus. Mae'n gwneud nifer o bwyntiau pwysig iawn. Mewn gwirionedd fe ddechreuoch chi drwy sôn am y Ship Inn yn Aberporth. Llwyddais i aros yno pan euthum i lansiad cymuned ddi-blastig Cei Newydd hefyd. Ac yr oedd yn wych i fynd i Natural Weigh yr wythnos ddiwethaf i edrych ar yr hyn y maen nhw wedi ei ddysgu oddi wrth eraill mewn mannau eraill, a nawr mae pobl yng Nghymru yn dod atynt i weld sut y gallan nhw ddysgu. Llwyddais i wneud yn fawr o'r ymweliad ac fe es i â fy nghynhwysydd fy hun gyda mi a phrynais siocledi hyfryd a buddsoddi mewn brwsys dannedd bambŵ. [Anhyglyw.] Nid wyf yn siŵr a yw hynny'n gymeradwyaeth ai peidio.
O ran y ffeithiau a'r ffigurau yn yr adroddiad, un o'r pethau a'm tarodd yw'r 237 miliwn o gwpanau coffi sy'n cael eu gwaredu yng Nghymru bob blwyddyn, a ledled y DU, 13 biliwn o boteli plastig untro, sy'n nifer syfrdanol, ac rwy'n credu mai dim ond 7.5 biliwn o'r rheini sy'n cael eu hailgylchu. Mewn gwirionedd, y pwynt yr wyf yn sôn amdano yw'r penawdau mawr a welwn ni, ac, o ddiffyg gwell ymadrodd, maen nhw'n cyflwyno pecyn ar bacio, ac o edrych ar y mater yn ei gyfanrwydd, a dyna rwy'n credu fu ein sefyllfa ni erioed. Dywedais wrth fy nghyd-Aelod, David Melding nad ydym ni eisiau canolbwyntio ar un maes sy'n peri pryder, oherwydd rwy'n sylwi mai canlyniad anfwriadol hyn yw ein bod yn mynd i'r afael ag un mater ac yna darganfod bod gennym ni fater tebyg yn rhywle arall.
Un o'r pethau y mae angen inni edrych arno yn rhan o alwad Llywodraeth y DU am dystiolaeth yw ei bod hi'n edrych ar wahanol fathau o—beth yw plastig untro? Beth yw ei natur broblemus? Byddwn yn gobeithio o hynny—y byddwn yn gweld pan ddaw i ben ar 18 Mai—a chyfrannu iddo—. Mewn gwirionedd, nid yw ynghylch poteli plastig untro yn unig neu ynghylch dewis un mater penodol; mae a wnelo hefyd ag edrych ar y broblem yn ei chyfanrwydd, sut yr awn ni i'r afael â hynny mewn gwirionedd, i wneud y gwahaniaeth gorau yn y tymor hir, a gwneud y newid hwnnw y mae arnom ni eisiau ei wneud, nid yn unig ar gyfer yr amgylchedd, ond, fel y dywedoch chi, ar gyfer ein heconomi hefyd.
Roeddwn yn sicr y byddech yn crybwyll yr arian, y £500,000 ac, yn amlwg, mae rhai syniadau yn cael eu hamlinellu yn adroddiad Eunomia, ond mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn siŵr y byddwn yn trafod ymhellach y tu hwnt i ffiniau'r ddadl hon heddiw. Gan edrych ar ymagwedd y DU o ran y cynllun dychwelyd blaendal, a hefyd ar y dreth ar blastig untro, rwyf wedi egluro o'r blaen, a gobeithio, os ydym yn dal i—. Y dreth ar blastig oedd un o'r pedwar dewis i brofi o bosib y pŵer hwnnw. Nid hwn yw'r dewis a gaiff ei ddatblygu oherwydd rydym ni wedi dewis gweithio gyda Thrysorlys y DU i geisio cael treth ar blastig untro ledled y DU. Ar hyn o bryd, mae'r trafodaethau hynny yn mynd rhagddyn nhw ac maen nhw'n gadarnhaol.
Rydym ni wedi dweud o'r cychwyn cyntaf, os na fydd hyn yn bosibl yna rydym ni'n awyddus i ganfod atebion ar sail Cymru gyfan hefyd. Dyna pam yn y datganiad hwn heddiw y gwnes i grybwyll y potensial o edrych ar sut yr awn i'r afael â'r holl gwpanau coffi untro a chynwysyddion diodydd hefyd.
Diolch i'r Gweinidog am y datganiad heddiw. Credaf ein bod i gyd yn derbyn bod problem fawr ynghylch plastig yn mynd i'r môr, problem y bu gwirfoddolwyr sy'n glanhau ein traethau yn ymwybodol ohoni ers peth amser. A bellach mae'n bwynt trafod cenedlaethol mawr iawn, yn rhannol oherwydd y rhaglen deledu a grybwyllwyd gennych—y gyfres deledu Blue Planet—sy'n dangos, hyd yn oed yn yr oes aml-sianel sydd ohoni, ei bod hi'n bosib i raglen deledu gael effaith fawr drwy godi ymwybyddiaeth y cyhoedd, er, fy mod yn gwerthfawrogi hefyd yr hyn a ddywedwch chi—fod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu eich adroddiad cyn i'r rhaglen deledu gael ei darlledu.
Y cwestiwn, fel arfer, yw beth yw'r ffordd orau i fynd i'r afael â'r broblem a achosir gan blastig, ac mae'n dda o beth fod rhai syniadau penodol iawn yn cael eu trafod yma heddiw. Mae cael Cymru yn genedl ail-lenwi, yn nod da, ond, wrth gwrs, mae'n rhaid inni edrych ar yr hyn sy'n ymarferol. Un awgrym ymarferol sy'n datblygu yw ein bod yn ystyried darparu mwy o ffynhonnau dŵr yfed cyhoeddus. Mae'r cynnig yn ymddangos i mi yn debyg i syniad arall yr ydym ni wedi ei drafod yma'n achlysurol sef y syniad o gadw mwy o doiledau cyhoeddus yn agored, syniad y buom yn ei drafod yn helaeth yn ystod dadleuon Bil iechyd y cyhoedd y llynedd. Efallai mai'r broblem, i raddau helaeth yw cost, oherwydd roedd gennym ni fwy o ffynhonnau cyhoeddus ar un adeg. Roedd gennym ni lawer mwy o doiledau cyhoeddus, ond ni ddefnyddir llawer bellach oherwydd y gost o'u cynnal. Gwyddom ei bod hi'n gostus iawn i gynghorau ddarparu'r mathau hyn o gyfleusterau, felly, o ran darparu ffynhonnau cyhoeddus, a fyddai Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid parhaus i gynghorau i helpu gyda'r math hwn o wasanaeth?
Mater sy'n gysylltiedig â hyn yw y byddai angen i ffynhonnau gael eu cynnal a'u cadw'n dda er mwyn i'r cyhoedd weld eu bod yn ffynhonnau glanwaith a hylan neu fel arall ni fyddai neb yn eu defnyddio. Ar y llaw arall gallai busnesau ddarparu peiriannau dŵr yn eu hadeiladau. Unwaith eto, mae hyn yn gysylltiedig i raddau â'r trafodaethau ynghylch toiledau cyhoeddus, oherwydd cafwyd cynlluniau ble rhoddwyd cymorth ariannol i dafarndai a chaffis i ddarparu toiledau cyhoeddus cofrestredig—mewn geiriau eraill, i ganiatáu pobl i ddod i mewn a defnyddio'r cyfleusterau hyd yn oed os nad oeddynt yn prynu unrhyw fwyd neu ddiod. Felly, tybed a ellid gwneud rhywbeth tebyg gyda pheiriannau cyflenwi dŵr a tybed ai dyma'r math o gynllun y byddech yn ei ystyried wrth i chi ddatblygu'ch cynlluniau ar gyfer y Genedl Ail-lenwi.
Rydych hefyd yn sôn am agweddau eraill, megis deunydd pacio bwyd, sy'n fater pwysig arall, ac rwy'n tueddu i gytuno â Simon Thomas: mae llawer o bobl yn siarad am hyn, a pham mae archfarchnadoedd yn rhoi cymaint o ddeunydd pacio o amgylch pethau? 'Dyw pobl mewn gwirionedd ddim eisiau'r holl becynnu. Mae'n cymryd amser i'w rwygo, ac weithiau gallwch dorri'ch llaw. Rwy'n cael problemau tebyg gyda chodennau bychain ag y mae David Melding yn tueddu i'w cael. Nawr, mae gan y rhan fwyaf o drefi broblemau yn ymwneud â gwastraff o amgylch siopau bwyd cyflym gyda'r nos a'r cynwysyddion a deflir o'r neilltu. Wel, pe baem yn defnyddio rheolau safonau masnachu, fe allem ni orfodi busnesau i ddefnyddio cynwysyddion pydradwy, a fyddai'n well, felly credaf fod ffafrio deunydd pacio pydradwy yn syniad da.
