Part of the debate – Senedd Cymru am 4:07 pm ar 9 Mai 2018.
Datgelodd ein hymchwiliad i brentisiaethau yng Nghymru bryderon fod nifer y prentisiaid anabl yng Nghymru yn llawer is na'r gyfradd yn Lloegr, fod rhwystrau economaidd yn atal pobl ifanc rhag manteisio ar gyfleoedd, fod gwahaniaeth rhwng y rhywiau'n parhau ac y gallai prinder darparwyr atal pobl ifanc rhag dilyn prentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Wrth dderbyn ein hargymhelliad ar rywedd a gyrfaoedd, nododd Llywodraeth Cymru, er bod 60 y cant o ddysgwyr sydd ar brentisiaeth yn fenywod, mae hyn—ac rwy'n dyfynnu—
'yn cuddio’r gwahaniaeth rhwng y rhywiau sy’n bodoli mewn rhai sectorau.'
Wrth dderbyn ein hargymhelliad y dylai lunio cynllun gweithredu clir sy'n benodol ar gyfer pobl anabl i fynd i'r afael â'r diffyg cynrychiolaeth o bobl anabl mewn prentisiaethau, ar ôl 19 mlynedd mewn grym, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod—ac rwy'n dyfynnu—
'wedi ymrwymo i wella ein dull gweithredu'.
Dywedant eu bod wedi gweithio gyda Remploy i baru rhai sy'n cymryd rhan yn rhaglen Dewis Gwaith â chyfleoedd prentisiaeth ac wedi cyflwyno dull gweithiwr achos gyda chymorth cydlynwyr prentisiaeth penodedig Remploy. Wel, y mis diwethaf, ymwelais â Remploy Wrecsam i drafod lansio rhaglen cymorth cyflogaeth Llywodraeth y DU, Rhaglen Gwaith ac Iechyd Cymru, ac i wrando ar sesiwn hyfforddi gyda chwsmeriaid. Rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu sicrwydd felly fod ei rhaglen gyflogadwyedd newydd yn ychwanegu at, yn hytrach nag ailadrodd hyn, a dylid ei gynnwys yn yr adroddiad cynnydd blynyddol ar weithrediad ei gynllun cyflogadwyedd y mae'n addo ei ddarparu i'r pwyllgor mewn ymateb i'n hargymhelliad 11.
Wrth ddatgan ei bod yn broses o sefydlu gweithgor prentisiaeth gynhwysol sy'n cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau anabledd ledled Cymru, a fydd—ac rwy'n dyfynnu—
'yn cynhyrchu Cynllun Gweithredu Anabledd Prentisiaethau', byddwn angen sicrwydd y bydd yn gweithredu ar yr esboniad gan Celfyddydau Anabledd Cymru mai'r gwahaniaeth rhwng hyfforddiant ymwybyddiaeth o anabledd a hyfforddiant cydraddoldeb anabledd yw bod hyfforddiant ymwybyddiaeth o anabledd yn aml yn cael ei arwain gan bobl nad ydynt yn anabl sy'n weithwyr proffesiynol yn y proffesiynau meddygol neu ofalu. Mae ffocws meddygol i'r hyfforddiant hwn, mae'n rhoi gwybodaeth i'r cyfranogwyr am namau pobl anabl a ffyrdd o oresgyn anabledd, tra bod hyfforddiant cydraddoldeb anabledd bob amser yn cael ei arwain gan hyfforddwyr sy'n bobl anabl. Mae'r ffocws ar bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl yn gweithio gyda'i gilydd i oresgyn y rhwystrau sy'n anablu yn y gymdeithas. Mae ffocws holistig i'r hyfforddiant hwn, gan gydnabod y bydd cael gwared ar y rhwystrau corfforol, ariannol ac ymagweddol yn creu cymdeithas fwy cynhwysol a hygyrch. Mae hynny'n greiddiol. Mae'n allweddol.
Wrth wrthod ein hargymhelliad y dylai roi mwy o gymorth i gyflogwyr i godi ymwybyddiaeth ymhlith ystod ehangach o bobl ifanc o fanteision prentisiaethau, mae Llywodraeth Cymru yn darparu rhestr o'r wybodaeth y mae eisoes yn ei darparu. Fodd bynnag, nid yw hyn yn ateb y dystiolaeth ysgrifenedig gan Remploy, sy'n nodi mai 2.7 y cant yn unig o ddysgwyr mewn darpariaeth dysgu seiliedig ar waith a 1.3 y cant o brentisiaid yng Nghymru sy'n anabl, o'i gymharu â 9 y cant yn Lloegr, nac awgrym Remploy mai un o'r rhesymau am hyn yw diffyg ymwybyddiaeth o brentisiaethau ymhlith rhieni, cyflogwyr a dysgwyr.
Roedd y bobl ifanc y cyfarfuom â hwy yn Ymddiriedolaeth y Tywysog yn manylu ar y rhwystrau ariannol sy'n atal pobl ifanc rhag manteisio ar brentisiaethau. Wrth dderbyn mewn egwyddor yn unig y dylai greu cronfa galedi gystadleuol ar gyfer prentisiaid sydd ar y lefelau cyflog isaf neu greu consesiynau eraill megis cardiau bws neu reilffyrdd rhatach, fel sydd ar gael i fyfyrwyr eraill, mae Llywodraeth Cymru yn nodi y byddai angen ystyried hyn—ac rwy'n dyfynnu—
'yn erbyn canlyniad yr ymgynghoriad i Deithiau bws rhatach i bobl ifanc yng Nghymru.'
Fodd bynnag, daeth yr ymgynghoriad i ben bedwar mis yn ôl. Er bod Llywodraeth Cymru yn datgan ei bod yn ymateb i'r rhan fwyaf o ymgynghoriadau mewn 12 wythnos, dywedodd ITV Wales ddydd Llun fod Llywodraeth Cymru wedi methu ymateb i bron i draean o'i hymgynghoriadau a lansiwyd ers yr etholiad ddwy flynedd yn ôl. Gadewch inni obeithio nad yw hwn yn un arall. Ac er ei bod yn dweud bod rhoi cymhorthdal tuag at gostau teithio yn debygol o gael ei gategoreiddio fel budd trethadwy yn y DU, mae Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru yn nodi bod awdurdodau lleol yn Sheffield, Lerpwl a Gorllewin Canolbarth Lloegr eisoes wedi cyflwyno cynlluniau tebyg.
Nid yw'n dderbyniol mai mewn egwyddor yn unig y derbyniwyd ein hargymhelliad y dylent ddarparu diweddariadau blynyddol i'r pwyllgor sy'n cwmpasu pob nodwedd warchodedig a mynediad gan gymunedau incwm isel. Mae'r pwyllgor yn glir nad yw prentisiaid yng Nghymru yn gwbl gynrychioliadol eto o'r gymdeithas ehangach y dônt ohoni. Daeth adroddiad diweddar Reform ar y rhaglen brentisiaethau yn Lloegr i'r casgliad y bydd prentisiaid, trethdalwyr a chyflogwyr ar draws y wlad yn elwa am flynyddoedd i ddod pe bai'r newidiadau a ddisgrifiant yn cael eu gwneud.