Ansawdd Aer yng Ngorllewin De Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 9 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 1:38, 9 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, rydych wedi achub y blaen ar fy nghwestiwn i raddau, Ysgrifennydd y Cabinet, gan mai un o brosiectau allweddol bargen ddinesig bae Abertawe, wrth gwrs, yw'r ganolfan arloesi newydd ar gyfer gwyddoniaeth dur, sy'n gysylltiedig â Phort Talbot a Tata. Nid oes angen i mi ailadrodd pa mor bwysig yw dur, yn sicr yn ein heconomi leol, ond fel y dywedwch, mae'r broses o'i gynhyrchu yn parhau i fod yn gysylltiedig, os mynnwch, ag ansawdd aer gwael ym meddyliau pobl. Felly, a ydych wedi cael unrhyw sgyrsiau cynnar gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, neu hyd yn oed gyda phobl ar fwrdd y fargen ddinesig, ynglŷn â pha ran y gallent ei chwarae yn cynorthwyo i wella ansawdd aer, gan gynnal a chynyddu, gobeithio, y miloedd o swyddi hynny wrth inni deithio tua'r genhedlaeth nesaf o gynhyrchiant dur?