Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 8 Mai 2018.
Ond, mae llawer mwy i'w wneud o hyd. Rydym ni wedi gweld newid diwylliant o ran pobl yn didoli eu gwastraff ac ailgylchu yn y cartref, ond ni chaiff yr ymddygiad hwn ei adlewyrchu pan fydd pobl yn mynd allan, hyd yn oed pan fo biniau ailgylchu ar gael. Rwyf yn glir bod angen gwella ein lefelau ailgylchu pan fyddwn ni allan. Yn ystod y misoedd diwethaf, rydym ni wedi gweld cynnydd yn ymwybyddiaeth y cyhoedd a gweithredu cymunedol o ran yr angen i fynd i'r afael â gwastraff plastig untro, o ganlyniad i raglen Blue Planet y BBC yn fwy na dim. Ond ymhell cyn hynny, yn ôl ym mis Ionawr 2017, comisiynodd Llywodraeth Cymru adroddiad Eunomia ar gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr—EPR yn fyr.
Gofynnwyd i'r ymchwilwyr werthuso amrywiaeth o ddulliau i gynyddu prosesau atal gwastraff ac ailgylchu a lleihau sbwriel. Cafwyd pwyslais ar chwe math o becynnau bwyd a diod, gan gynnwys poteli a chaniau diodydd a chwpanau coffi untro. Mae'r adroddiad crynhoi, a gyhoeddwyd heddiw, yn rhoi gwybodaeth am amrywiaeth o ddewisiadau, gan gynnwys cynlluniau dychwelyd blaendal, trethi neu gostau am gwpanau untro a newidiadau i'r rheoliadau EPR cyfredol. Ers comisiynu'r adroddiad hwn, bu datblygiadau ar lefel y DU, ac mewn rhai meysydd mae'n gwneud synnwyr i ni gydweithio â DEFRA a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill.
Ar hyn o bryd rwyf yn ystyried cynllun dychwelyd blaendal ledled y DU a byddaf yn cwrdd â fy nghymheiriaid o'r DU a Llywodraeth yr Alban ynglŷn â'r mater hwn yr wythnos nesaf. Wrth gwrs, mae'n rhaid i unrhyw gynllun ystyried risgiau a buddion y ddarpariaeth bresennol a lefelau ailgylchu ac adeiladu ar y gwaith yr ydym ni wedi'i wneud eisoes yma yng Nghymru. Hefyd, rwyf i'n ystyried diwygiadau i reoliadau rhwymedigaethau cyfrifoldeb cynhyrchwyr fel bod cynhyrchwyr a manwerthwyr yn talu cyfran fwy o gostau rheoli gwastraff. Bydd negeseuon o'n gweithdai rhanddeiliaid diweddar yn cyfrannu at hyn. Rydym yn parhau i weithio gyda Thrysorlys EM ar dreth plastig untro i'r DU. Ar yr un pryd, byddwn yn parhau i ystyried treth, ardoll neu godi tâl am gwpanau diod untro i Gymru, fel yr argymhellwyd yn adroddiad Eunomia. Mae defnydd gorfodol o gwpanau amldro a chynllun treialu posibl yn rhywbeth arall rwyf i'n ei ystyried.
Gall datblygu dulliau gweithredu ar lefel y DU gyfan fod yn llai cymhleth i ddefnyddwyr ac yn well i fusnesau, sydd wedi dweud wrthym fod yn well ganddyn nhw'r dull hwn, yn arbennig wrth i ni baratoi ar gyfer Brexit. Rydym ni'n dymuno sefydlu dull cynhwysfawr, wedi'i chynllunio, hirdymor sy'n arwain at effaith hirdymor gadarnhaol. Mae astudiaeth Eunomia wedi helpu i greu darlun o'r hyn sydd orau i Gymru. Drwy adeiladu ar y gwaith hwn, caiff astudiaethau dichonoldeb eraill eu comisiynu i asesu sut y gallai cynllun dychwelyd blaendal effeithio ar berfformiad ailgylchu trefol ac i edrych ar gyfansoddiad a ffynonellau sbwriel yng Nghymru.
