Part of the debate – Senedd Cymru am 6:00 pm ar 8 Mai 2018.
Rwy'n credu, yn gyntaf, dim ond i ddweud, fodd bynnag, bod yr adroddiad Eunomia yn eithaf radical yn ei ffordd. Mae'n cynnwys llawer o syniadau newydd, mae'n cynnwys ffeithiau a ffigurau syfrdanol. Felly, cynwysyddion diodydd: mae 40 y cant o'r sbwriel ar lawr gwlad yn gynwysyddion diodydd yn y bôn. Pe gallem ni gynyddu ein cyfradd ailgylchu, sy'n amrywio rhwng 65 a 70 y cant o ran gwahanol gynwysyddion diodydd—er mai'r rheini sy'n cyrraedd y llif ailgylchu yw'r rhain, yn hytrach na phob dim—ac os cawn ni gyfradd ailgylchu o 80 neu 90 y cant o'r cynwysyddion hyn, byddwn yn haneru—ie, haneru—y gofyniad am ddeunyddiau crai. Felly, mae ailgylchu yn ymwneud â mwy na chadw'r cylch nwyddau yn troi, os mynnwch chi, a helpu'r amgylchedd, rydych chi'n sôn am ddefnyddio llai o adnoddau yn y lle cyntaf, llai o ynni i'w cynhyrchu, rydych chi'n sôn am well economi, rydych chi'n sôn am economi ddiwastraff a'r buddion i ni yn ehangach, yr ydym ni i gyd, rwy'n credu, wedi ceisio'u cefnogi yn y Cynulliad. Felly, yn hynny o beth, croesawaf yr adroddiad yn fawr a rhai o'r syniadau ynddo.
Fy anhawster i, fel y nodwyd eisoes, Ysgrifennydd y Cabinet, yw bod rheoliadau gwastraff deunydd pacio a chynnyrch yn wir yn un o'r 24 maes, ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd o 29 Mawrth ymlaen, a gaiff ei gadw, mewn gwirionedd, o dan y model cadw pwerau, nid datganoli, i Lywodraeth y DU. Rydym ni'n aros i weld sut y bydd hyn yn datblygu mewn gwirionedd. Gadewch i ni ddweud dim mwy na hynny am y tro. Ar hyn o bryd, mae gennym ni Lywodraeth y DU ac Ysgrifennydd Gwladol penodol sydd wedi mynegi diddordeb mewn rhai o'r syniadau hyn ar ffurf Michael Gove. Ni wn i ba mor hir y bydd yn para yno; rwy'n credu ei fod yn sicr yn ystyried mynd i rywle arall a gwneud rhywbeth arall yn y flwyddyn nesaf, ond, tra'i fod yno, mae gennym ni gyfle. Rwyf yn cytuno â sylwedd cyffredinol yr adroddiad a'r hyn y dywedodd y Gweinidog, ei bod yn well gwneud rhai o'r pethau hyn ar lefel y DU oherwydd gwaith traws-ffiniol, cydweithio, gweithio gyda'n partneriaid, nid oes gen i broblem â hynny o gwbl. Y cwestiwn yw: a oes gennym ni bwerau i fynd ar drywydd hyn os bydd Gweinidog yr amgylchedd yn newid ar lefel y DU neu os bydd newid agweddau ar lefel y DU?
Felly, mae'n rhaid i'r cwestiwn cyntaf ymwneud â chynllun dychwelyd blaendal, gan weithio gyda Llywodraeth y DU ar y syniadau hyn. A ydych chi'n glir, Gweinidog, os bydd Llywodraeth y DU naill ai'n llusgo'i thraed yn hyn o beth, neu'n cynnal ymgynghoriad hir neu'n cael ei dal mewn materion Brexit neu beth bynnag y gallai fod, y gallwch chi barhau â'r cynllun dychwelyd blaendal yng Nghymru? Mae'r adroddiad yn ei gwneud yn glir y gallech chi wneud hynny, ac mae'n nodi tri dewis ar gyfer hynny: soniwyd am un gwirfoddol, dan arweiniad diwydiant; treth ar bob cynhwysydd diod, eto dan arweiniad diwydiant i raddau helaeth; neu ryw fath o ddeddfwriaeth y gellid ei chyflwyno yma yng Nghymru. Felly, a wnewch chi roi syniad o sut y tybiwch chi y gallai hynny ddatblygu?
