Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 9 Mai 2018.
Nid yw hynny'n rhywbeth rwyf wedi'i ystyried yn fy nhrafodaethau â fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, ynglŷn â'r dreth trafodiadau tir. Rwy'n ymwybodol iawn o gynllun datblygu lleol Gwynedd ac Ynys Môn, a luniwyd, yn amlwg, yn unol â'r holl weithdrefnau statudol. Mae'n rhywbeth y byddaf yn ei ystyried, yn sicr. Fe sonioch chi am Gernyw, rwy’n credu, a byddai gennyf gryn ddiddordeb mewn edrych ar yr hyn y maent wedi'i wneud.