1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 9 Mai 2018.
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fuddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn amddiffynfeydd arfordirol a chynlluniau lliniaru llifogydd ym Mro Morgannwg? OAQ52132
Yn ystod oes y Llywodraeth hon, rydym wedi buddsoddi dros £5.7 miliwn mewn gwaith llifogydd ac arfordirol ym Mro Morgannwg. Yn ychwanegol, mae dros £4.5 miliwn wedi'i ddyrannu yn rhaglen eleni i gwblhau gwaith yn Nhrebefered a Coldbrook ac i fwrw ymlaen â chynlluniau Llanfaes, Tregatwg a Chorntwn.
Diolch, Weinidog. Mae'n bwysig cydnabod cyllid Llywodraeth Cymru—y cyllid sylweddol gan Lywodraeth Cymru—ar gyfer amddiffynfeydd hanfodol rhag llifogydd yn Nhrebefered a Llanilltud Fawr. Yn dilyn llifogydd yn y gymuned hon mor ddiweddar â 2016, gan effeithio ar gartrefi a busnesau, a allwch gadarnhau'r amserlenni ar gyfer cwblhau gwaith brys ym mhentref Llanfaes a Thregatwg yn y Barri, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a reolir gan Gyngor Bro Morgannwg?
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn atodol. O ran cynllun lliniaru llifogydd Llanfaes, mae'r gwaith cynllunio yn mynd rhagddo a disgwylir iddo gael ei gwblhau yn ddiweddarach eleni, gyda'r gwaith adeiladu i gychwyn yn fuan wedi hynny. Mae gwelliannau i'r systemau draenio yn y pentref i gynyddu capasiti a chyfres o fannau cronni llifogydd bach uwchlaw'r pentref—. Cynigir amddiffynfeydd ar lefel eiddo i eiddo sydd mewn perygl, ac mae naw ohonynt wedi derbyn y cynnig hwn, a byddant yn cael eu gosod cyn bo hir. Bydd man cronni llifogydd mawr yn cael ei adeiladu i lawr yr afon o bentref Tregatwg. Felly, mae dau gynllun yn Nhregatwg: y cynllun gwaith llanw a'r cynllun lliniaru llifogydd. Disgwylir i'r cynllun gwaith llanw gael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn, ac o ran y cynllun lliniaru llifogydd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wrthi'n ystyried nifer o opsiynau yr aseswyd eu bod yn lleihau perygl llifogydd i eiddo ym mhentref Dinas Powys ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Gallai hyn gynnwys cronni i fyny'r afon, rheoli llifogydd yn naturiol a gosod muriau llifogydd a chwlfertau gollwng yn y dref. Ond rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelod gyda rhagor o fanylion os yw'n dymuno.FootnoteLink
Weinidog, yn amlwg, mae dod â chynlluniau lliniaru llifogydd ynghyd yn dibynnu ar gydweithio agos iawn rhwng asiantaethau—awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru, yn arbennig, sydd, yn amlwg, yn cynghori ar nifer o'r prosiectau hyn. Fe fyddwch yn gwybod bod arolygon staff wedi nodi rhywfaint o aflonyddwch yn Cyfoeth Naturiol Cymru. Ers i chi ddod yn Weinidog, beth yw eich asesiad o allu Cyfoeth Naturiol Cymru i weithio gyda phartneriaid ym Mro Morgannwg ar ddatblygu cynlluniau lliniaru llifogydd i leddfu pryderon sydd wedi bod gan y gymuned ers amser hir?
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Byddai'n amhriodol imi wneud sylwadau ar yr arolwg staff; mater i Cyfoeth Naturiol Cymru yw hwnnw. Rydym wedi cael prif weithredwr newydd yn ddiweddar, ac rwyf wedi cael cyfarfodydd rheolaidd gyda Cyfoeth Naturiol Cymru. O ran gweithio gyda'r gymuned leol a rhanddeiliaid, rwyf eisoes wedi cael cyfarfodydd gyda Cyfoeth Naturiol Cymru lle rydym wedi trafod cyfathrebu a'r angen i ymgysylltu a gweithio'n agos o fewn y cymunedau a chyfathrebu, yn enwedig mewn perthynas â materion perygl llifogydd, gan y gall hynny fod braidd yn gymhleth, er mwyn cyfleu'r neges honno, ac o ran sut y cesglir tystiolaeth a sut y caiff ei dadansoddi. Felly, rwy'n annog Cyfoeth Naturiol Cymru i barhau i ymgysylltu'n barhaus ac yn effeithiol gyda'r gymuned leol, ac mae'n rhywbeth sy'n parhau i fod ar yr agenda o ran fy nghyfarfodydd rheolaidd gyda'r prif weithredwr a chadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru.