Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 9 Mai 2018.
Yn sicr. Credaf fod yr Aelod dros Ogledd Caerdydd yn llygad ei lle o ran sail ei chwestiwn a'i rhagdybiaethau. Croesawaf y gwahanol arbenigeddau y gall y sector gwirfoddol eu cynnig a'r manteision a all ddeillio o weithio mewn ffordd mor agored. Buaswn hefyd yn dweud wrthi, fel aelod o'r Blaid Gydweithredol fy hun, y buaswn yn hoff o weld atebion cydweithredol yn cael eu hadolygu a'u darparu lle bynnag y bo modd hefyd. Y mater allweddol yma yw y dylai gwasanaethau cyhoeddus barhau i gael eu darparu o fewn yr ethos cyhoeddus, gydag ethos o wasanaeth cyhoeddus o ansawdd uchel, a chydnabod a gwerthfawrogi'r gweithlu sy'n darparu'r gwasanaethau hynny. Mae'r holl faterion hynny'n hynod o bwysig i bob un ohonom, a dylai rheolaeth ddemocrataidd dros y gwasanaethau fod yn sail i'r modd y gallwn fwrw ymlaen â modelau gwahanol o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.