2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 9 Mai 2018.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Bethan Sayed.
Rwy'n cael fy nhemtio i fynd ar drywydd hyn eto, ond, na, ni wnaf hynny; ni fyddaf ond yn cythruddo pobl yma. [Chwerthin.] Mae dwy flynedd wedi bod bellach ers sefydlu tasglu'r Cymoedd i fynd i'r afael â thlodi yn y Cymoedd. A allwch roi enghraifft i ni, enghraifft glir, o ran pa un peth, yn rhan o'r trafodaethau hyn, sydd wedi newid polisi'r Llywodraeth ers sefydlu tasglu'r Cymoedd?
Rwyf wedi gwneud cyfres o gyhoeddiadau dros y flwyddyn ddiwethaf. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad arall cyn toriad yr haf ar y gwaith sydd wedi'i gwblhau yn rhan o'r cynllun cyflawni a gyhoeddwyd gennym ym mis Tachwedd y llynedd. Mae'r Aelod yn gofyn am un enghraifft. Hoffwn dynnu sylw at ddatblygiad y saith hyb strategol rydym wedi'u cyhoeddi ledled rhanbarth y Cymoedd.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, ond onid realiti'r sefyllfa yw bod hwn yn gynllun arall gan Lywodraeth Cymru i gicio'r can i lawr y ffordd fel nad oes rhaid i chi ymdrin â chanlyniadau eich diffyg gweithredu ar dlodi ac anghydraddoldeb? Mae gennych gyllideb lai ac nid oes gennych unrhyw reolaeth dros les, ac ymddengys nad oes gan y Llywodraeth hon unrhyw ewyllys o gwbl i hyd yn oed geisio cael elfennau amrywiol o les wedi'u datganoli, er bod Cadeirydd Llafur y pwyllgor cydraddoldeb yn dweud y dylai fod gennym rai pwerau dros weinyddu lles. Byddai Llywodraeth ddifrifol, gydag awydd go iawn i ddatrys problemau anghydraddoldeb a thlodi, yn llamu at y cyfle i gael rhywfaint o ddylanwad dros les, ond nid y Llywodraeth hon mae'n debyg. Onid yw'n wir fod tasglu'r Cymoedd wedi datblygu i fod yn ffordd arall i chi edrych ar y materion a siarad am y materion yn hytrach na chyflawni ar y materion penodol hyn?
Credaf y byddai llawer ohonom sy'n cynrychioli seddi yn y Cymoedd yn gobeithio y byddai Plaid Cymru yn cymryd rhan yn y broses hon yn hytrach na chwilio am ddatganiadau bachog a datganiadau i'r wasg yn unig. Gadewch i mi ddweud hyn: o ran y buddsoddiad—[Torri ar draws.] O ran y buddsoddiad—[Torri ar draws.] O ran y buddsoddiad rydym yn ei wneud drwy holl gymunedau Cymoedd de Cymru, rydym wedi llunio—. Rydym wedi llunio rhaglen uchelgeisiol ar gyfer buddsoddi ym mhobl ac yng nghymunedau Cymoedd de Cymru. Rydym wedi cyhoeddi cynllun cyflawni, sy'n cynnwys targedau ac amcanion clir ynghyd ag amserlenni. Byddwn yn cael ein dwyn i gyfrif gan y bobl mewn perthynas â chyflawni'r uchelgeisiau hynny. Ac yn olaf, gadewch i mi ddweud hyn wrth yr Aelod dros Orllewin De Cymru: nid oedd y cynllun a gyhoeddwyd gennym ym mis Tachwedd yn gynllun a ysgrifennwyd ym Mae Caerdydd neu ym Mharc Cathays. Ni chafodd ei ysgrifennu gan weision sifil na chan Weinidogion hyd yn oed. Cafodd ei ysgrifennu gan bobl y Cymoedd, mewn cymunedau y buom yn cyfarfod, yn trafod ac yn dadlau â hwy, wythnos ar ôl wythnos, fis ar ôl mis, drwy gydol yr amser y buom yn cyflawni yn y modd hwn. A'r hyn rydym wedi'i wneud yw cyflwyno cynllun, nad yw ar gyfer y Cymoedd, ond sydd o'r Cymoedd.
