1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 9 Mai 2018.
9. Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i rhoi i'r galw am asesiad o effaith amgylcheddol llosgydd biomas y Barri? OAQ52131
Rwy'n awyddus i sicrhau bod ein gweithredoedd fel Llywodraeth yn cynnal ein rhwymedigaethau rhyngwladol mewn perthynas ag asesiadau effaith amgylcheddol. Mae swyddogion yn ystyried cydymffurfiaeth â chyfarwyddeb yr asesiadau effaith amgylcheddol yn ofalus, gan roi ystyriaeth i sylwadau'r datblygwr, Grŵp Gweithredu Llosgydd y Dociau ac eraill.
Diolch, Weinidog. Fe fyddwch yn gwybod, wrth gwrs, am y pryderon cyhoeddus a gwleidyddol cyffredinol ynglŷn ag agor llosgydd y Barri, sydd wedi cael effeithiau andwyol ar y boblogaeth leol yn ystod y cyfnod cyn ei gomisiynu. Rydym hefyd yn aros am yr adolygiad o'r broses drwyddedu gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol. Mae'n bwysig fod gennym amserlen ar gyfer eich penderfyniad, ac a fyddech yn cytuno â mi ei bod yn amhriodol i'r cwmni honni y bydd y llosgydd biomas yn agor erbyn diwedd y flwyddyn pan nad ydym wedi cael penderfyniad gennych eto ynglŷn â'r asesiad o'r effaith amgylcheddol?
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Gwn fod hyn yn rhywbeth y mae wedi'i godi dros nifer o flynyddoedd, ac yn rheolaidd gyda mi ers imi ddechrau yn y swydd. Rwy'n deall rhwystredigaeth yr Aelod a thrigolion Barri'n llawn ynghylch yr amser a gymerwyd i ddod i benderfyniad terfynol ynglŷn ag a oes angen asesiad o'r effaith amgylcheddol ar brosiect Biomass UK No. 2. Yn anffodus, mae'r amser hwnnw'n angenrheidiol gan fod y materion a godwyd gan bartïon â buddiant yn rhai cymhleth, ac mae angen inni fod yn sicr fod y penderfyniad terfynol yn cydymffurfio â'r gyfraith ac yn sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei ddiogelu'n briodol.
Yn ychwanegol o ran—. Er y gallaf roi sylwadau ar fwriad y datblygwr i ddechrau gweithredu erbyn diwedd y flwyddyn, mater i'r awdurdod cynllunio lleol yw gorfodi. Ond gallai materion o'r fath ddod gerbron Gweinidogion Cymru ar apêl. Yn amlwg, mae adran gynllunio Bro Morgannwg yn ymwybodol fod Gweinidogion Cymru yn ystyried yr angen posibl am asesiad o'r effaith amgylcheddol mewn perthynas â'r cais cynllunio diweddaraf, ac wedi dweud wrth swyddogion na fyddant yn ystyried y cais hyd nes y gwneir penderfyniad terfynol.
Yn fyr, fe sonioch fod comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn edrych ar yr adolygiad o drwyddedu, a gallaf ddweud bod y prosiect yn mynd rhagddo'n dda. Cafwyd nifer o gyfarfodydd, gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a swyddogion Llywodraeth Cymru, ac edrychaf ymlaen at unrhyw argymhellion ynglŷn â sut y dylem ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i ddatblygu meysydd polisi cymhleth a thechnegol megis trwyddedu amgylcheddol.
Weinidog, rydych yn gwybod, mae'n debyg, fod Cyngor Bro Morgannwg yn eu cyfarfod llawn ym mis Chwefror wedi cefnogi cynnig gan y Cynghorydd Vincent Bailey i sicrhau bod asesiad o'r effaith amgylcheddol yn cael ei gynnal. Ac rwy'n datgan buddiant gan fod y cynghorydd hwnnw'n gweithio i mi—[Chwerthin.]—i mi gael cofnodi hynny. Ond mae'n ffaith bod pleidiau o bob ochr i'r siambr yng Nghyngor Bro Morgannwg wedi pleidleisio dros gymryd y camau hyn. Rydych wedi nodi mewn sesiynau holi blaenorol eich bod yn awyddus i gael asesiad o'r effaith amgylcheddol. Nododd yr Aelod etholaethol y byddai pawb sydd ynghlwm wrth y mater hwn yn gwerthfawrogi amserlen a dealltwriaeth o ran pryd y gallai'r penderfyniad hwnnw gael ei wneud. A allwch ddweud wrthym, o leiaf, beth yw'r amserlen rydych yn gweithio iddi fel Gweinidog i wneud y penderfyniad hwnnw? Rwy'n sylweddoli bod yn rhaid ichi ystyried ymgynghoriadau a safbwyntiau ystod eang o randdeiliaid yn hyn o beth, ond mae'n rhaid bod syniad gennych bellach, ar y cam hwn yn y broses, pa bryd y byddwch mewn sefyllfa i wneud y penderfyniad.