Ond tybed a fyddech chi'n ystyried hancesi gwlyb, oherwydd mae tystiolaeth ddiweddar yn honni fod 93 y cant o dalpiau saim sy'n blocio'r systemau trin carthion yn cael eu hachosi gan hancesi gwlyb sy'n cael eu golchi i lawr y tŷ bach. Y broblem fawr yw bod llawer o labeli hancesi gwlyb yn honni eu bod yn addas i'w taflu i'r tŷ bach. Wel efallai eu bod yn cael eu golchi i lawr y tŷ bach yn iawn, ond mewn gwirionedd mae llawer ohonynt yn rhwystro'r pibellau carthion, felly mae'r rhai sy'n prynu'r cynhyrchion hyn yn cael eu camarwain. Felly, tybed allwn ni wneud rhywbeth a defnyddio Safonau Masnach i newid y ffordd y mae'r hancesi gwlyb ffug hyn yr honnir eu bod yn addas i'w taflu i'r tŷ bach yn cael eu labelu. Diolch yn fawr.
Diolch i'r Aelod am ei gyfraniadau. [Anhyglyw.] Wrth sôn am y cynigion ynglŷn â bod yn genedl ail-lenwi a'r defnydd o ffynhonnau dŵr. Credaf eich bod yn iawn i ddweud fod gan fater y ffynhonnau dŵr rai elfennau cymhleth megis cynnal a chadw a hefyd y gwaith o gynnal a chadw o safbwynt hylendid. Er y ceir ffynhonnau dŵr mewn nifer o leoedd heddiw, mae rhai ohonynt yn perthyn i gyfnod pibellau plwm, felly, am y rheswm hwnnw, mae'n broblemus iawn. Ni fyddech eisiau i'r rheini gael eu defnyddio eto.
Felly, credaf mai'r syniad y tu ôl i genedl ail-lenwi yw datblygu cymaint o orsafoedd ail-lenwi ag y gallwn ni, a bydd manylion ynghylch hynny yn amlygu eu hunain ames o law. Ond mewn gwirionedd, yn fy marn i, maen nhw'n fersiynau mwy cadarn na'r ffynhonnau dŵr a welwn ni fel arfer, fersiwn ble gall rhywun osod ei botel arno a'i hail-lenwi. Rwyf eisoes wedi siarad â chynrychiolwyr awdurdodau lleol ynghylch y ffordd y gallwn ni weithio ar y cyd gyda phartneriaid ar lefel Llywodraeth Leol a chyda busnesau i ymrwymo i ddod yn rhan o Gymru, y Genedl ail-lenwi, ac ynghylch pa gyfleusterau sydd eisoes yn bodoli y gallwn ni eu defnyddio i greu'r rhwydwaith hwn—a allwn ni ddefnyddio canolfannau hamdden, canolfannau cymunedol a busnesau? Rwyf wedi ysgrifennu hefyd at fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i drafod sut y gallwn ni fanteisio'n fwy helaeth ar ein rhwydwaith trafnidiaeth o ran darparu gorsafoedd ail-lenwi mewn canolfannau mawr yn y lle cyntaf.
Deunydd pacio bwyd cyflym—ie, wyddoch chi, wrth edrych ar Reoliadau Caniatáu Amgylcheddol ehangach o ran allwn ni annog defnyddwyr i ddefnyddio mwy o ddeunyddiau ecogyfeillgar. Rwy'n gwybod, o ran pecynnau tecawê polystyren, yn ôl yr adroddiadau, bod y ganran o'r rheini o ran sbwriel cyffredinol yn isel iawn, ond, mewn gwirionedd, mae'r nifer sylweddol a welwn ni mewn rhai mannau o amgylch rhai busnesau neu siopau tecawê, yn creu'r argraff ei bod hi'n broblem sylweddol yno, a pho fwyaf, po fwyaf—wyddoch chi, mae'n rhaid inni weld sut allwn ni fynd i'r afael â hyn, oherwydd rwy'n gwybod, fel pawb yma, fod sbwriel yn un o'r problemau mwyaf yn yr etholaethau a phobl sy'n cysylltu ag Aelodau'r Cynulliad, yr ASau a chynghorwyr fel ei gilydd.