Diolch i chi am yr ateb, ond gadewch i ni edrych ar y dystiolaeth am ychydig funudau, gawn ni? Cymunedau yn Gyntaf—wedi'i ddiddymu, heb unrhyw gynllun newydd yn ei le, fel y gall y gyllideb gael ei harllwys i byllau diwaelod yn y grant cynnal refeniw neu i feysydd eraill sy'n cael trafferth dod o hyd i gyllid ar hyn o bryd, fel y byrddau iechyd. Y strategaeth tlodi plant—wedi'i diddymu, fel y gallwch osgoi gorfod ysgwyddo unrhyw gyfrifoldeb am fethu â chyrraedd y nodau. Rydym hyd yn oed wedi gweld grantiau ar gyfer gwisg ysgol yn cael eu diddymu a'u symud, rhywbeth a allai danseilio'r grant Cefnogi Pobl yn ddifrifol. Dywedodd The Independent, ym mis Mawrth, fod Cymru yn dioddef yn sgil tlodi, gyda 700,000 o bobl mewn tlodi cymharol. Mae'n sgandal. Cafodd y Llywodraeth hon ei beirniadu y llynedd, unwaith eto, gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, am wrthod targedau tlodi, gan eich bod wedi dweud bod tlodi'n fater i bob adran. Eto i gyd, nid yw'n ymddangos bod llawer o weithredu'n digwydd mewn adrannau unigol ar y mater hwn. Os yw tlodi'n fater sy'n berthnasol i bob adran, mae angen strategaeth fanwl wedi'i thargedu i gysylltu'r holl bethau hyn. Y gwir amdani yw bod trechu tlodi wedi disgyn oddi ar agenda'r Llywodraeth hon—nid oes unrhyw awydd i fynd i'r afael â'r rhwystrau strwythurol cynhenid sydd wedi gwneud tlodi'n rhan annatod o fywyd mewn llawer o leoedd, ac yn hytrach rydych yn gobeithio bod tasgluoedd a mentrau trydydd sector heb eu hariannu'n ddigonol yn ddigon i wneud iddi ymddangos fel pe bai rhywbeth yn cael ei wneud. Nid rhywbeth i'w gynnwys mewn datganiad i'r wasg yw hwn, ond rhywbeth i fod o ddifrif yn ei gylch. O ystyried diffygion sylfaenol Cymunedau yn Gyntaf, buaswn wedi gobeithio y byddech wedi dysgu o hynny.
