Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 9 Mai 2018.
Rwy'n falch eich bod wedi gorffen dadlau gyda'r cyn-Weinidog ac wedi troi eich cwestiwn ataf fi yn awr. Ni fydd yn syndod ichi fy nghlywed yn dweud fy mod yn anghytuno'n llwyr â'r haeriadau a wnaed gennych yn awr. Fodd bynnag, mae gennym gyfarfod pedairochrog ddydd Llun y bydd Ysgrifennydd y Cabinet a minnau yn ei fynychu, ac mae hyn yn rhywbeth a fydd yn uchel ar yr agenda yn y cyfarfod hwnnw.