2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru ar 9 Mai 2018.
9. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddiwygio llywodraeth leol yng ngorllewin Cymru? OAQ52113
Fe wnes i osod ein gweledigaeth ar gyfer cryfhau llywodraeth leol mewn datganiad llafar ar 20 Fawrth, yn y Papur Gwyrdd sydd wedi’i gyhoeddi i ymgynghori arno fe, a hefyd yn ystod y ddadl ar 25 Ebrill.
Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn gwybod yn iawn fy mod yn gwrthwynebu'r cynigion i uno sir Benfro a dychwelyd i hen fodel Dyfed, oherwydd credaf y bydd yn cael gwared ar yr elfen 'leol' o lywodraeth leol. Gwrandewais yn ofalus iawn ar eich atebion cynharach ar y mater hwn, ac fel rhan o gynlluniau ymgynghori eich Llywodraeth, rwy'n gobeithio'n fawr eich bod yn ymgysylltu â chynghorwyr, nid arweinwyr awdurdodau lleol yn unig, o ystyried yr effaith aruthrol y byddai eich cynigion yn ei chael ar eu cymunedau. Felly, a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau penodol rydych wedi'u cael gyda chynghorwyr yr effeithir arnynt gan y cynigion ar gyfer gorllewin Cymru? A pha ymgysylltiad pellach rydych yn bwriadu ei gael er mwyn sicrhau eich bod o ddifrif, fel Llywodraeth, yn siarad â'r bobl a fydd yn cael eu heffeithio gan y cynigion hyn?
Rwy'n hapus iawn i ddarparu adolygiad, os hoffech, neu ddadansoddiad o'n hymgysylltiad yn ystod y broses hon, i bob Aelod pan fydd y broses wedi'i chwblhau. Rwy'n hapus iawn i rannu'r wybodaeth honno â'r Aelodau, ond rwyf am fynd gam ymhellach, efallai, na'r Aelod sy'n gofyn y cwestiwn. Credaf fod hwn yn fater i ni fel gwlad, fel pobl ac fel cymunedau. Nid wyf yn credu mai mater ar gyfer arweinwyr cyngor neu gynghorwyr yn unig ydyw. Credaf ei fod yn fater i bob un ohonom fel cymuned, er mwyn cael y sgyrsiau hyn a chael dadl ynglŷn â sut rydym eisiau strwythuro a datblygu ein gwasanaethau. Felly, byddwn, fe fyddwn yn siarad â chynghorwyr yn ogystal ag arweinwyr cynghorau, ond byddwn hefyd yn siarad â phobl o bob rhan o'r gymuned ledled ein gwlad.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.