Buaswn yn awgrymu'n dyner iawn fod yr Aelod, yn hytrach na darllen cwestiynau a baratowyd ymlaen llaw, yn gwrando ar fy atebion, ac yn ymgysylltu ar y sail honno. Fy awgrym i—[Torri ar draws.] Fy awgrym i'r Aelod dros Orllewin De Cymru fyddai iddi ddarllen y cynllun cyflawni, darllen yr ymrwymiadau rydym wedi'u gwneud, darllen yr uchelgeisiau rydym wedi'u disgrifio, darllen yr amcanion rydym wedi'u gosod i'n hunain, ac yna gofyn i ni a ydym yn cyflawni'r uchelgeisiau hynny ai peidio. Fe ofynnoch chi am strategaeth—cyhoeddwyd un gennym fis Tachwedd diwethaf; fy awgrym i'r Aelod yw y dylai ei darllen.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. Wel, mae'n hanfodol y dylai Llywodraeth Cymru gefnogi darparwyr y sector gwirfoddol sy'n darparu gwasanaethau ymyrraeth ac atal cynnar rheng flaen allweddol, ac rwy'n gwybod eich bod yn cytuno eu bod yn cynnal miloedd o fywydau ac yn arbed miliynau i'r gwasanaethau statudol. Ond yn yr un modd, pan fydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ariannol, mae'n hanfodol fod diwydrwydd dyladwy ar waith mewn perthynas â rheolaethau ariannol ac adnoddau dynol. O ystyried eich cyfrifoldeb dros y sector gwirfoddol yng Nghymru, a'r ffaith bod Mind Cymru wedi derbyn bron i £1.6 miliwn o arian Llywodraeth Cymru dros y tair blynedd diwethaf, pa gamau rydych wedi'u cymryd ers i BBC Wales gyhoeddi honiadau fis diwethaf gan gyn-weithwyr Mind Cymru o fwlio, bwlio systemig, a oedd yn aml yn cynnwys staff yn cael eu hynysu a'u tanseilio—roedd cylch dieflig o golli hyder wedi cael effeithiau niweidiol ar berfformiad, gan arwain at feirniadaeth bellach; bwlio cyfrwys—roedd yn teimlo fel pe bai cyflogwr yn chwarae gemau meddyliol; cael eu gwneud i deimlo'n ynysig ac yn ddiwerth ar ôl adrodd wrth gyflogwr eu bod yn teimlo dan straen; ac mae llawer mwy o bobl o swyddfeydd Mind lleol wedi cysylltu â BBC Wales ers hynny, i adrodd ac adleisio pryderon am y diwylliant y maent yn honni ei fod yn niweidiol ac yn anghefnogol?
Gwelais yr adroddiadau hynny, ac fel yr Aelod dros Ogledd Cymru, roedd yr hyn a ddarllenais ac a welais yn peri pryder mawr i mi. Wrth gwrs, materion i Mind Cymru eu datrys ydynt, yn hytrach na'r Llywodraeth hon. Ac os nad ydynt yn gallu datrys y materion hynny, yna yn amlwg byddai'n ddyletswydd ar y Comisiwn Elusennau i fynd i'r afael â'r materion hynny. Nid yw Llywodraeth Cymru yn rheoleiddio elusennau yng Nghymru.
Wel, rwy'n deall hynny'n iawn, ond fe fyddwch yr un mor ymwybodol a minnau, o'ch amser yn y Cynulliad hwn, o'r nifer o achlysuron y mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cefnogaeth ariannol i gyrff trydydd sector sydd wedi dioddef honiadau tebyg, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei dwyn i gyfrif yn y pen draw am ei methiant i ymyrryd. O ystyried yr ymrwymiad ariannol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, gobeithio y gallwch gadarnhau y dylech fod yn gwneud rhai ymholiadau o leiaf, nid yn unig mewn perthynas â'r elusen ond mewn perthynas â dioddefwyr honedig, i sefydlu beth sy'n digwydd gyda'ch arian mewn gwirionedd. Oherwydd rwyf wedi clywed mai un o'r pethau sy'n sbarduno'r bwlio honedig yw pan fo staff yn Mind Cymru neu swyddfeydd Mind lleol ar draws Cymru yn siarad yn gyhoeddus neu'n siarad gyda phobl fel ni ynglŷn â lle mae'r cyllid a godwyd ar gyfer Mind Cymru yn mynd mewn gwirionedd. Rwyf wedi clywed, o'r £41.3 miliwn a aeth i gangen genedlaethol Mind—cangen y DU—ym mis Mawrth 2017, £1.2 miliwn yn unig a wariwyd yn uniongyrchol ar y rhwydwaith o 130 o'r swyddfeydd Mind lleol ledled Cymru a Lloegr sy'n cyflawni prosiectau ar lawr gwlad yn eu cymunedau, a'u bod wedyn, ar ôl cael arian gan ddarparwyr grantiau fel Llywodraeth Cymru ac eraill mewn cystadleuaeth uniongyrchol â swyddfeydd Mind lleol, yn cymryd cyfran o'r ffioedd rheoli, gan greu swyddi ar gyfer pobl mewn swyddfeydd ac yna'n cynnig gwaith i lond llaw yn unig o swyddfeydd Mind lleol, a hynny am ychydig iawn o arian, tra bo'r swyddfeydd Mind lleol sy'n darparu gwasanaethau yn cael trafferth dod o hyd i gyllid.
