Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 9 Mai 2018.
Gwelais yr adroddiadau hynny, ac fel yr Aelod dros Ogledd Cymru, roedd yr hyn a ddarllenais ac a welais yn peri pryder mawr i mi. Wrth gwrs, materion i Mind Cymru eu datrys ydynt, yn hytrach na'r Llywodraeth hon. Ac os nad ydynt yn gallu datrys y materion hynny, yna yn amlwg byddai'n ddyletswydd ar y Comisiwn Elusennau i fynd i'r afael â'r materion hynny. Nid yw Llywodraeth Cymru yn rheoleiddio elusennau yng Nghymru.