Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 9 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:44, 9 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Credaf fod labelu bwyd yn dod yn fwyfwy pwysig gan y credaf fod gan bobl lawer mwy o ddiddordeb yn y pynciau y cyfeirioch chi atynt, ac unwaith eto, mae'n sgwrs ac yn drafodaeth a gawn nid yn unig ar lefel swyddogol, ond hefyd ar lefel weinidogol yn ein cyfarfodydd pedairochrog, ac unwaith eto, ceir cyfle arall gyda Brexit i sicrhau ein bod yn gwneud pethau'n iawn. Rwy'n awyddus iawn i weld y ddraig goch a brand Cymru ar unrhyw fwyd sy'n tarddu o Gymru, felly, unwaith eto, rwy'n credu bod llawer mwy y gallwn ei wneud. Credaf fod y cyhoedd yn dod yn fwy ymwybodol, ac yn sicr pan fyddwch yn mynychu'r sioeau amaethyddol, neu unrhyw ddigwyddiadau a ffeiriau bwyd, mae pobl yn sicr yn awyddus i fod yn ymwybodol o'r hyn y maent yn ei brynu.