Fel rwy'n pwysleisio, ac maent wedi gofyn i mi—neu mae rhai pobl wedi gofyn i mi—bwysleisio, un o swyddfeydd UK Mind yw Mind Cymru, ac mae'r arian sy'n cael ei godi yng Nghymru gan sefydliadau fel Llywodraeth Cymru—bron i £1.6 miliwn dros dair blynedd—yn cael ei ddefnyddio i gystadlu â phrosiectau Mind lleol, fel y grwpiau cefnogaeth gan gymheiriaid, gan roi'r rhwydwaith cyfan mewn perygl.
Mae'r Aelod wedi codi nifer o faterion gwahanol. Yn amlwg, mater ar gyfer fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, yw'r modd y darparir y gwasanaethau hynny, ac mae yn ei le a bydd wedi clywed y cwestiynau ac wedi nodi'r materion hynny. Rwyf am ailadrodd wrth yr Aelod, er ei fod yn codi materion difrifol iawn ac er nad wyf eisiau iddo feddwl nad ydym o ddifrif ynglŷn â'r materion hyn, mae'n briodol mai'r elusen ei hun, yn y lle cyntaf, ac yna rheoleiddiwr yr elusen, y Comisiwn Elusennau, sy'n gyfrifol am y materion hyn. Os oes ganddo bryderon ynglŷn â materion penodol lle mae arian cyhoeddus yng Nghymru yn cael ei gamwario neu ei ddyrannu'n anghywir mewn unrhyw ffordd, yna yn amlwg dylai godi'r materion hynny gyda Llywodraeth Cymru a darparu'r dystiolaeth ategol i gefnogi hynny. Rwy'n siŵr, pe bai'n gwneud hynny, y byddai gan y Gweinidog perthnasol ddiddordeb mawr mewn gweld yr wybodaeth honno.
Wel, yn amlwg, rwy'n defnyddio'r cyfle hwn i godi'r materion hyn gyda Llywodraeth Cymru. Am resymau cyfrinachedd, ni allaf ddatgelu pa gamau gweithredu pellach y gellid eu cymryd na'r wybodaeth rwy'n ymwybodol ohoni a allai fod o fewn y camau gweithredu pellach hynny. Rwy'n rhannu'r wybodaeth y cefais fy awdurdodi i'w rhannu ar hyn o bryd. Unwaith eto, pa gamau, o ystyried mai chi sy'n gyfrifol am y sector gwirfoddol yng Nghymru, rydych yn eu cymryd i sicrhau bod arian a godir yng Nghymru i gefnogi elusennau lleol yn aros yng Nghymru mewn gwirionedd, ac yn cael ei wario gan yr elusennau lleol hynny? Rwyf wedi clywed nad yw pobl yn sylweddoli bod yr holl arian a godir yn lleol gan Mind Cymru yn mynd i'r corff DU i ddechrau, nid i'w swyddfeydd Mind lleol, a bod y digwyddiadau codi arian a hysbysebir fel rhai sy'n codi arian ar gyfer Mind yn cynhyrchu incwm sy'n mynd i gyd i Mind yn genedlaethol, arian anghyfyngedig y bydd Mind yn penderfynu wedyn sut i'w wario, ac maent yn dweud na allant addo budd uniongyrchol i swyddfeydd Mind lleol yng Nghymru. Yn wir, o'u cyllideb gyfan, £4.3 miliwn yn unig a wariodd Mind ar y rhwydwaith y llynedd, neu 20 y cant o'u gwariant elusennol. Ac fel y dywedais ar y dechrau, £1.2 miliwn yn unig o hwnnw a aeth yn uniongyrchol i swyddfeydd Mind lleol.
