Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 9 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:52, 9 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Yn sicr, gallaf roi'r sicrwydd hwnnw. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi gwneud cynnydd gwirioneddol tuag at ddileu TB yng Nghymru. Gwyddoch fod nifer yr achosion newydd wedi gostwng dros 40 y cant ers ei anterth yn ôl yn 2009, a bellach mae 95 y cant o'n buchesi yng Nghymru heb TB. Felly, nid wyf am i bobl feddwl bod hyn yn rhywbeth sydd wedi gwaethygu; nid yw hynny'n wir. Rydym wedi gwneud cynnydd aruthrol mewn perthynas â dileu TB.