Part of the debate – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 9 Mai 2018.
Diolch. Credaf fod y pwynt ynglŷn â chydraddoldeb yn arbennig o bwysig, ac rwy'n meddwl am ofalwyr sy'n oedolion ifanc sydd, ar hyn o bryd, yn wynebu rhwystrau ariannol sy'n eu datgymell rhag camu ymlaen i addysg uwch, neu i brentisiaethau, yn wir. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn gwrando ac yn meddwl sut i ymateb i'r adroddiad hwn, a gytunwch y dylai ystyried ffyrdd o helpu oedolion ifanc sy'n ofalwyr i gychwyn prentisiaethau, a'i gwneud yn haws hefyd i fusnesau gyflogi oedolion ifanc gyda gallu ychydig yn llai cyson i fynychu?