1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 9 Mai 2018.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd UKIP, Neil Hamilton.
Diolch, Lywydd. Gan ddilyn datganiad blaengar Ysgrifennydd y Cabinet ddoe am fywyd ar ôl Brexit a pholisi amaethyddol wedi'i deilwra i Gymru, hoffwn ofyn iddi a fydd yn parhau i fod â meddwl agored mewn perthynas â chyflwyno gwaharddiad ar allforio anifeiliaid byw. Gwn ei bod wedi dweud hyn yn y gorffennol, ond pe ceid gwaharddiad o'r fath, ni fyddai'n ymestyn i Ogledd Iwerddon, gan na allwn gael polisi amaethyddol sy'n gwneud masnachu gyda rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn anoddach.
Yn y cyd-destun hwn, nid wyf yn gwybod a yw wedi gweld rhifyn diweddaraf Y Tir, cyhoeddiad Undeb Amaethwyr Cymru, sy'n dwyn y pennawd 'Live exports ban would be short-sighted in the context of other uncertainties around Brexit'. Y llynedd, gwerth 140 o dunelli yn unig o anifeiliaid byw a allforiwyd o Gymru, yn ôl yr hyn a ddeallaf. Felly, mae'n broblem fechan ac felly nid yw'n debygol o achosi anawsterau sylweddol i ffermwyr. Ond nid yw'r ffaith bod y fasnach yn fach yn ddadl yn erbyn cyflwyno gwaharddiad o'r fath os daw'n amlwg fod modd ei gyfiawnhau yng nghyd-destun yr holl ystyriaethau eraill y byddai'n rhaid eu cadw mewn cof, ac felly, ni fyddai, ar y sail honno, yn cael ei ddiystyru gan Lywodraeth Cymru.
Diolch am eich cwestiwn. Yn sicr, byddai'n well gennyf pe bai anifeiliaid yn cael eu lladd mor agos ag sy'n ymarferol at eu man cynhyrchu, ac yn fy marn i, mae masnachu cig a chynhyrchion cig yn well na chludo anifeiliaid yn bell i gael eu lladd. Mae'n rhywbeth rwy'n edrych arno, ar y cyd â DEFRA, ac rwyf wedi gweld yr erthygl. Bydd yn rhaid inni sicrhau'r cydbwysedd hwnnw, ond yn amlwg, mae iechyd a lles anifeiliaid yn bwysig iawn i ni hefyd.
Wrth gwrs, mae'n rhaid ystyried buddiannau'r cynhyrchwyr yn y ddadl hon, ond heb gyflwyno gwaharddiad llwyr, mae pethau y gallem eu gwneud i wella'r gyfundrefn ddeddfwriaethol bresennol pan na fyddwn wedi ein cyfyngu gan reoliadau'r UE. Gallem wneud newidiadau i faint o amser y caniateir i anifeiliaid gael eu cludo, gallem addasu pa mor aml y mae'n rhaid stopio am seibiant, a gallem hefyd leihau nifer yr anifeiliaid sy'n cael eu cludo. Felly, mae'r rhain yn opsiynau rhannol efallai, ond byddent yn sicr yn gwella'r sefyllfa bresennol, ac yn dangos bod mwy o hyblygrwydd o ran polisi amaethyddol yn un o fanteision Brexit.
Wel, fel y gwyddoch, cafwyd galwad am dystiolaeth gan Lywodraeth y DU a byddwn yn edrych ar yr ymatebion. Ni fuaswn yn gwneud unrhyw beth heb ymgynghori. Felly, byddem wedyn yn cynnal ymgynghoriad. Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig, ynghyd â DEFRA, ein bod yn cymryd rhan lawn yn y camau nesaf fel y gallwn bennu ein safbwynt. Cytunaf yn llwyr â chi ynglŷn â hyblygrwydd; mae gallu cael polisi penodol iawn ar gyfer Cymru yn un o'r cyfleoedd mawr a ddaw yn sgil Brexit.