Diolch i'r Aelod am ei gyfraniad. Hoffwn gyfeirio'n ôl at yr hyn a ddywedais wrth yr Aelod etholaethol o ran yr amserlen. Rwy'n deall pam fod hyn yn peri cymaint o bryder a rhwystredigaeth, i gynrychiolwyr ac i bobl yn y gymuned leol. Ond ar hyn o bryd, rydym wrthi'n ystyried y sylwadau a wnaed, ac nid ydym yn bwriadu pennu terfyn amser ar gyfer gwneud penderfyniad terfynol ar asesiad o'r effaith amgylcheddol, gan fod angen ystyriaeth lawn a gofalus o'r holl faterion sy'n ymwneud â'r penderfyniad er mwyn gwrthsefyll heriau cyfreithiol. Mae'r achos yn codi materion cymhleth ynglŷn â'r modd y mae angen i'r asesiad o'r effaith amgylcheddol gyd-fynd â cheisiadau i ddiwygio amodau, ac mae'n cymryd peth amser i weithio drwyddynt. Drwy gymryd yr amser hwn i weithio drwy'r materion hyn, credaf y byddwn yn darparu canllawiau cliriach ar weithdrefnau asesiadau effaith amgylcheddol a fydd o fudd i bawb sy'n gweithio gyda'r system gynllunio. Felly, mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y penderfyniad yn cydymffurfio â'r gyfraith, fel ei fod yn deg â'r datblygwr, ond yn bwysicach, er mwyn sicrhau bod yr amgylchedd a'r gymuned leol yn cael eu diogelu'n briodol.
Mae gwersi amlwg i bob rhan o Gymru yn yr hyn sydd wedi digwydd yn y Barri. Mae'n syfrdanol, a dweud y gwir, fod prosiect mor fawr mewn ardal mor adeiledig gyda'r fath effeithiau posibl ar iechyd wedi cael sêl bendith, neu wedi cyrraedd mor bell, heb i asesiad o'r effaith amgylcheddol gael ei gynnal. Rwy'n ddiolchgar am y llythyr a gefais gennych y bore yma ynglŷn â hyn, sydd fwy neu lai yn ailadrodd yr hyn rydych newydd ei ddweud wrth y Siambr. Wel, mae hynny'n iawn, ond yr hyn rwyf am ei ddeall, gan fod llawer o bryderon mewn sawl man arall yng Nghymru sy'n wynebu ceisiadau am weithfeydd biomas tebyg ar hyn o bryd, yw hyn: os daw'n amlwg y dylai'r broses hon fod wedi cael asesiad o'r effaith amgylcheddol yn llawer cynt, a wnewch chi sicrhau y gwneir hynny, er bod y broses wedi teithio cryn bellter? Ac o gofio beth sy'n digwydd weithiau o ran cynllunio, a bod pobl yn gallu cyflwyno ceisiadau cynllunio ôl-weithredol neu'n gallu gwrthod yr hyn a ddylai fod wedi digwydd gan eu bod yn dweud bod pethau wedi mynd yn rhy bell, os daw'n amlwg o dan gyfarwyddeb yr UE—sy'n dal i fod gennym, wrth gwrs—y dylai'r prosiect hwn, gyda'r holl ychwanegiadau a'r newidiadau a wnaed iddo, fod wedi cael ei wneud o dan y gyfarwyddeb sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i gynnal asesiadau effaith amgylcheddol, a fydd hynny'n digwydd er gwaethaf y ffaith bod y prosiect wedi cyrraedd cam lle mae'r datblygwr eisoes, fel y dywedodd Jane Hutt, yn nodi dyddiadau iddo gychwyn?
Diolch i'r Aelod ac rwy'n falch eich bod wedi derbyn y llythyr yn dilyn eich cwestiwn yn ystod y cwestiynau busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos diwethaf a gobeithio bod hwnnw wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi o ran ein sefyllfa ar hyn o bryd.
Fel y dywedais wrth yr Aelod yn gynt, ni allaf wneud sylwadau ar fwriad y datblygwr i ddechrau gweithredu erbyn diwedd y flwyddyn, ond mae adran gynllunio Bro Morgannwg yn ymwybodol ein bod yn ystyried yr angen am asesiad o'r effaith amgylcheddol mewn perthynas â'r cais ac rwyf wedi nodi wrth swyddogion na fyddant yn gwneud penderfyniad ar y cais hyd nes y gwneir penderfyniad terfynol. Rwy'n ymwybodol iawn fod nifer o faterion ehangach wedi cael eu codi, nid mewn perthynas â'r achos hwn yn unig, ond o ran sut rydym yn gweithredu asesiadau effaith amgylcheddol a thrwyddedu amgylcheddol. Felly, rwy'n awyddus iawn i weithio'n agos gyda swyddogion, Cyfoeth Naturiol Cymru a chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol i weld sut y gallwn gymhwyso meysydd polisi sy'n aml yn gymhleth a thechnegol wrth wneud hynny yn y dyfodol, yn arbennig yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a sicrhau eu bod yn bodloni ein hymrwymiadau amgylcheddol.
Diolch i'r Gweinidog a'r Ysgrifennydd Cabinet.