Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 9 Mai 2018.
Weinidog, rydych yn gwybod, mae'n debyg, fod Cyngor Bro Morgannwg yn eu cyfarfod llawn ym mis Chwefror wedi cefnogi cynnig gan y Cynghorydd Vincent Bailey i sicrhau bod asesiad o'r effaith amgylcheddol yn cael ei gynnal. Ac rwy'n datgan buddiant gan fod y cynghorydd hwnnw'n gweithio i mi—[Chwerthin.]—i mi gael cofnodi hynny. Ond mae'n ffaith bod pleidiau o bob ochr i'r siambr yng Nghyngor Bro Morgannwg wedi pleidleisio dros gymryd y camau hyn. Rydych wedi nodi mewn sesiynau holi blaenorol eich bod yn awyddus i gael asesiad o'r effaith amgylcheddol. Nododd yr Aelod etholaethol y byddai pawb sydd ynghlwm wrth y mater hwn yn gwerthfawrogi amserlen a dealltwriaeth o ran pryd y gallai'r penderfyniad hwnnw gael ei wneud. A allwch ddweud wrthym, o leiaf, beth yw'r amserlen rydych yn gweithio iddi fel Gweinidog i wneud y penderfyniad hwnnw? Rwy'n sylweddoli bod yn rhaid ichi ystyried ymgynghoriadau a safbwyntiau ystod eang o randdeiliaid yn hyn o beth, ond mae'n rhaid bod syniad gennych bellach, ar y cam hwn yn y broses, pa bryd y byddwch mewn sefyllfa i wneud y penderfyniad.