Yn drydydd, hoffwn ofyn a fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried gwella ymwybyddiaeth gyhoeddus o'r cig y mae aelodau o'r cyhoedd yn ei fwyta drwy wella'r broses o labelu cynhyrchion yn gywir, gan nodi gwlad tarddiad, amgylchiadau magu, ac yn anad dim, dulliau lladd, oherwydd er bod yn rhaid inni barchu gwahanol safbwyntiau crefyddol ar ladd yn unol â defodau crefyddol, nid oes gan y cyhoedd unrhyw syniad, yn aml, eu bod yn bwyta cig halal, er enghraifft, ac efallai na fyddent yn dymuno gwneud hynny pe bai ganddynt ddewis. Mewn cadwyni bwyd brys ac ati nid yw hyn yn cael ei nodi ar hyn o bryd, ac er y credaf y dylai fod gan bobl o wahanol gredoau crefyddol ryddid i fwyta yn ôl eu daliadau crefyddol, serch hynny gallai ymwybyddiaeth gyhoeddus leihau pryder y cyhoedd pe bai'n cael ei chynyddu yn y modd hwn.
Credaf fod labelu bwyd yn dod yn fwyfwy pwysig gan y credaf fod gan bobl lawer mwy o ddiddordeb yn y pynciau y cyfeirioch chi atynt, ac unwaith eto, mae'n sgwrs ac yn drafodaeth a gawn nid yn unig ar lefel swyddogol, ond hefyd ar lefel weinidogol yn ein cyfarfodydd pedairochrog, ac unwaith eto, ceir cyfle arall gyda Brexit i sicrhau ein bod yn gwneud pethau'n iawn. Rwy'n awyddus iawn i weld y ddraig goch a brand Cymru ar unrhyw fwyd sy'n tarddu o Gymru, felly, unwaith eto, rwy'n credu bod llawer mwy y gallwn ei wneud. Credaf fod y cyhoedd yn dod yn fwy ymwybodol, ac yn sicr pan fyddwch yn mynychu'r sioeau amaethyddol, neu unrhyw ddigwyddiadau a ffeiriau bwyd, mae pobl yn sicr yn awyddus i fod yn ymwybodol o'r hyn y maent yn ei brynu.
Llefarydd Plaid Cymru, Simon Thomas.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ofyn i'r Gweinidog—? Roeddwn yn rhan o ymweliad y Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig â San Steffan yr wythnos diwethaf, a chefais gyfle i holi Michael Gove yn uniongyrchol ynglŷn â'r corff amgylcheddol newydd y mae Llywodraeth y DU wedi addo ei sefydlu i gynnal safonau amgylcheddol yr UE a safonau amgylcheddol eraill os ydym yn gadael yr UE. Felly, pa drafodaethau a gawsoch gyda Michael Gove ynglŷn â'r corff arfaethedig hwn a pha sicrwydd y gallwch ei roi i'r Cynulliad y bydd yn cynnal ein safonau amgylcheddol uchel yma, gan gynnwys, wrth gwrs, y rhai a basiwyd yn ddiweddar yn ein Deddf yr amgylchedd?
Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn yn ymwneud â chynnal ein hegwyddorion amgylcheddol cryf yng Nghymru. Mae hyn wedi bod yn destun nifer o drafodaethau dwfn a chyfarfodydd pedairochrog rhwng Gweinidogion, Ysgrifennydd y Cabinet a swyddogion. Rydym wedi dadlau dro ar ôl tro dros drefniadau sefydliadol newydd a fframweithiau a gytunwyd er mwyn sicrhau y gall y DU weithredu'n effeithiol wedi inni adael yr UE.
Credaf mai'r pwynt a wnewch, sy'n bwysig iawn o ran y fframwaith, yw bod gennym eisoes nifer o offerynnau deddfwriaethol ar waith gyda'n Deddf yr amgylchedd a Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol nad oes gan y gweinyddiaethau eraill mohonynt ar hyn o bryd. Felly, rydym yn gweithio gyda Whitehall a Llywodraeth yr Alban i nodi lle bydd dulliau cyffredin a gytunwyd yn y DU yn ddefnyddiol ac i archwilio sut y byddai fframweithiau o'r fath yn gweithredu, a byddwn yn ystyried y dadansoddiad yn ofalus yn rhan o hyn.
