2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru ar 9 Mai 2018.
6. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i geisio datganoli gweinyddu lles? OAQ52145
Nid yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi camau i ddatganoli budd-daliadau lles na'u gweinyddiaeth i Gymru. Fel mater o egwyddor, dylai pob un ohonom allu hawlio'n gyfartal gan ein gwladwriaeth les. Dylid diwallu anghenion holl ddinasyddion y DU yn gyfartal ble bynnag y maent yn byw.
Ar yr un pryd ag y mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn cau swyddfeydd lleol, mae credyd cynhwysol yn magu gwraidd yng Nghymru. Erbyn 2022, bydd 400,000 o gartrefi yng Nghymru yn dibynnu ar gredyd cynhwysol. Yn y gorffennol, ac eto heddiw, mae'r Llywodraeth Lafur hon wedi gwrthod y cyfle i ddatganoli gweinyddu lles, ac rydych wedi honni y byddai'n rhy gostus. Mae'r ffigur o £266 miliwn a ddyfynnwyd gan Weinidogion fel cost datganoli lles yn gwbl gamarweiniol, oherwydd mae'r ffigur hwnnw'n seiliedig ar gostau a dalwyd i Lywodraeth yr Alban gan San Steffan i weinyddu'r holl bwerau newydd a roddwyd iddynt o dan Ddeddf yr Alban 2016, nid lles yn unig. Felly, gadewch i ni fod yn glir: nid yw'r gost yn rhwystr yma. Rydym wedi clywed y prynhawn yma sut y mae eich Llywodraeth yn honni ei bod yn lliniaru effeithiau gwaethaf cyni, ond nid yw hynny'n wir. Yn olaf, felly, a wnaiff y Gweinidog ymuno â Phlaid Cymru i alw am ddatganoli gweinyddu lles fel y gallwn liniaru rhai o effeithiau gwaethaf polisïau lles creulon San Steffan?
Wel, rwy'n credu bod hyn yn dangos anghytundeb sylfaenol, mewn gwirionedd, rhyngom ni ein hunain a rhwng ein pleidiau mewn perthynas â lle Cymru yn y DU, oherwydd mae hon, wrth gwrs, yn Deyrnas Unedig sy'n caniatáu i ni gyfuno'r risgiau a rhannu'r manteision. Ac mae'n wir bod y dull o ddatganoli budd-daliadau lles yn yr Alban wedi trosglwyddo'r risg sy'n gysylltiedig â'r galw am fudd-daliadau lles i'r Alban, ac mae'r risg yno'n dangos bod gofynion budd-daliadau yn yr Alban yn symud yn gyflymach nag y maent yn ei wneud yn Lloegr. Felly, i Gymru, byddai hyn yn peri risg sylweddol iawn i ni. Ac mae arnaf ofn y byddai costau gweinyddu'r system les yn mynd ag adnoddau oddi ar ddarpariaeth gwasanaethau rheng flaen. Mae'r ffigurau hynny'n gywir. O ran yr Alban, mae'n £66 miliwn am weinyddu a thaliad untro o £200 miliwn am weithredu'r holl bwerau lles sydd newydd eu datganoli—[Torri ar draws.] Ond nid ydyw, oherwydd maent oll yn gysylltiedig â phwerau lles, ac yn bendant, dylai'r adnoddau hynny gael eu defnyddio ar y rheng flaen.
Mewn gwirionedd, gadewch i ni fod yn glir ynglŷn â'r hyn y mae Llywodraeth yr Alban yn ei wneud: nid yw Llywodraeth yr Alban yn gweinyddu taliadau ar gyfer credyd cynhwysol. Cânt eu gweinyddu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae Deddf yr Alban 2016 yn rhoi pwerau i Lywodraeth yr Alban gynnig opsiynau hyblyg i hawlwyr, ac mae'r rhain yn cynnwys talu am elfennau costau tai yn uniongyrchol i landlordiaid cymdeithasol a thaliadau ddwywaith y mis ar ôl y taliad cyntaf hwnnw. Mae'r holl bethau hyn ar gael i bobl sydd ar y credyd cynhwysol yng Nghymru. Yr hyn a wnawn yw ceisio sicrhau bod y cyfleoedd hyn yn cael eu cynnig mewn ffordd ragweithiol i bobl sy'n cael credyd cynhwysol.