Datblygiadau Tai

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 9 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:30, 9 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae angen i awdurdodau cynllunio lleol feddu ar ddealltwriaeth glir o’r ffactorau sy'n dylanwadu ar ofynion tai yn eu hardal. Dylai eu hasesiad diweddaraf o'r farchnad dai leol ffurfio rhan allweddol o'u sylfaen dystiolaeth ar gyfer cynlluniau datblygu lleol a chynnwys y farchnad dai gyfan drwy ystyried yr angen am dai'r farchnad agored a thai fforddiadwy.