Diolch i'r Gweinidog am yr hyn y mae wedi'i esbonio hyd yma, ond y drafferth, wrth gwrs, yw bod Llywodraeth Cymru wedi ildio ei hawliau i ddiogelu amgylchedd Cymru yn y cytundeb rhynglywodraethol. Rydych yn sôn am fframweithiau'r DU—[Torri ar draws.] Nid y Cynulliad hwn, nid Llywodraeth Cymru, ond Michael Gove fydd yn penderfynu pa rai o reoliadau'r UE a gaiff eu trosglwyddo ai peidio yn fframwaith y DU, a gall Senedd y DU newid safonau'r UE yma yng Nghymru pa un a ydym yn hoffi hynny ai peidio, pa un a ydym yn cydsynio ai peidio.
Nid ydych yn ei ddeall o gwbl, ydych chi?
Nid ydych chi'n ei ddeall ac roeddech yn arfer bod yn Weinidog yr amgylchedd, ac nid oes syniad gennych beth sy'n cael ei wneud i Gymru. Dim syniad. Felly, gadewch imi ofyn i'r Gweinidog presennol, yn hytrach na'r un blaenorol a wnaeth gymaint o lwyddiant o Cyfoeth Naturiol Cymru, a yw'n gyfforddus fod y grym hwn gan Michael Gove. Pa sicrwydd ysgrifenedig sydd ganddi na fydd Llywodraeth y DU yn defnyddio'r Bil ymadael â'r UE i ailysgrifennu deddfwriaeth Cymru ar yr amgylchedd?
Rwy'n falch eich bod wedi gorffen dadlau gyda'r cyn-Weinidog ac wedi troi eich cwestiwn ataf fi yn awr. Ni fydd yn syndod ichi fy nghlywed yn dweud fy mod yn anghytuno'n llwyr â'r haeriadau a wnaed gennych yn awr. Fodd bynnag, mae gennym gyfarfod pedairochrog ddydd Llun y bydd Ysgrifennydd y Cabinet a minnau yn ei fynychu, ac mae hyn yn rhywbeth a fydd yn uchel ar yr agenda yn y cyfarfod hwnnw.
Pa sicrwydd ysgrifenedig a gawsoch?
Ni chlywais unrhyw sôn am sicrwydd ysgrifenedig. Mae heddiw yn Ddiwrnod Ewrop. Rydym yn dal i fod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd ac mae gennym fynediad at gyfiawnder amgylcheddol tra byddwn yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd. Rwy'n deall nad yw'r Gweinidog a Llywodraeth Cymru yn cytuno â dadansoddiad Plaid Cymru neu bobl eraill—gan nad Plaid Cymru yn unig sy'n dweud hyn—rwy'n deall hynny. Ond gofynnais i chi pa sicrwydd ysgrifenedig a gawsoch na fyddai hyn yn digwydd. Dyna rwy'n gofyn amdano yma. Oherwydd pan geisiwyd newid y Bil parhad gyda gwelliannau i ysgrifennu'r ddeddfwriaeth Ewropeaidd yn ein deddfwriaeth ein hunain, dywedodd arweinydd y tŷ wrthym fod Deddf cenedlaethau'r dyfodol a Deddf yr amgylchedd yn rhan o'r fframwaith cyffredinol pwysig ar gyfer diogelu'r amgylchedd yng Nghymru.
