Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 9 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 2:33, 9 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, ond onid realiti'r sefyllfa yw bod hwn yn gynllun arall gan Lywodraeth Cymru i gicio'r can i lawr y ffordd fel nad oes rhaid i chi ymdrin â chanlyniadau eich diffyg gweithredu ar dlodi ac anghydraddoldeb? Mae gennych gyllideb lai ac nid oes gennych unrhyw reolaeth dros les, ac ymddengys nad oes gan y Llywodraeth hon unrhyw ewyllys o gwbl i hyd yn oed geisio cael elfennau amrywiol o les wedi'u datganoli, er bod Cadeirydd Llafur y pwyllgor cydraddoldeb yn dweud y dylai fod gennym rai pwerau dros weinyddu lles. Byddai Llywodraeth ddifrifol, gydag awydd go iawn i ddatrys problemau anghydraddoldeb a thlodi, yn llamu at y cyfle i gael rhywfaint o ddylanwad dros les, ond nid y Llywodraeth hon mae'n debyg. Onid yw'n wir fod tasglu'r Cymoedd wedi datblygu i fod yn ffordd arall i chi edrych ar y materion a siarad am y materion yn hytrach na chyflawni ar y materion penodol hyn?