Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 9 Mai 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, mewn ymateb i ddadl gan Aelodau unigol ar y mater hwn ym mis Tachwedd 2016, fe ddywedoch chi, a dyfynnaf:
'Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'n rhanddeiliaid a chyrff cyflenwi i ddenu cymaint ag y bo modd o incwm ymchwil amaeth-dechnoleg i Gymru.'
Yng ngoleuni'r sylwadau hyn, a allwch ddweud wrthym pa mor llwyddiannus y mae Llywodraeth Cymru wedi bod hyd yn hyn, ac a allwch roi syniad inni hefyd o faint o incwm ymchwil amaeth-dechnoleg y mae Cymru wedi'i gael hyd yn hyn?