Ynghylch hancesi gwlyb, gwelaf fod y rhain wedi bod yn y newyddion heddiw. Credaf mai un o'r pethau ynghylch y rhain yw pecynnu gwell a labelu o ran nodi a ydyn nhw'n addas i'w gwaredu yn y tŷ bach, a buddsoddi yn y dechnoleg i sicrhau mwy o ddeunyddiau ecogyfeillgar. Dywedwyd wrthyf fod gan Water UK ddywediad—wn i ddim a gaf i ddweud hyn yn y Siambr, ond mi wnaf—cynlluniwyd y system ffosydd carthion ar gyfer y tri P yn unig, papur, pŵ a phi-pi, nid plastig. Felly, os oes un neges i Aelodau—. Ond mae gan Dŵr Cymru ymgyrch Stop Cyn Creu Bloc, felly credaf ei fod yn ymwneud â'r hyn a wnawn ni yn ein gwaith o ran addysg a newid ymddygiad, ynghyd â sut ydym ni'n mynd i ymdrin â phecynnu a labelu i sicrhau ei bod hi'n glir ac amlwg i bobl beth sy'n iawn i'w roi yn y tŷ bach, nid dim ond dweud 'chewch chi ddim gwneud hynna,' ond rhoi'r rhesymau dros beidio â gwneud hynny, esbonio sut mae'n effeithio ar yr amgylchedd—mewn gwirionedd, nid yn unig ar yr amgylchedd; ceir canlyniadau economaidd o ran—. Rwy'n gwybod fod Dŵr Cymru yn gwario tua £7 miliwn y flwyddyn yn clirio'r pibellau carthffosiaeth.
Mae gennyf ddau gwestiwn. Ychydig o sylwadau cyn hynny: mae'n werth edrych yn ôl a gweld y cynnydd yr ydym ni wedi ei wneud, a phan ddechreuon ni, er enghraifft, gyda'r bagiau plastig, yr effaith a gafodd hynny—bron i 400 miliwn o fagiau'r flwyddyn yng Nghymru yn unig nad ydynt yn cael eu defnyddio, 8 biliwn yn y DU, a ddilynodd esiampl Cymru. Cofiaf sôn am hyn ym Mhwyllgor y Rhanbarthau ym Mrwsel, gan fod nifer sylweddol o wledydd yn Ewrop yn ystyried dilyn yr esiampl. Canlyniad hyn, o bosibl, yw tua 80 biliwn o fagiau plastig y flwyddyn nad ydynt yn cael eu defnyddio. Felly, ddylem ni ddim tanbrisio pwysigrwydd y rhan arweiniol yr ydym yn ei chwarae yng Nghymru a'r effaith y gall hynny ei gael, nid yn unig yn ein gwlad ni, ond o fewn gwledydd eraill hefyd.
A gaf i ddweud ar goedd hefyd pa mor bwysig yw hi i longyfarch y cynghorau hynny sydd wedi gwneud cymaint o gynnydd, yn enwedig fy nghyngor fy hun, cyngor Rhondda Cynon Taf, sydd wedi cyrraedd eu targed ailgylchu o 64 y cant erbyn hyn, sy'n arwain y ffordd heb amheuaeth, ymhell o flaen targedau'r Llywodraeth, ac yn parhau i wneud hynny.
A gaf i hefyd gyfeirio at rai o'r materion rydych chi'n eu crybwyll ynghylch dŵr, poteli, gwellt ac ati, eitemau atgofus o'r gorffennol, sy'n codi hiraeth mawr arnaf? Treuliais fy ieuenctid ffôl yn sefyllian o amgylch safleoedd adeiladu yn casglu'r poteli hynny y cewch chi arian am eu dychwelyd nhw i'r siop, arian oedd yn caniatáu imi brynu pum Park Drive yn y siop leol, mae gennyf gywilydd i ddweud. Y gwellt papur—hynny yw, nid wyf yn cofio beth oedd gwelltyn plastig. Roedd gennym wellt papur oedd yn cael eu defnyddio'n aml fel gynnau pys—ond eu prif swyddogaeth oedd ar gyfer yfed llaeth ysgol, wrth gwrs fe gafodd Maggie Thatcher wared ar hwnnw; mater arall oedd hwnnw. Roedd yn wrthyn, ac mae'n dal i fod yn wrthun i lawer ohonom, sef y syniad o beidio ag yfed dŵr tap, neu 'pop y cyngor', fel yr oeddem ni yn ei alw, ac mae'n dal yn llawer gwell na'r stwff potel. Dydw i erioed wedi deall hynny.
