Part of the debate – Senedd Cymru am 5:44 pm ar 8 Mai 2018.
Diolch, Llywydd. Mae Cymru'n arwain y byd o ran ailgylchu. Ni yw'r gorau yn y DU, yr ail yn Ewrop, a'r trydydd yn y byd. Mae hyn o ganlyniad uniongyrchol i bolisïau a wnaed yng Nghymru. Rydym ni wedi buddsoddi'n helaeth mewn seilwaith ailgylchu wrth ymyl y ffordd ac wedi bod â thargedau statudol ar gyfer awdurdodau lleol ers tro, ac wedi rhoi dirwyon os nad chyrhaeddir hynny. Rwy'n falch o'n record a lefel yr ymrwymiad i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu ar hyd a lled y wlad sydd wedi ein harwain at ein llwyddiant heddiw.