1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 9 Mai 2018.
7. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o sut y gall datblygiadau mewn deallusrwydd artiffisial helpu Cymru wledig? OAQ52114
Diolch. Gall newid technolegol, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial, alluogi i ffyniant gael ei rannu ledled Cymru, gan adeiladu cymunedau cynhwysol, a chefnogi ein cynlluniau ar gyfer datblygu economaidd rhanbarthol. Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio adolygiad o arloesi digidol, a fydd yn cynnwys asesiad bras o ddatblygiadau mewn awtomatiaeth, roboteg, deallusrwydd artiffisial, y rhyngrwyd a data mawr.
Diolch yn fawr iawn. Buaswn yn ddiolchgar pe gallech gadarnhau a fyddai amaethyddiaeth fanwl wedi'i chynnwys yn benodol yng nghylch gorchwyl yr adolygiad hwnnw. Y bore yma, bu pwyllgor economi'r Cynulliad yn cynnal gwrandawiadau ar y pwnc, a chlywsant sut y mae amaethyddiaeth fanwl eisoes yn helpu i wella cynhyrchiant ar ffermydd, yn ogystal â lleihau effeithiau amgylcheddol. Dywedwyd wrthym yn glir fod data yn cael ei ystyried yn gynnyrch amaethyddol erbyn hyn. Ond mae'r cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru yn dameidiog ac yn anhyblyg. Ni ellir ond defnyddio Cyswllt Ffermio, er enghraifft, i ariannu 10 prawf pridd, nad yw'n ddigon, ac nid yw ond ar gael i ariannu gweithgarwch System Leoli Fyd-eang sylfaenol. Mae peth amser bellach ers i'r Cynulliad Cenedlaethol bleidleisio i ofyn i Lywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth ar gyfer amaethyddiaeth fanwl, fel y gallwn ystyried hyn nid yn unig fel mater ffermio, ond fel mater sy'n ymwneud â chydnerthedd Cymru, i greu diwydiant—felly, yn hytrach na mewnforio'r robotiaid o Tsieina a'r feddalwedd o America ac allforio ein data, gweld sut y gallwn harneisio hyn er lles Cymru. Buaswn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet nodi amserlen o ran pryd y gallwn ddisgwyl i'r strategaeth honno gael ei datblygu.
Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig nad yw ffermio manwl yn cael ei ystyried ar ei ben ei hun. Mae angen iddo fod yn rhan o strategaeth amaethyddiaeth a defnydd tir ehangach ar ôl Brexit, ac mae'n sicr yn rhywbeth yr hoffwn ei weld pan fyddaf yn ymgynghori ar ddyfodol rheoli tir, yn dilyn fy natganiad ddoe. Credaf fod angen i amaethyddiaeth fanwl fod yn rhan annatod o bob agwedd ar ffermio, drwy ddefnyddio gwell geneteg, targedu'r defnydd o fewnbynnau, a chasglu a defnyddio data.
Ar draws y Llywodraeth, yn enwedig o ran arwain ar arloesi a thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu, fe fyddwch yn gwybod ein bod yn gweithio gyda sefydliadau academaidd—ac mae fy nghyd-Aelod Julie James yn arwain ar y gwaith hwnnw—gan ein bod yn edrych ar waith pellach a fydd yn berthnasol i amaethyddiaeth fanwl. Rydym hefyd yn ei hyrwyddo, fel y dywedwch, drwy fentrau Cyswllt Ffermio, ac mae hwnnw'n faes arall y gallwn edrych arno er mwyn ehangu'r cynlluniau sydd gennym ar waith yn rhan ohono. Rwyf hefyd yn ystyried ariannu technoleg yn rhannol drwy'r grant busnes i ffermydd. Ond unwaith eto, wrth inni edrych ar y cyllid a fydd gennym ar ôl Brexit, gallwn weld a oes cynlluniau eraill y gallwn eu rhoi ar waith hefyd.
Ysgrifennydd y Cabinet, mewn ymateb i ddadl gan Aelodau unigol ar y mater hwn ym mis Tachwedd 2016, fe ddywedoch chi, a dyfynnaf:
'Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'n rhanddeiliaid a chyrff cyflenwi i ddenu cymaint ag y bo modd o incwm ymchwil amaeth-dechnoleg i Gymru.'
Yng ngoleuni'r sylwadau hyn, a allwch ddweud wrthym pa mor llwyddiannus y mae Llywodraeth Cymru wedi bod hyd yn hyn, ac a allwch roi syniad inni hefyd o faint o incwm ymchwil amaeth-dechnoleg y mae Cymru wedi'i gael hyd yn hyn?
Ni allaf roi'r ffigur hwnnw i'r Aelod ar hyn o bryd, ond unwaith eto, buaswn yn fwy na pharod i ysgrifennu atoch gyda'r ffigur hwnnw.FootnoteLink