Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 9 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:41, 9 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'r Aelod wedi codi nifer o faterion gwahanol. Yn amlwg, mater ar gyfer fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, yw'r modd y darparir y gwasanaethau hynny, ac mae yn ei le a bydd wedi clywed y cwestiynau ac wedi nodi'r materion hynny. Rwyf am ailadrodd wrth yr Aelod, er ei fod yn codi materion difrifol iawn ac er nad wyf eisiau iddo feddwl nad ydym o ddifrif ynglŷn â'r materion hyn, mae'n briodol mai'r elusen ei hun, yn y lle cyntaf, ac yna rheoleiddiwr yr elusen, y Comisiwn Elusennau, sy'n gyfrifol am y materion hyn. Os oes ganddo bryderon ynglŷn â materion penodol lle mae arian cyhoeddus yng Nghymru yn cael ei gamwario neu ei ddyrannu'n anghywir mewn unrhyw ffordd, yna yn amlwg dylai godi'r materion hynny gyda Llywodraeth Cymru a darparu'r dystiolaeth ategol i gefnogi hynny. Rwy'n siŵr, pe bai'n gwneud hynny, y byddai gan y Gweinidog perthnasol ddiddordeb mawr mewn gweld yr wybodaeth honno.