Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 9 Mai 2018.
Pan wnaethoch y cyhoeddiad hwnnw am y tro cyntaf ym mis Hydref, un o nodau Llywodraeth Cymru ar gyfer y tymor hwy, yn ôl cynllun cyflawni rhaglen dileu TB Cymru oedd datblygu cynllun prynu gwybodus. Ar y pryd, fe ddywedoch chi'n hollol glir fod hyn yn rhywbeth roedd Llywodraeth Cymru yn awyddus iawn i fwrw ymlaen ag ef. Felly, a allwch gadarnhau a yw hyn yn dal i fod ar agenda Llywodraeth Cymru? Os felly, a allech ddweud wrthym pa waith yn union y mae eich swyddogion wedi'i wneud ar ddatblygu cynllun gorfodol a pha bryd y mae'r cynllun hwnnw'n debygol o gael ei roi ar waith?