Felly, dof at y ddau gwestiwn, mae un ynghylch swyddi. Mae cyfle aruthrol yma o ran y trawsnewid sy'n mynd i ddigwydd gyda biliynau o wellt a ddefnyddir, biliynau o gwpanau papur ac ati, a tybed beth ydym ni'n ei wneud ynglŷn â'r cyfleoedd busnes sydd ar gael yn gysylltiedig â hynny.
Yr ail un—fe sonioch chi am newid diwylliant ac, wrth gwrs, addysg. Yn naturiol, er mwyn cyflawni'r newid hwnnw, mae'n rhaid inni addysgu'r bobl ifanc sy'n dod ar ein hôl ni, y rhai chwech, saith, wyth, naw mlwydd oed. Gallaf ond eich cyfeirio efallai at rywfaint o'r wybodaeth addysgol wych o safbwynt Tiki y Pengwin, canllaw plant ynghylch problemau plastig. Nid wyf am eich rhoi mewn picil nawr, ond, mae'n debyg, petai'r holl blastig y mae bodau dynol yn ei gynhyrchu bob blwyddyn yn cael ei bwyso yn nhermau eliffantod, faint o eliffantod fyddai eu hangen? Nid wyf yn disgwyl ateb gennych chi, ond mae'n debyg mai 30 miliwn yw'r ateb, a phetai'r eliffantod hynny yn sefyll mewn rhes, yna fe fyddent yn amgylchynu'r ddaear bum gwaith. Mae'r math yna o wybodaeth addysgol sy'n cael ei chyflwyno yn wych, oherwydd, i ryw raddau, mae'r pethau a wnawn ni yn awr ar gyfer y cenedlaethau sy'n dod ar ein hôl ni, ac mae'r gwaith sy'n digwydd i newid y diwylliant cyfan yn y cenedlaethau hynny, yn ymddangos i mi mor bwysig, ac mae rhai o'r ffyrdd llawn dychymyg o drosglwyddo'r neges, o addysgu plant heddiw, yn hollol wych.
Diolch i'r Aelod am ei gyfraniad difyr a dadlennol iawn, ac am ddod ag atgofion lu yn ôl hefyd. Nid wyf yn siŵr ai'r rheswm yr ydych chi wedi ymrwymo i ni gyflwyno'r Cynllun Dychwelyd Breindal yw oherwydd y gallwch chi gael ail fusnes yn casglu'r poteli, neu annog ieuenctid y genedl i wneud hynny? Credaf eich bod yn hollol gywir wrth ddweud, 'Edrychwch ar y cynnydd rydym ni wedi ei wneud.' Felly, credaf mai ein ffigurau ailgylchu cynharaf—ym 1999, roedd yn 5.2 y cant ar y pryd a heddiw mae'n 64 y cant yng Nghymru. Cyflawnwyd hyn, nid drwy greu penawdau, ond drwy waith caled a dull gweithredu strategol parhaus i wthio'r newid hwnnw. Ac mae'n gwthio'r newid diwylliannol hwnnw hefyd. Rydym ni'n gwybod bod llawer o bobl erbyn hyn yn ystyried gwahanu gwastraff ac ail gylchu yn beth hollol normal.
O ran eich ail gwestiwn, o ran addysg, mae hynny'n rhan enfawr ohono, ac un o'r pethau sydd wedi rhoi pleser mawr imi yn y portffolio hwn yw'r gwaith sy'n ymwneud ag eco-ysgolion. Mae'r plant mor wybodus. Euthum i un ysgol, ac fe esboniodd y plant i gyd wrthyf beth oedd dinesydd byd-eang, a beth oedd cyfrifoldeb byd-eang. Fe ddywedant wrthych chi pam fod angen iddyn nhw ailgylchu, a'i gynyddu i'r cam nesaf. Fe wnes i ofyn iddyn nhw os byddent yn dymuno dod draw i ofyn fy nghwestiynau ar fy rhan i. Ond maen nhw hefyd—. Fe welwch chi nad yw hyn wedi ei gyfyngu i'r ysgol yn unig, mae'n ehangach. Maen nhw'n mynd â'r hyn maen nhw wedi ei ddysgu gartref a defnyddio pŵer plagio a gofyn i'w rhieni, eu neiniau a'u teidiau a'u perthnasau, 'pam nad ydych chi'n gwneud hynny? Mae angen ichi wneud hynny'. A gallant ddweud wrthynt, 'Mae hyn yn ymwneud â mi yn y dyfodol; rwyf eisiau i fy amgylchedd i fod mewn cyflwr da i mi pan fyddaf yr un oedran a chithau hefyd'. Felly, rwy'n credu fod y pethau addysgol a'r hwyl a sbri y sonioch chi amdanynt—. Yn ddiweddar fe wnaethom ni—ymgyrch oedd hi ynghylch sut olwg fydd ar Gymru yn 2050, ac fe gawsom ni gyfraniadau gwych gan ysgolion cynradd ledled Cymru yn dychmygu sut fath o le y gallai Cymru fod, a datgan beth oedd angen i ni ei wneud i atal hyn rhag digwydd erbyn 2050 a sicrhau y byddai gennym ni wlad wych o hyd y cawn i gyd ei mwynhau.
