Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 9 Mai 2018.
Llywydd, rydw i'n credu bod pawb yn falch iawn fod yr Aelod dros y gogledd yn cofio'r araith wnes i yn Brighton i gynhadledd y Blaid Lafur. Roeddwn i'n glir yno, ac fe wnaf fod yn glir fan hyn hefyd: y ffordd rydym ni'n darparu ein gwasanaethau fan hyn yw i sicrhau'r deal gorau i ddinasyddion, a hefyd, wrth gwrs, i'r gweithwyr cyhoeddus eu hunain. Mae'n fater i'r awdurdodau eu hunain sut maen nhw'n darparu gwasanaethau, ond buaswn i'n sicrhau bod—. Mae gennym ni y cod ymarfer ar faterion y gweithlu, y two-tier code, ac mae e'n ymwybodol fy mod i'n sicrhau bod swyddogion yn gwneud asesiad cenedlaethol ar draws Cymru bob blwyddyn i sicrhau bod hawliau gweithwyr cyhoeddus yn cael eu sicrhau. Rwy'n hapus iawn i gyhoeddi canlyniadau'r asesiadau yna os nad yw'r Aelod yn ymwybodol bod hynny'n digwydd.