Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 9 Mai 2018.
Lywydd, roedd yr Aelod yn gwneud yn dda hyd nes y frawddeg olaf honno. Mae'n cynrychioli plaid wleidyddol, wrth gwrs, sydd fwy neu lai'n diddymu'r grant cynnal ardrethi i'r holl awdurdodau lleol yn Lloegr, ac sydd, dros y saith mlynedd diwethaf, wedi sicrhau bod grym gwario awdurdodau lleol yn Lloegr wedi gostwng 49 y cant. Felly, tybiaf ei bod ar dir peryglus tu hwnt. Fodd bynnag, gadewch inni gymryd yr hyn y mae'n ei ddweud. Mae pob un ohonom yn croesawu pechadur sy'n edifarhau. Ymunaf â hi i groesawu'r ffaith nad preifateiddio popeth yw'r ffordd orau o ddarparu gwasanaethau lleol neu gyhoeddus. Rwy'n falch ei bod wedi ymuno â ni i gefnogi hynny.
Ond gadewch imi ddweud hyn, lle y ceir problemau gyda darparu gwasanaethau, mae'n iawn i Aelodau ac eraill eu dwyn i sylw'r awdurdod lleol perthnasol. Nid yw'n iawn nac yn briodol ein bod yn ceisio cynnal a chefnogi democratiaeth leol, ac ar yr un pryd, yn ceisio dweud wrth awdurdodau lleol sut y dylent gyflawni eu dyletswyddau a sut y dylent ddarparu'r gwasanaethau hynny. Nid dyna'r ffordd i gryfhau a grymuso awdurdodau lleol. Dadleuodd y Ceidwadwyr eu hachos wrth bobl Lloegr yr wythnos diwethaf, ac yn y rhan fwyaf o achosion, rwy'n credu eu bod wedi cael eu trechu'n llwyr.