Rydych chi'n hollol gywir. Yn ogystal â bod yn fater amgylcheddol gyda rhesymu amgylcheddol a chydag effaith gadarnhaol oherwydd y newidiadau hyn, mae manteision economaidd enfawr i ni hefyd. Dyna pam ei bod hi'n bwysig o safbwynt y rhan y gall yr economi gylchol ei chwarae. Wrth inni edrych ar y mesurau i fynd i'r afael â gwastraff plastig untro, rydym ni, Lywodraeth Cymru, hefyd yn ymrwymo i ganfod sut i yrru'r mewnfuddsoddiad i'r cyfeiriad hwn, i sicrhau y gallwn ni mewn gwirionedd sicrhau bod mwy o ailddefnyddio ac ailgylchu yng Nghymru. Felly, ar yr un pryd byddwn yn gwneud ein rhan o ran y model ailgylchu a'r economi gylchol, a hefyd yn creu nifer o swyddi yn sgil hynny.
Rwy'n croesawu datganiad y Gweinidog. Mae'n ddatganiad eang iawn, ac mae'n cwmpasu llawer o agweddau, felly rwy'n credu bod croeso mawr iddo. Fe sonioch chi, ar ddiwedd eich araith, am frwdfrydedd y cyhoedd a sut y maen nhw yn ein harwain. Yn fy etholaeth yn ddiweddar, fe es i lansiad menter Rhiwbeina di-blastig a ddechreuwyd gan un o'r etholwyr a'i gefnogi gan ein AS, Anna McMorrin. Cynhaliwyd y digwyddiad yng Nghaffi Snails, Rhiwbeina, sy'n troi'n ddi-blastig. Gyda llaw, roedd stondin yno a oedd yn gwerthu brwsys dannedd bambŵ. Mae'r etholwr yn bwriadu ymweld â busnesau yn y pentref a chynnig archwiliad plastig a chyngor ynglŷn â sut i leihau'r nifer o eitemau plastig untro fel gwellt a throwyr, a lledaenu'r neges ddi-blastig yn gyffredinol. Rydym yn gobeithio ehangu hyn ledled yr etholaeth, gan chwilio am hyrwyddwyr cymunedol. Felly, roeddwn yn credu y byddai clywed am y fenter gyhoeddus hon yn Rhiwbeina o ddiddordeb i'r Gweinidog.
Symudaf ymlaen at y cynllun dychwelyd blaendal a'r dreth plastig untro, cefnogaf y mentrau hynny. Ac rwyf yn deall y rhesymau pam ei bod hi'n dderbyniol i wneud hynny ar lefel y DU gyfan; gallai hynny fod yn fanteisiol. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn parhau'n hyblyg ynghylch unrhyw newidiadau y byddwn eisiau eu gwneud i'r ddeddfwriaeth. A soniodd Mick Antoniw ein bod ni wedi arwain y fenter bagiau plastig gyda Lloegr yn dilyn beth amser wedyn ac, rwy'n credu, y cymerodd hi gryn amser iddyn nhw wneud hynny—mae ganddyn nhw erbyn hyn, gynllun tebyg i'n cynllun ni. Felly, er ein bod ni wedi clywed datganiadau ac ati o gyfeiriad y Llywodraeth yn San Steffan, gan Michael Gove, nid wyf yn credu y dylai unrhyw beth ein rhwystro mewn unrhyw ffordd rhag mabwysiadu mentrau y byddem ni ein hunain yn dymuno eu sefydlu.