Chi yw Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am y sector gwirfoddol. Mae gennym rwydwaith gwych o 20 swyddfa Mind lleol ledled Cymru yn brwydro i oroesi oherwydd bod yr arian y mae pobl Cymru am resymau da yn ei roi i'w cefnogi yn gadael Cymru, a chyfran fechan yn unig sy'n dychwelyd i ddarparu'r gwasanaethau hynny yn lleol. Yn sicr, Ysgrifennydd y Cabinet—ac rwy'n gobeithio y byddwch yn cytuno—mae hwn yn fater o bryder i chi yn ogystal â'ch cyd-Aelodau yn y Cabinet.
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am godi'r materion hyn yn y ffordd y mae wedi'i wneud. A gaf fi ddweud hyn wrtho? Mater i Mind yw sut y mae'r sefydliad hwnnw'n trefnu ei fusnes, nid mater i'r Llywodraeth hon. Bydd gan bob ffrwd gyllido gyfres o amodau grant ynghlwm wrthi, ac nid oes gennyf unrhyw dystiolaeth wrth law sy'n profi nad yw Mind yn bodloni'r rhwymedigaethau y mae wedi ymrwymo iddynt ar ran Llywodraeth Cymru. Fe ddywedaf hyn, Lywydd, os oes gan yr Aelod unrhyw faterion sy'n peri pryder sylweddol iddo—mae'n amlwg bod ganddo—yna gallai fod yn werth iddo ysgrifennu ataf fel y gallwn ddeall beth yw'r materion hynny, ac fel y gallwn ddeall pa gamau posibl y gellid eu cymryd i fynd i'r afael â'r materion hynny.
Llefarydd UKIP, Gareth Bennett.
Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Gwnaethoch ddatganiad yr wythnos diwethaf ar dai cost isel yng Nghymru—perchentyaeth cost isel, dylwn ddweud, yn benodol—ac fe gawsom drafodaeth ddiddorol, roeddwn yn teimlo, yn dilyn hynny ac fe gafodd nifer o faterion eu codi. Un ohonynt oedd y posibilrwydd fod rhenti yn y sector tai cymdeithasol yng Nghymru, mewn rhai achosion, yn codi'n gyflymach na'r rheini yn y sector rhentu preifat. Felly, roeddwn yn meddwl tybed a ydych yn ystyried honno'n broblem arbennig ar hyn o bryd.
Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiwn hwnnw, a gallaf gadarnhau bod rhenti yn y sector tai cymdeithasol yn un o'r materion penodol rydym wedi gofyn i'r adolygiad o dai cymdeithasol edrych arnynt. O ran pennu lefelau rhent ar gyfer y flwyddyn nesaf, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Brifysgol Heriot-Watt wneud gwaith ymchwil er mwyn ein cynghori, a gofynnais yn benodol i'r brifysgol ystyried fforddiadwyedd yn rhan o'r gwaith y maent yn ei wneud yno a chynnal cyfarfodydd bwrdd crwn gyda thenantiaid yng ngogledd a de Cymru er mwyn deall pa faterion sy'n wynebu tenantiaid tai cymdeithasol mewn perthynas â fforddiadwyedd rhenti.
