Gwasanatheau Cyhoeddus a Nodau Llesiant

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 9 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 3:00, 9 Mai 2018

Mae cyfraniadau Gweinidogion Cymru ym mhob un o'r trafodaethau rydym ni'n eu cael gyda Gweinidogion y Deyrnas Unedig wastad yn seiliedig ar approach polisi'r Llywodraeth yma. Mae hynny ei hun wedi ei greiddio yn egwyddorion y Ddeddf rydych chi wedi ei disgrifio. Felly, mae pob un rhan o'n polisïau ni a'r ffyrdd gwahanol y byddwn ni'n gwireddu ein huchelgeisiau dros ein gwlad yn rhan o, ac yn ffynnu o, yr un commitment i'r Ddeddf ac i'r egwyddorion sy'n rhan ohoni. Felly, mi fydd Gweinidogion Cymru ym mhob un achos, nid jest tra ein bod ni'n delio â'r Deyrnas Unedig, ond pob un cyfle rydym ni'n ei gael, yn gwireddu ein gweledigaeth a sicrhau bod hyn yn rhan hanfodol ohoni hi.