Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 9 Mai 2018.
Weinidog, wrth ymateb i hynny, rwy'n derbyn eich bod wedi cywiro argymhelliad Sefydliad Iechyd y Byd a'r ffaith eu bod wedi gwneud camgymeriad. Ond mae'n dal i ddangos bod Port Talbot ymysg y gwaethaf yn y DU o hyd. Mae gennym broblemau gyda llygredd aer ac ansawdd aer o hyd; rydym wedi cael y problemau hynny ers blynyddoedd lawer ac maent yn mynd i fod yn broblemau parhaus. Ac mae Caroline Jones yn llygad ei lle yn nodi bod diwydiant trwm yn effeithio ar hyn. Ond yn amlwg, mae gan Lywodraeth Cymru gamau y gall eu cymryd. Gall weithio gyda'r diwydiant i ystyried sut y gallwn leihau lefelau'r allyriadau, ond gall Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd ymgymryd â rhai tasgau er mwyn sicrhau eu bod felly yn cyflawni eu rhwymedigaethau. Sut y byddwch yn sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud eu gwaith yn iawn, er mwyn sicrhau eu bod yn mesur y lefelau ac yn rhoi camau ar waith yn erbyn unrhyw un sy'n torri'r lefelau hynny?