Y mater arall roedd arnaf i eisiau sôn amdano—soniwyd amdano ambell waith yn barod—yw ffynhonnau dŵr. Credaf fod gwneud Cymru yn genedl ail-lenwi yn wych. Teimlaf y byddai'n beth da iawn ailgyflwyno rhai ffynhonnau dŵr yfed cyhoeddus. Sylwais yn Llundain yn ddiweddar eu bod yn ail-gyflwyno ffynhonnau newydd yn y parciau, ac roedd hyn yn ddiddorol yn fy marn i. Ond meddwl oeddwn i tybed a ellid buddsoddi arian o drethi plastig mewn adeiladu seilwaith ar gyfer ffynhonnau dŵr ledled Cymru, oherwydd mae'n rhaid ei fod yn un ffordd o leihau'r defnydd o boteli plastig.
Yna, yn olaf, rwy'n falch iawn eich bod yn mynd i roi sylw i'r digwyddiadau mawr sy'n cael eu cynnal, oherwydd mae tymor digwyddiadau'r haf wedi cyrraedd erbyn hyn. Felly, dyna leoliadau allweddol i ganolbwyntio ar ailgylchu.
Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad, ac rwy'n credu eich bod yn iawn i grybwyll—. Rydych chi'n gwneud rhai sylwadau diddorol iawn y byddwn yn eu hystyried ynghylch ffynhonnau dŵr a'n hymagwedd tuag atynt. A hefyd, mewn gwirionedd, yr hyn a ddywedais o'r blaen, byddwn yn parhau'n hyblyg—ymchwilio ac ystyried potensial y Cynllun Dychwelyd Breindal neu'r dreth plastig untro ar lefel y DU, oherwydd fe wyddom ni fod hynny'n llai cymhleth a llai dyrys i ddefnyddwyr a busnesau, ond rwyf wedi bod yn glir o'r dechrau mai dyna yw'r ffordd i fynd ati, ond bydd y dewis gennym ni bob amser i wneud rhywbeth ein hunain ledled Cymru os byddwn mewn sefyllfa i wneud hynny.
Soniodd yr Aelod am ddatganiadau, a, wyddoch chi, fe wneir cyhoeddiadau, ond gweithredu sy'n gwneud y gwahaniaeth mawr. Rwy'n gwybod fod pobl yn troi eu llygaid bob tro rwy'n sôn am ein henw da, ond credaf y dylem ni gydnabod hefyd ein bod yn dynesu at hyn o sefyllfa dda iawn o'i gymharu â'n cydweithwyr mewn mannau eraill yn y DU o ran ein cyflawniadau ailgylchu. Ond, serch hynny, rydym ni'n gwybod ein bod eisiau gweithredu i fynd i'r afael â phlastig untro. Gwyddom y bydd hynny er budd ein hamgylchedd ac er budd yr economi hefyd.
Rwyf wedi gweld hanes menter Rhiwbeina di-blastig ar y cyfryngau cymdeithasol, a hoffwn longyfarch eich etholwr am y gwaith y mae yn ei wneud i gael y fenter ar ei thraed. Mae'n swnio'n syniad gwych cael cefnogwyr a hyrwyddwyr ledled y gymuned i ledaenu'r neges. Oherwydd yr hyn a welais pan ymwelais â Natural Weigh yr wythnos ddiwethaf oedd eu bod wedi cael y syniad gan rywbeth arall yr oeddent wedi ei weld ar-lein, a bellach maen nhw'n cynnig cyngor i eraill yng Nghymru i wneud yr un peth hefyd. Un o'r pethau yr wyf yn gobeithio ei wneud yn ystod—. Credaf fod yr agwedd gymunedol yn sbardun cryf; yn rym pwerus iawn ar gyfer unrhyw newid, a chredaf fod neges y cyhoedd, mewn rhai ffyrdd, yn llawer mwy pwerus na'r hyn a ddaw o gyfeiriad gwleidyddion. Un o'r pethau yr wyf yn awyddus i wneud yn ystod toriad yr haf yw ymweld â nifer o leoedd a chymunedau sy'n gweithredu dros eu hunain. Felly, efallai, os hoffai'r Aelod ysgrifennu ataf, cawn weld a allwn ni wneud rhywbeth yn Rhiwbeina hefyd.
Yn olaf, Joyce Watson.