Mae uwchgynhadledd Ras Hwylio Volvo yn ymweld â Chaerdydd ym mis Mehefin, a bydd yn hoelio sylw'r byd cyfan ar yr hyn yr ydym ni'n ei wneud i fynd i'r afael â phlastig yng Nghymru. Fis diwethaf, cyhoeddais mai Cymru fydd y wlad Ail-lenwi gyntaf yn y byd. Rwy'n gwybod y bu llawer o ddiddordeb yn y maes hwn gan yr Aelodau ac rwyf yn gweithio gydag Ail-lenwi i ddatblygu ap a gweithio gyda busnesau Cymru, elusennau a digwyddiadau mawr i helpu i glirio poteli plastig untro o Gymru, drwy osod mannau a gorsafoedd ail-lenwi ledled y wlad. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda Dŵr Cymru i adeiladu brand Cymreig, a datblygu ymgyrch newid ymddygiad i helpu pobl i weld gwerth ein dŵr, a gwneud dŵr o'r tap yn ddewis cyntaf ar gyfer diod.
Heddiw, gallaf gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru wedi llofnodi cytundeb plastigau y DU WRAP. Cydweithrediad yw hwn rhwng Llywodraethau, busnesau, awdurdodau lleol, sefydliadau anllywodraethol a defnyddwyr sydd wedi ymrwymo i chwarae eu rhan i leihau faint o wastraff plastig a gynhyrchir yn y DU. Mae WRAP Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn llunio map llwybr ailgylchu plastigau i Gymru. Bydd hyn yn argymell camau gweithredu i gynyddu'r defnydd o ddeunydd ailgylchu mewn plastig a weithgynhyrchwyd yng Nghymru. Bydd y gronfa buddsoddi cyfalaf economi gylchol gwerth £6.5 miliwn ar gyfer 2019-20 yn cyfrannu at y nod hwn.
Cyhoeddais hefyd fis diwethaf £15 miliwn ychwanegol o gyllid cyfalaf dros dair blynedd ar gyfer y rhaglen newid cydweithredol. Bydd hyn yn gwella seilwaith a systemau casglu ailgylchu awdurdodau lleol ymhellach, gan gynnwys ar gyfer plastigau. Yn ystod yr wythnosau nesaf, byddaf yn cwrdd â threfnwyr digwyddiadau mawr yng Nghymru i gynyddu prosesau ailgylchu plastig a lleihau'r defnydd o blastig untro.
Ond, rwyf yn glir bod yn rhaid i ni weithredu ar ein geiriau, ac rwyf i wedi ymrwymo i sicrhau nad oes plastig untro i'w weld yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn. Rydym ni eisoes yn cymryd camau sylweddol tuag at hyn. O ganlyniad i'r tâl o 25c ar gyfer defnyddio cwpanau untro, gwerthir rhyw 75 y cant o'r diodydd poeth yn ein ffreuturau mewn cwpanau amldro. Nid ydym yn defnyddio gwellt, trowyr na chyllyll a ffyrc plastig yn ein ffreuturau. Hefyd, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddylanwadu ar y sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru, er enghraifft drwy ddarparu contractau caffael deunyddiau tafladwy yn holl adeiladau Llywodraeth Cymru, drwy weithio gyda Gwerth Cymru.
Yn ddiweddarach eleni, byddaf yn ymgynghori ar reoliadau i weithredu Rhan 4 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, a fydd yn ei gwneud hi'n ofynnol i fusnesau a chyrff y sector cyhoeddus wahanu'r gwahanol fathau o wastraff, yn union fel y mae aelwydydd yng Nghymru yn ei wneud ers blynyddoedd. Bydd hyn yn cyfrannu'n sylweddol at gyfraddau ailgylchu yng Nghymru, ac mae'n briodol bod y cyfrifoldeb ar bob un ohonom i weithredu.
Nid wyf yn ymddiheuro am ein balchder yn ein henw da o ran ailgylchu a mynd i'r afael â gwastraff yng Nghymru. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i fynegi fy niolch yn glir i bartneriaid a'r cyhoedd fel ei gilydd: heb eich gwaith caled, eich ymrwymiad a'ch brwdfrydedd chi, ni fyddem ni lle'r ydym ni heddiw.
Llywydd, rwyf yn awyddus i adeiladu ar y llwyddiant hwn. Ni oedd y cyntaf yn y DU i gyflwyno tâl am fagiau siopa plastig. Gallwn arwain y ffordd unwaith eto a rhoi Cymru ar y blaen yn y byd o ran ailgylchu. Diolch yn fawr.