Part of the debate – Senedd Cymru am 3:57 pm ar 9 Mai 2018.
Diolch i chi, Suzy. Nid wyf yn meddwl ein bod wedi cael yr union dystiolaeth honno yn yr ymchwiliad, ond credaf fod yr hyn a ddywedoch yn cyd-fynd â meddwl y pwyllgor hefyd, ac mae'n debyg ei fod yn bwydo i mewn i argymhellion 6 a 7 yn dda iawn, ac roeddwn am fwrw ymlaen i ddweud bod y Llywodraeth wedi'u derbyn mewn egwyddor, mewn gwirionedd, wrth aros i'r ymgynghoriad sydd ar y gweill ddod i ben. Rwy'n credu fy mod yn derbyn hynny; rwy'n derbyn y pwynt fel cam synhwyrol. Ond rwy'n hyderus y bydd unrhyw oedi yn fyr ac y bydd camau gweithredu'n dilyn yn gyflym.
Mae darparu cydraddoldeb o ran cymorth yn bwysig ynddo'i hun yn fy marn i, ond mae hefyd yn atgyfnerthu'r neges fod y ddau lwybr yr un mor bwysig a dilys. Mae'r neges honno yn un bwysig, gan mai un o'n darganfyddiadau oedd y gall canfyddiadau o brentisiaethau lusgo ar ôl y realiti ym meddyliau rhieni ac athrawon. Fel pwyllgor, teimlem fod mwy y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i gynorthwyo cyflogwyr i godi ymwybyddiaeth ymysg amrywiaeth ehangach o bobl ifanc o fanteision prentisiaethau. Mae'r Llywodraeth wedi gwrthod yr argymhelliad hwn ar y sail ei bod eisoes yn darparu gwybodaeth helaeth. Ond rhaid imi ddweud bod hynny'n drueni, gan ei bod yn amlwg i ni, pa wybodaeth bynnag sydd ar gael, nad yw wedi cyrraedd pawb sydd ei hangen, ac mae llawer o bobl ifanc yn dal i deimlo nad yw eu hathrawon a'u rhieni yn rhoi digon o gefnogaeth ac anogaeth i lwybrau galwedigaethol.
Dengys ffigurau diweddaraf Llywodraeth Cymru raniad 60/40 rhwng y rhywiau o'r holl brentisiaid, gyda menywod yn y mwyafrif. Ond wrth balu'n ddyfnach, erys gwahaniaeth ystyfnig rhwng y rhywiau mewn sectorau penodol. Felly, argymhellodd y pwyllgor na ddylid llaesu dwylo o ran y cymorth a roddir i fynd i'r afael â rhagfarnau a chonfensiynau ehangach ynglŷn â rhyw a gyrfaoedd, a bod y cyfle ehangaf ar gael i bawb. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn.
Hefyd, derbyniodd Llywodraeth Cymru ein galwad am fwy o weithredu ynglŷn â diffyg cynrychiolaeth pobl anabl. Amlygodd tystiolaeth ysgrifenedig gan Remploy mai 2.7 y cant yn unig o ddysgwyr mewn darpariaeth ddysgu seiliedig ar waith, ac 1.3 y cant yn unig o brentisiaid yng Nghymru sy'n anabl. Mae hyn yn cymharu â 9 y cant yn Lloegr. Felly, rwy'n edrych ymlaen at weld peth cynnydd yn cael ei wneud o ran hynny.
Yn yr ymchwiliad hwn ac yn ein hadolygiad diweddar o'r ardoll brentisiaethau, roedd yna bryder cynyddol fod Cymru yn llusgo y tu ôl i Loegr mewn perthynas â chyflwyno'r radd-brentisiaeth. Ceir oddeutu 10,000 o radd-brentisiaethau yn Lloegr y flwyddyn academaidd hon, o'i gymharu â dim un yng Nghymru. Felly, argymhellodd y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru osod terfyn amser ar gyfer addysgu gradd-brentisiaethau, ond gwrthodwyd hynny. Mae'r Gweinidog wedi dweud bod yr arian ar gael ac mai mater i brifysgolion, fel cyrff annibynnol, yw penderfynu pa bryd y byddant yn dechrau. Ond nid pwy sydd ar fai sy'n fy mhoeni i a'r pwyllgor mewn gwirionedd; y broblem yw fod yna ganfyddiad cynyddol yng Nghymru fod Cymru ar ei hôl hi. Buaswn yn annog y Gweinidog sgiliau ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn wir, i ddefnyddio eu dylanwad fel bod Cymru'n cyflymu'r broses mewn perthynas â gradd-brentisiaethau.
Ein hargymhelliad olaf oedd y dylai Estyn ystyried sut y mae mynd ati yn y ffordd orau i gynnwys yn ei arolygiadau argaeledd ac ansawdd cyngor gyrfaoedd ar gyrsiau galwedigaethol a hyfforddiant, gan gynnwys prentisiaethau mewn ysgolion. Er bod Estyn yn edrych ar gyngor gyrfaoedd, nid yw'n aml yn faes blaenoriaeth, ac roeddem am ei symud yn uwch ar yr agenda. Bydd athrawon ysgol—y rhan fwyaf ohonynt—sydd wedi dilyn llwybr academaidd eu hunain yn naturiol yn meddwl bod y llwybr hwnnw'n addas i bobl ifanc eraill. Ac mae'r drefn ariannu, wrth gwrs, yn ymwneud â chadw pobl ifanc yn chweched dosbarth yr ysgol ei hun oherwydd yr effaith gadarnhaol a gaiff hynny ar ariannu ysgolion. Felly, mae yna gymhelliant parod yno i ffafrio'r llwybr hwnnw.
Felly, Ddirprwy Lywydd, rwy'n gobeithio fan lleiaf y bydd y ddadl hon a'r cyhoeddusrwydd o'i hamgylch yn annog pobl ifanc, a'r athrawon a'r rhieni y maent yn pwyso arnynt am gyngor, i edrych ar brentisiaethau a'r cyfleoedd y byddant yn eu cynnig fel opsiwn cadarnhaol mewn bywyd. Edrychaf ymlaen at y ddadl y prynhawn yma.