Gweinyddu Lles

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 9 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 3:01, 9 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Ar yr un pryd ag y mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn cau swyddfeydd lleol, mae credyd cynhwysol yn magu gwraidd yng Nghymru. Erbyn 2022, bydd 400,000 o gartrefi yng Nghymru yn dibynnu ar gredyd cynhwysol. Yn y gorffennol, ac eto heddiw, mae'r Llywodraeth Lafur hon wedi gwrthod y cyfle i ddatganoli gweinyddu lles, ac rydych wedi honni y byddai'n rhy gostus. Mae'r ffigur o £266 miliwn a ddyfynnwyd gan Weinidogion fel cost datganoli lles yn gwbl gamarweiniol, oherwydd mae'r ffigur hwnnw'n seiliedig ar gostau a dalwyd i Lywodraeth yr Alban gan San Steffan i weinyddu'r holl bwerau newydd a roddwyd iddynt o dan Ddeddf yr Alban 2016, nid lles yn unig. Felly, gadewch i ni fod yn glir: nid yw'r gost yn rhwystr yma. Rydym wedi clywed y prynhawn yma sut y mae eich Llywodraeth yn honni ei bod yn lliniaru effeithiau gwaethaf cyni, ond nid yw hynny'n wir. Yn olaf, felly, a wnaiff y Gweinidog ymuno â Phlaid Cymru i alw am ddatganoli gweinyddu lles fel y gallwn liniaru rhai o effeithiau gwaethaf polisïau lles creulon San Steffan?