Part of the debate – Senedd Cymru am 6:17 pm ar 8 Mai 2018.
Mae gennyf ddau gwestiwn. Ychydig o sylwadau cyn hynny: mae'n werth edrych yn ôl a gweld y cynnydd yr ydym ni wedi ei wneud, a phan ddechreuon ni, er enghraifft, gyda'r bagiau plastig, yr effaith a gafodd hynny—bron i 400 miliwn o fagiau'r flwyddyn yng Nghymru yn unig nad ydynt yn cael eu defnyddio, 8 biliwn yn y DU, a ddilynodd esiampl Cymru. Cofiaf sôn am hyn ym Mhwyllgor y Rhanbarthau ym Mrwsel, gan fod nifer sylweddol o wledydd yn Ewrop yn ystyried dilyn yr esiampl. Canlyniad hyn, o bosibl, yw tua 80 biliwn o fagiau plastig y flwyddyn nad ydynt yn cael eu defnyddio. Felly, ddylem ni ddim tanbrisio pwysigrwydd y rhan arweiniol yr ydym yn ei chwarae yng Nghymru a'r effaith y gall hynny ei gael, nid yn unig yn ein gwlad ni, ond o fewn gwledydd eraill hefyd.
A gaf i ddweud ar goedd hefyd pa mor bwysig yw hi i longyfarch y cynghorau hynny sydd wedi gwneud cymaint o gynnydd, yn enwedig fy nghyngor fy hun, cyngor Rhondda Cynon Taf, sydd wedi cyrraedd eu targed ailgylchu o 64 y cant erbyn hyn, sy'n arwain y ffordd heb amheuaeth, ymhell o flaen targedau'r Llywodraeth, ac yn parhau i wneud hynny.
A gaf i hefyd gyfeirio at rai o'r materion rydych chi'n eu crybwyll ynghylch dŵr, poteli, gwellt ac ati, eitemau atgofus o'r gorffennol, sy'n codi hiraeth mawr arnaf? Treuliais fy ieuenctid ffôl yn sefyllian o amgylch safleoedd adeiladu yn casglu'r poteli hynny y cewch chi arian am eu dychwelyd nhw i'r siop, arian oedd yn caniatáu imi brynu pum Park Drive yn y siop leol, mae gennyf gywilydd i ddweud. Y gwellt papur—hynny yw, nid wyf yn cofio beth oedd gwelltyn plastig. Roedd gennym wellt papur oedd yn cael eu defnyddio'n aml fel gynnau pys—ond eu prif swyddogaeth oedd ar gyfer yfed llaeth ysgol, wrth gwrs fe gafodd Maggie Thatcher wared ar hwnnw; mater arall oedd hwnnw. Roedd yn wrthyn, ac mae'n dal i fod yn wrthun i lawer ohonom, sef y syniad o beidio ag yfed dŵr tap, neu 'pop y cyngor', fel yr oeddem ni yn ei alw, ac mae'n dal yn llawer gwell na'r stwff potel. Dydw i erioed wedi deall hynny.
Felly, dof at y ddau gwestiwn, mae un ynghylch swyddi. Mae cyfle aruthrol yma o ran y trawsnewid sy'n mynd i ddigwydd gyda biliynau o wellt a ddefnyddir, biliynau o gwpanau papur ac ati, a tybed beth ydym ni'n ei wneud ynglŷn â'r cyfleoedd busnes sydd ar gael yn gysylltiedig â hynny.
Yr ail un—fe sonioch chi am newid diwylliant ac, wrth gwrs, addysg. Yn naturiol, er mwyn cyflawni'r newid hwnnw, mae'n rhaid inni addysgu'r bobl ifanc sy'n dod ar ein hôl ni, y rhai chwech, saith, wyth, naw mlwydd oed. Gallaf ond eich cyfeirio efallai at rywfaint o'r wybodaeth addysgol wych o safbwynt Tiki y Pengwin, canllaw plant ynghylch problemau plastig. Nid wyf am eich rhoi mewn picil nawr, ond, mae'n debyg, petai'r holl blastig y mae bodau dynol yn ei gynhyrchu bob blwyddyn yn cael ei bwyso yn nhermau eliffantod, faint o eliffantod fyddai eu hangen? Nid wyf yn disgwyl ateb gennych chi, ond mae'n debyg mai 30 miliwn yw'r ateb, a phetai'r eliffantod hynny yn sefyll mewn rhes, yna fe fyddent yn amgylchynu'r ddaear bum gwaith. Mae'r math yna o wybodaeth addysgol sy'n cael ei chyflwyno yn wych, oherwydd, i ryw raddau, mae'r pethau a wnawn ni yn awr ar gyfer y cenedlaethau sy'n dod ar ein hôl ni, ac mae'r gwaith sy'n digwydd i newid y diwylliant cyfan yn y cenedlaethau hynny, yn ymddangos i mi mor bwysig, ac mae rhai o'r ffyrdd llawn dychymyg o drosglwyddo'r neges, o addysgu plant heddiw, yn hollol wych.