Felly, bellach, mae Sefydliad y Llywodraeth wedi argymell y byddai unrhyw gorff gwarchod amgylcheddol newydd yn fwy cadarn pe bai ganddo gylch gwaith pedair cenedl a gynlluniwyd gan ac sy'n eiddo i'r pedair gwlad ar y cyd, ac yn ei dro, byddai'n cael ei gyd-ariannu gan y pedair deddfwrfa yn hytrach na Senedd y DU yn unig. Felly, gofynnaf eto: pa sicrwydd rydych wedi'i gael gan Michael Gove na fydd gwaith y corff amgylcheddol newydd yn tresmasu ar ddeddfwriaeth amgylcheddol Cymru, ac yn benodol, na fydd yn ymyrryd â gwaith comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol? Ac a ydych chi, yn wir, yn ceisio cyd-berchen ar, a chyd-ariannu'r corff amgylcheddol newydd hwn?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn olaf? Mae cytundeb rhynglywodraethol gennym ar waith ar hyn, ac mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn ei bwysleisio ymhellach, o ran amddiffyn y ddeddfwriaeth sydd gennym ar waith ac rydym yn falch o fod wedi arwain y ffordd arni a'i rhoi ar waith yng Nghymru, yn ein cyfarfod pedairochrog ddydd Llun.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, fis Hydref diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei diweddariad o'r rhaglen ar gyfer dileu twbercwlosis buchol. O gofio bod saith mis wedi bod ers ei lansio, a allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed yn sicrhau bod Cymru yn wlad heb TB ac effeithiolrwydd polisi Llywodraeth Cymru? A allwch ddweud wrthym hefyd faint o foch daear heintiedig sydd wedi cael eu difa ers dechrau'r rhaglen?
Byddwch yn cofio, Paul Davies, pan ddeuthum i'r Siambr mewn perthynas â'r diweddariad i'r rhaglen i ddileu TB, fy mod wedi dweud y byddwn yn rhoi datganiad blynyddol ar y cynnydd, a byddaf yn gwneud hynny ar yr adeg briodol yn ddiweddarach eleni. Ni allaf roi nifer y moch daear heintiedig sydd wedi cael eu difa i chi, ond gallaf ysgrifennu atoch ynglŷn â'r mater.FootnoteLink
Pan wnaethoch y cyhoeddiad hwnnw am y tro cyntaf ym mis Hydref, un o nodau Llywodraeth Cymru ar gyfer y tymor hwy, yn ôl cynllun cyflawni rhaglen dileu TB Cymru oedd datblygu cynllun prynu gwybodus. Ar y pryd, fe ddywedoch chi'n hollol glir fod hyn yn rhywbeth roedd Llywodraeth Cymru yn awyddus iawn i fwrw ymlaen ag ef. Felly, a allwch gadarnhau a yw hyn yn dal i fod ar agenda Llywodraeth Cymru? Os felly, a allech ddweud wrthym pa waith yn union y mae eich swyddogion wedi'i wneud ar ddatblygu cynllun gorfodol a pha bryd y mae'r cynllun hwnnw'n debygol o gael ei roi ar waith?
Ydy, mae'n sicr yn rhywbeth rydym yn bwrw ymlaen ag ef ac y mae swyddogion yn gweithio arno. Fe fyddwch yn gwybod fy mod wedi darparu arian i sicrhau y gallem gyflwyno cynllun gwirfoddol wrth inni weithio tuag at gynllun gorfodol, ac unwaith eto, gallaf roi gwybodaeth i'r Aelodau am hyn pan fyddaf yn gwneud y datganiad blynyddol.
Nawr, fel y byddwch yn deall, rwy'n siŵr, gallai ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd arwain at heriau sylweddol i ddiwydiant amaethyddol Cymru, ac mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â TB buchol yng ngwartheg Cymru, o gofio'r goblygiadau a allai ddeillio o hyn ar fasnachu gyda gwledydd eraill ar ôl Brexit. Felly, a allwch ddweud wrthym pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael eisoes gyda'i llywodraethau Ewropeaidd cyfatebol ynghylch masnachu ar ôl Brexit ac a allwch roi sicrwydd pendant i ffermwyr gwartheg heddiw na fydd eu busnesau'n dioddef ar ôl Brexit yn sgil dull Llywodraeth Cymru o fynd i'r afael â TB buchol?
Yn sicr, gallaf roi'r sicrwydd hwnnw. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi gwneud cynnydd gwirioneddol tuag at ddileu TB yng Nghymru. Gwyddoch fod nifer yr achosion newydd wedi gostwng dros 40 y cant ers ei anterth yn ôl yn 2009, a bellach mae 95 y cant o'n buchesi yng Nghymru heb TB. Felly, nid wyf am i bobl feddwl bod hyn yn rhywbeth sydd wedi gwaethygu; nid yw hynny'n wir. Rydym wedi gwneud cynnydd aruthrol mewn perthynas â dileu TB.