Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 9 Mai 2018.
A chithau hefyd yn gorff cyhoeddus, wrth gwrs, o dan Ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol, ac, o dan ddyletswyddau'r Ddeddf yma, er mwyn cyrraedd y nodau llesiant, mae’n rhaid i chi ymwneud â’ch ffwythiannau mewn ffordd sy’n hyrwyddo datblygiad cynaliadwy ym mhob agwedd. Mae hynny wedi’i ymgorffori yn y Ddeddf a hefyd yn Neddf Cymru, sydd wedi’i newid gan y Ddeddf. Nawr, nid ydym ni'n cytuno ar effaith y Bil tynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd a’r cytundeb rhynglywodraethol, ond mae’n rhaid ichi gytuno fframweithiau dros y Deyrnas Gyfunol o dan y cytundeb yna—rŷm ni’n gallu cytuno ar hynny, mae’n siŵr gen i. Felly, a fedrwch chi esbonio sut y byddwch chi’n sicrhau bod datblygu cynaliadwy yn cael ei gadw a'i grisialu mewn unrhyw fframweithiau dros y Deyrnas Gyfunol, gan fod hwnnw nawr bellach yn rhan o'r gwaith yr ydych chi'n cytuno ei wneud gyda Llywodraeth San Steffan? Yn benodol, a fydd gyda ni fel Cynulliad yr hawl i bleidleisio ar gynnwys y fframweithiau hyn wrth ichi negodi hynny er lles y nodau llesiant?