Yn ail, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni edrych ar bob math o gynlluniau cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr. Rydym ni'n clywed gan Lywodraeth y DU am y penawdau: gwellt. Rydym ni'n clywed gan Lywodraeth y DU am drowyr a'r math hwn o beth. A oes pecyn yno y gallwn ni weithio ag ef? A oes gennych chi ryw syniad bod pecyn o gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr y gallwch chi weithio ag ef? Nid wyf yn credu bod cynigion Llywodraeth y DU mewn gwirionedd yn ddigon uchelgeisiol, ac rwy'n credu y gallwn ni wneud mwy yma yng Nghymru. Un o'r pethau a awgrymir yn yr adroddiad yw, yn ogystal â thâl o 25c yn Llywodraeth Cymru ar gyfer cwpanau coffi, tâl ar gyfer defnyddwyr yng Nghymru hefyd—i gyflwyno tâl o'r fath. A yw hyn yn rhywbeth y gallwn ei wneud pa un a yw Llywodraeth y DU yn dymuno gwneud hynny ai peidio, oherwydd rwy'n credu ei bod yn rhywbeth y gellid ei wneud mewn modd defnyddiol yng nghyd-destun Cymru a newid ymddygiad pobl, a helpu Llywodraeth y DU, os yw'n dymuno gwneud hynny, i weithredu hynny? Ni fyddwn i'n hoffi gweld rhai o'r syniadau da hyn yn yr adroddiad hwn yn cael eu dal mewn ystyriaethau ehangach o ran camau nesaf Llywodraeth y DU, oherwydd yn fy marn i, mae yna bethau y gallwn ni eu gwneud yma yn awr, neu o leiaf yn y chwe mis nesaf, a symud ymlaen at hynny.
Ac, wrth gwrs, yn hynny o beth, a gaf i sôn am y £0.5 miliwn yng nghytundeb y gyllideb, a oedd yn wreiddiol ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb ar gynlluniau dychwelyd blaendal? Mae syniadau yn yr adroddiad ynghylch sut y gellid defnyddio'r arian hwnnw, ac ni fyddaf yn cychwyn dadl ynghylch sut y gellid ei ddefnyddio yn y lle hwn, ond dweud yr wyf i ein bod yn derbyn, wrth gwrs, bod dyddiau astudiaeth ddichonoldeb wedi mynd; rydym ni erbyn hyn wedi cyrraedd cyfnod ble mae modd gweithredu ac rwy'n croesawu'n fawr y cyfle i drafod â chi a'r Llywodraeth sut y gellid cyflawni hynny. Un o'r pethau rwy'n dal i feddwl bod gennym gyfle gwirioneddol i'w wneud yma hefyd yw cyflwyno treth plastigau, neu ardoll plastigau o ryw fath. Unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth sydd wedi cael sylw gan Lywodraeth y DU, ond, unwaith eto, rwy'n mynegi fy mhryder nad ydym ni'n gweld hynny, mewn rhai ffyrdd, yn cael ei ddadelfennu. Rwy'n credu y gallwch chi ddadelfennu plastigau; maen nhw'n sicr mewn poteli dŵr yr ydym ni'n eu prynu. Ceir olion o blastig ym mhob potel ddŵr erbyn hyn, felly mae'n dangos mor chwerthinllyd yw'r sefyllfa hon. Ond mae'r syniad hwn o dreth plastigau yn rhywbeth y gallwn ni fod yn berchen arni yma. Os na fydd Llywodraeth y DU eto yn awyddus i fynd ar drywydd hynny, gadewch i ni weld hynny'n digwydd.
Ac, yn olaf, rydym ni wedi clywed o'r blaen gennych chi a Llywodraeth Cymru ynghylch sut yr hoffech chi weithio gyda phartneriaid i newid y ffordd yr ydym ni'n defnyddio plastigau. Rydych chi'n sôn am botensial ar gyfer caffael yn y cyswllt hwn. Hefyd, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu llawer iawn o gyrff sy'n ymgymryd â llawer iawn o weithgareddau yng Nghymru. Mae rhywfaint o hynny'n cynnwys llawer iawn o blastig, boed hynny mewn pabell mewn gŵyl gwrw neu rywbeth tebyg, neu ddigwyddiad neu beth bynnag. A wnewch chi ystyried sut yr ydych chi'n defnyddio eich arian wrth fynd ati i newid ymddygiad yn y digwyddiadau hyn ac yn y mathau hyn o sefydliadau hefyd er mwyn i'r cyhoedd eu hunain allu gweld eich bod chi'n arwain y ffordd?