Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 9 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 2:32, 9 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cael fy nhemtio i fynd ar drywydd hyn eto, ond, na, ni wnaf hynny; ni fyddaf ond yn cythruddo pobl yma. [Chwerthin.] Mae dwy flynedd wedi bod bellach ers sefydlu tasglu'r Cymoedd i fynd i'r afael â thlodi yn y Cymoedd. A allwch roi enghraifft i ni, enghraifft glir, o ran pa un peth, yn rhan o'r trafodaethau hyn, sydd wedi newid polisi'r Llywodraeth ers sefydlu tasglu'r Cymoedd?