Diolch, Llywydd. Rwy'n croesawu'r adroddiad, ac rwy'n mynd i ganolbwyntio ar y £15 miliwn o arian cyfalaf yr ydym yn ei roi dros dair blynedd ar gyfer y rhaglen newid gydweithredol i gynyddu ailgylchu. Yr hyn yr wyf eisiau ei ofyn, Gweinidog, yw a allwn ni bod yn fentrus pan fuddsoddwn ni mewn prosiectau cyfalaf, pa un a yw'n adeilad ysgol newydd, yn ychwanegiad i'r adeilad presennol, neu'n gynllun adnewyddu canol trefi, oherwydd rydym yn rhoi arian cyhoeddus i'r cynlluniau hyn, ac wrth i'r adeiladu fynd rhagddo ceir cyfle gwych i sicrhau ein bod yn gosod ffynhonnau dŵr yn yr adeiladau hynny i sicrhau na fydd plastig yn cael ei ddefnyddio.
Rwyf wedi bod yn gwylio'r newyddion ar y BBC, a bu'n newyddion gwych i dwristiaeth y penwythnos hwn. Aeth pobl i'r traethau ac ardaloedd o harddwch naturiol gan adael sbwriel ar eu hôl. Mae'r Bari yn cael cryn sylw yn y stori hon a bu raid i blant ysgol fynd draw i dacluso a glanhau. Rwy'n credu fod Porthcawl yn ardal arall, ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac rwyf i'n byw yn Sir Benfro ac nid oes amheuaeth gennyf mai'r un yw'r sefyllfa yno. Felly, rwy'n credu bod rhaglen gyfan o addysgu yma, i ymdrin â phobl yn dod i fwynhau ein golygfeydd. Rydym ni eisiau eu gweld nhw yma oherwydd eu bod yn dod ag incwm sylweddol yn eu sgil, ond does arnom ni ddim eisiau iddyn nhw adael eu sbwriel ar ôl, sy'n creu cost sylweddol i'r awdurdod lleol. Efallai bod rhywfaint o waith a fyddai'n werth ei wneud—ac efallai ei fod yn digwydd—o ystyried cwpanau untro. Rwy'n credu bod y rhain yn cyfrannu'n helaeth at y sbwriel ac mae'n costio'n sylweddol i'w gasglu a'r trethdalwr sy'n gorfod rhoi ei law yn ei boced.
Gan ein bod yn llongyfarch, hoffwn longyfarch pobl yn Harlech sy'n ystyried creu ardal ddi-blastig, a'r siop sglodion yn Aberteifi a roddodd flwch cardbord imi yn hytrach nag un polystyren, a'i gynnig fel dewis. Tra roeddwn i yno fe gymerodd pawb a gafodd y dewis y blwch cardbord.
Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei chwestiynau ac am ei sylwadau hefyd. Rwy'n credu bod yr hyn a ddywedasoch chi yn ddiddorol iawn, er ei bod yn dystiolaeth anecdotaidd—pan oedd pobl yn cael dewis, roeddent yn ffafrio'r dewis amgen ecogyfeillgar. Fe ymunaf â chi wrth longyfarch Harlech hefyd, a da iawn hefyd i'r siop sglodion yn Aberteifi. Efallai y byddaf yn difaru dweud y byddaf yn ymweld â phob un o'r cymunedau wrth i'r rhestr dyfu a thyfu, fel y dylai. Bydd yn sicr yn fy nghadw i'n brysur iawn yn ystod misoedd yr haf.
Rwy'n credu bod hynny'n iawn o ran mynd i'r afael â'r ddau beth gyda'i gilydd—sbwriel ac ailgylchu ar y pryd—oherwydd gallai llawer o'r hyn a gaiff ei daflu fel sbwriel gael ei ailgylchu ar y pryd pe byddai gennym ni'r seilwaith iawn ar waith. Ond rwy'n credu hefyd fod yr ymgyrchoedd addysgol ac ymddygiadol wrth wraidd y mater. Yr ymgyrchoedd hynny fydd un o'r pethau y byddwn ni'n eu hystyried yn rhan o hyn wrth inni fwrw ymlaen, hefyd, ond yn ogystal â hynny, mewn gwirionedd, sut y mae'n ystyried amrywiaeth o ffactorau hefyd, nid yn unig o ran newid ymddygiad, ond ailgylchu yn y cartref hefyd. Rydym ni'n gwybod bod sbwriel yn falltod ar ein cymunedau hefyd, a chredaf ei bod hi'n fater mewn gwirionedd o sut yr ydym ni'n sicrhau'r cydbwysedd cywir o ran yr hyn y byddem ni'n ei alw'n ymagwedd anogol wrth inni fwrw ymlaen.
Diolch i'r Gweinidog.