– Senedd Cymru am 3:49 pm ar 9 Mai 2018.
Eitem 4 yw'r datganiadau 90 eiliad, a daw'r cyntaf yr wythnos hon gan Vikki Howells.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Dydd Sadwrn 5 Mai oedd dechrau Wythnos Ymwybyddiaeth Dystonia 2018. Mae Dystonia yn effeithio ar bob oed. Mae'n anhwylder poenus a gwanychol iawn sy'n anablu. Bydd signalau diffygiol o'r ymennydd yn peri i'r cyhyrau wingo a thynnu'n anghywir ar y corff. Caiff y corff ei orfodi i droi, i wneud symudiadau ailadroddus neu ystumiau annormal. Gall effeithio ar un rhan o'r corff neu yn wir, ar fwy nag un rhan. Yn y mwyafrif llethol o achosion, nid oes modd gwella dystonia—yn hytrach, mae'n gyflwr gydol oes sy'n rhaid ei reoli. Dystonia yw'r cyflwr niwrolegol mwyaf cyffredin ond dau yng Nghymru. Fodd bynnag, ychydig o ymwybyddiaeth ohono a geir ymhlith y cyhoedd a hyd yn oed ymhlith rhai gweithwyr proffesiynol meddygol. Nod Wythnos Ymwybyddiaeth Dystonia yw newid hyn. Mae'r Gymdeithas Ddystonia wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar eu thema, 'Go green and be seen'. Mae'r grŵp trawsbleidiol ar gyflyrau niwrolegol, dan gadeiryddiaeth Mark Isherwood, wedi chwarae rôl ragorol yn sicrhau bod lleisiau pobl yr effeithir arnynt gan ddystonia yn cael eu clywed yma. Hefyd, rwyf am ddiolch i'r Ysgrifennydd iechyd, Vaughan Gething, am gyfarfod â phobl â dystonia yn fy swyddfa etholaeth yn Aberdâr, a hefyd am weithredu ar gyfarfod a gynhaliwyd gyda grŵp cymorth de Cymru o'r Gymdeithas Ddystonia. Ers cael fy ethol, rwyf wedi cyfarfod â llawer o bobl sy'n byw gyda dystonia ac sy'n dal i fyw bywydau llawn iawn. Rwy'n talu teyrnged i'w dewrder a'u cadernid.
Diolch yn fawr iawn. Jayne Bryant.
Cafodd trigeinmlwyddiant Deddf Arglwyddiaeth am Oes 1958 ei goffáu yr wythnos diwethaf. Un o'r rhai allweddol a ymgyrchai dros gydraddoldeb yn y Senedd oedd Margaret Mackworth, Arglwyddes Rhondda. Roedd yn swffragét ac yn ymgyrchydd dros gydraddoldeb menywod ar hyd ei hoes, a bu farw yn 1958, fisoedd ar ôl pasio'r Ddeddf Arglwyddiaeth am Oes, a phum mlynedd cyn i Ddeddf Arglwyddiaeth 1963 ganiatáu i fenywod fel hi eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi. Fe'i magwyd yng Nghasnewydd, a daeth yn Ysgrifennydd y gangen leol o Undeb Gymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod—y swffragetiaid—yn 1908. Bellach, mae plac yn dynodi lle y bu iddi ffrwydro bom mewn blwch post ym 1913, gweithred y cafodd ei hel i'r carchar amdani. Er bod y blwch post yn dal i sefyll heddiw, fe wnaeth ei phwynt. Yn ystod y rhyfel byd cyntaf, fe'i penodwyd yn brif reolwr recriwtio menywod yn y Weinyddiaeth Gwasanaeth Cenedlaethol. Ar ôl y rhyfel, sefydlodd bapur Time and Tide gyda'i fwrdd o aelodau benywaidd yn unig. Yn groes i'r disgwyl, enillodd barch mewn byd busnes wedi'i ddominyddu gan ddynion a daeth yn llywydd benywaidd cyntaf Sefydliad y Cyfarwyddwyr. Roedd Arglwyddes Rhondda yn arloeswr: disgrifiodd y bleidlais i fenywod fel 'chwa o awyr iach' a chafodd y llysenw 'Persistent Peeress' yn ei hymdrech i sicrhau cydraddoldeb. Fel y dywed ei bywgraffydd, Angela John, mewn llawer o ffyrdd gwahanol, a dros y degawdau, ceisiodd Arglwyddes Rhondda droi llanw'r farn gyhoeddus ym Mhrydain yn yr ugeinfed ganrif. Am hynny, mae arnom ddiolch mawr iddi.
Diolch.