Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 9 Mai 2018.
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Byddai'n amhriodol imi wneud sylwadau ar yr arolwg staff; mater i Cyfoeth Naturiol Cymru yw hwnnw. Rydym wedi cael prif weithredwr newydd yn ddiweddar, ac rwyf wedi cael cyfarfodydd rheolaidd gyda Cyfoeth Naturiol Cymru. O ran gweithio gyda'r gymuned leol a rhanddeiliaid, rwyf eisoes wedi cael cyfarfodydd gyda Cyfoeth Naturiol Cymru lle rydym wedi trafod cyfathrebu a'r angen i ymgysylltu a gweithio'n agos o fewn y cymunedau a chyfathrebu, yn enwedig mewn perthynas â materion perygl llifogydd, gan y gall hynny fod braidd yn gymhleth, er mwyn cyfleu'r neges honno, ac o ran sut y cesglir tystiolaeth a sut y caiff ei dadansoddi. Felly, rwy'n annog Cyfoeth Naturiol Cymru i barhau i ymgysylltu'n barhaus ac yn effeithiol gyda'r gymuned leol, ac mae'n rhywbeth sy'n parhau i fod ar yr agenda o ran fy nghyfarfodydd rheolaidd gyda'r prif weithredwr a chadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru.