Part of the debate – Senedd Cymru am 3:51 pm ar 9 Mai 2018.
Cafodd trigeinmlwyddiant Deddf Arglwyddiaeth am Oes 1958 ei goffáu yr wythnos diwethaf. Un o'r rhai allweddol a ymgyrchai dros gydraddoldeb yn y Senedd oedd Margaret Mackworth, Arglwyddes Rhondda. Roedd yn swffragét ac yn ymgyrchydd dros gydraddoldeb menywod ar hyd ei hoes, a bu farw yn 1958, fisoedd ar ôl pasio'r Ddeddf Arglwyddiaeth am Oes, a phum mlynedd cyn i Ddeddf Arglwyddiaeth 1963 ganiatáu i fenywod fel hi eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi. Fe'i magwyd yng Nghasnewydd, a daeth yn Ysgrifennydd y gangen leol o Undeb Gymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod—y swffragetiaid—yn 1908. Bellach, mae plac yn dynodi lle y bu iddi ffrwydro bom mewn blwch post ym 1913, gweithred y cafodd ei hel i'r carchar amdani. Er bod y blwch post yn dal i sefyll heddiw, fe wnaeth ei phwynt. Yn ystod y rhyfel byd cyntaf, fe'i penodwyd yn brif reolwr recriwtio menywod yn y Weinyddiaeth Gwasanaeth Cenedlaethol. Ar ôl y rhyfel, sefydlodd bapur Time and Tide gyda'i fwrdd o aelodau benywaidd yn unig. Yn groes i'r disgwyl, enillodd barch mewn byd busnes wedi'i ddominyddu gan ddynion a daeth yn llywydd benywaidd cyntaf Sefydliad y Cyfarwyddwyr. Roedd Arglwyddes Rhondda yn arloeswr: disgrifiodd y bleidlais i fenywod fel 'chwa o awyr iach' a chafodd y llysenw 'Persistent Peeress' yn ei hymdrech i sicrhau cydraddoldeb. Fel y dywed ei bywgraffydd, Angela John, mewn llawer o ffyrdd gwahanol, a dros y degawdau, ceisiodd Arglwyddes Rhondda droi llanw'r farn gyhoeddus ym Mhrydain yn yr ugeinfed ganrif. Am hynny, mae arnom ddiolch mawr iddi.