Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 9 Mai 2018.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, fis Hydref diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei diweddariad o'r rhaglen ar gyfer dileu twbercwlosis buchol. O gofio bod saith mis wedi bod ers ei lansio, a allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed yn sicrhau bod Cymru yn wlad heb TB ac effeithiolrwydd polisi Llywodraeth Cymru? A allwch ddweud wrthym hefyd faint o foch daear heintiedig sydd wedi cael eu difa ers dechrau'r rhaglen?