Diolch am yr ateb hwnnw. Credaf fod honno'n fenter dda, ac yn arbennig yr ymgynghoriad â thenantiaid, felly edrychaf ymlaen at ganlyniad hynny. Mater arall a grybwyllwyd yr wythnos diwethaf—mewn gwirionedd, fe roesoch enghraifft o arfer da a oedd yn digwydd gyda chymdeithas dai benodol, Cartrefi Melin yng Nghasnewydd, a nodwyd y defnydd o brentisiaethau gennych yn arbennig. Nawr, mae'r sector adeiladu wedi codi pryderon nad oes digon o bobl ifanc yn cael eu hyfforddi i fod yn adeiladwyr tai a bod hynny weithiau yn atal cynnydd adeiladu tai yng Nghymru, fel yn y DU yn ei chyfanrwydd. Nawr, a ydych yn gweld bod gan eich adran rôl i'w chwarae yn ailadrodd arfer da Cartrefi Melin, yn enwedig o ran eu defnydd o brentisiaethau ledled Cymru?
Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw. Rydym yn awyddus iawn i ailadrodd llwyddiant Cartrefi Melin ac i roi'r cyfle i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ymgymryd â'r math o waith y mae Cartrefi Melin wedi bod yn ei wneud. Dyma un o'r rhesymau pam roedd pasio ein Bil landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn y Cynulliad ddoe mor bwysig, oherwydd mae'n caniatáu i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig barhau â'u gwaith, sy'n ymwneud â mwy nag adeiladu cartrefi, mewn gwirionedd; mae'n ymwneud â chreu swyddi a chyfleoedd o fewn cymunedau yn ogystal. Roedd gennyf ddiddordeb yng ngwaith ymchwil diweddar y Ffederasiwn Busnesau Bach, a gafodd ei ddosbarthu i Aelodau'r Cynulliad, ac a ddangosai'r math o gyflogau y gall pobl ifanc eu hennill os ydynt yn gweithio o fewn y sector adeiladu, gan ddechrau fel prentis o bosibl, ac mewn gwirionedd, roedd cyflogau o'r fath yn ddeniadol iawn, a chredaf y byddai'n dipyn o agoriad llygad i bobl ifanc ystyried y mathau o yrfaoedd sydd i'w cael yn y diwydiant adeiladu. Rwyf hefyd yn awyddus i weld beth y gallwn ei wneud i gynorthwyo mwy o fenywod ifanc i ystyried gyrfa yn y diwydiant adeiladu, ac mae hwn yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio arno fel rhan o'i gwaith ar bynciau STEM.
Ie, credaf ei bod yn gywir y gall llawer o bobl ennill mwy o arian o bosibl drwy gael gyrfa mewn meysydd fel adeiladu yn hytrach na dilyn llwybr addysg brifysgol, efallai, oherwydd mae'r fantais ariannol o gael gradd yn gyfyngedig y dyddiau hyn gan fod cynifer o bobl yn meddu ar radd prifysgol mewn gwirionedd. Felly, o ystyried yr hyn rydych newydd ei ddweud—ac rwy'n tueddu i gytuno â byrdwn cyffredinol yr hyn a ddywedoch chi—i ba raddau rydych yn cysylltu gyda'r Gweinidog addysg, ac Eluned Morgan hefyd, o bosibl, y Gweinidog sgiliau, i gydgysylltu dull o weithredu fel bod mwy o bobl ifanc yn cael eu hannog i gael gyrfa mewn meysydd fel adeiladu yn y dyfodol?
Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw. Buaswn yn dweud bod gwerth mewn dysgu a phrofiad prifysgol bob amser, ond mae angen i ni wneud mwy i sicrhau bod parch cydradd rhwng sgiliau academaidd a sgiliau mwy ymarferol yn ogystal. Felly, yn sicr, mae mwy waith i'w wneud o ran canfyddiadau o yrfaoedd ym maes adeiladu a meysydd eraill, a gallaf gadarnhau fy mod wedi bod yn gweithio'n agos gydag Eluned Morgan yn ei rôl cyflogadwyedd er mwyn sicrhau bod tai'n darparu llwyfan i bobl ifanc gael cyfle i weithio yn y diwydiant tai ac adeiladu, a gwneud hynny mewn ffordd sy'n cynnig dilyniant a chyfleoedd a rhagolygon gwaith da ar gyfer y dyfodol.