Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 9 Mai 2018.
Wel, gwn fy mod wedi anfon ymateb manwl at yr Aelod ar y mater hwn, ac nid oes gennyf unrhyw beth arall i'w ychwanegu at hynny. Un o'r pethau rwyf wedi eu gwneud—fe'i lansiwyd gennyf yn y ffair aeaf yn ôl ym mis Tachwedd—yw ein mapiau amaethyddol newydd, gan y credaf ei bod yn bwysig iawn, pan gaiff cynlluniau eu cyflwyno gerbron awdurdodau lleol, eu bod yn gwybod ble mae'r tir amaethyddol gorau. Felly rwy'n falch iawn fod y mapiau hynny ar gael bellach—ni yw'r unig wlad yn y DU sydd â'r mapiau hynny—i gynorthwyo awdurdodau lleol yn y ffordd honno.