Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 9 Mai 2018.
Diolch yn fawr iawn. Mae hwnnw'n ateb diddorol. Fe ddywedoch yn eich datganiad ddoe eich bod yn awyddus i weld rheolwyr tir yn cael eu cadw ar y tir a bod cynhyrchu bwyd yn parhau i fod yn hanfodol i economi Cymru, ond pan ysgrifennais atoch yn gofyn i chi ddiystyru mabwysiadu fersiwn Gymreig o ymddiriedolaeth tir sofran arfaethedig y blaid Lafur yn Lloegr, a oedd yn cynnig rhoi pwerau i'r Llywodraeth allu prynu tir amaethyddol ar gyfer tai drwy orfodaeth am brisiau gostyngol o bosibl, fe wrthodoch chi ddiystyru hynny. Felly, a ydych yn glynu wrth eich datganiad yn yr ymateb hwnnw fod yr argymhelliad hwn i gipio tir yn arf ar gyfer ailddosbarthu gwerth tir, fel yr ysgrifenasoch ym mis Mawrth, neu a fyddwch bellach yn diystyru'r cynlluniau hynny, gan gofio'r uchelgeisiau a fynegwyd gennych yn y datganiad ddoe?