Datblygiadau Tai

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 9 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:34, 9 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Bydd yr Aelod yn ymwybodol fy mod yn ymgynghori ar 'Polisi Cynllunio Cymru' ar hyn o bryd. Fe ddaw i ben wythnos i ddydd Gwener, ar y 18fed. Ar wahân i hynny, rwyf wedi dweud y byddaf yn edrych ar TAN 1, ac rwy'n disgwyl y byddaf yn gwneud cyhoeddiad yn y dyfodol agos. Rwy'n clywed eich beirniadaeth, ac rwyf wedi clywed cryn dipyn o feirniadaeth o'r fethodoleg a ddefnyddiwn mewn perthynas â TAN 1, ond rwy'n dal i fod yn argyhoeddedig fod y problemau ynghylch diffyg cyflawni yn ymwneud â'r broses gynllunio. Felly, nid wyf am ddweud unrhyw beth heddiw, ond rwy'n disgwyl cyngor gan fy swyddogion, yn sicr y mis hwn, a byddaf yn gwneud cyhoeddiad.